
Abertawe â rhan amlwg mewn drama am Baris ar ôl y
rhyfel
Abertawe yw un o
sêr annisgwyl drama fawr newydd am fywyd yn y diwydiant ffasiwn ym Mharis ar ôl
yr Ail Ryfel Byd.
THE COLLECTION
sydd wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, yn ddrama hanesyddol
newydd gafaelgar, sydd sydd wedi cael ei phremiere , ac am y tro cyntaf yn gyfan gwbl ar Amazon Prime.
Mae’r gyfres
wedi’i rhannu’n wyth pennod awr o hyd gyda chast trawiadol sy’n cynnwys Richard
Coyle (Coupling, Crossbones) a Tom Riley (Da Vinci’s Demons).
Er bod y ddrama
wedi’i lleoli ym Mharis, cafodd THE COLLECTION ei ffilmio yn Abertawe yn
bennaf, gyda nawdd Cronfa Fuddsoddi Llywodraeth Cymru yn y Cyfryngau. Cafodd
cyfran arwyddocaol o’r gyllideb hael ar gyfer y sioe uchelgeisiol hon ei gwario
yng Nghymru. Darllen mwy.
 |
|
Flame Media Group o Awstralia yn lansio is-adran gynhyrchu
newydd yng Nghaerdydd
Mae cwmni cynhyrchu a dosbarthu rhaglenni teledu annibynnol
hynod lwyddiannus o Awstralia wedi dewis Cymru fel ei ganolfan gynhyrchu
Ewropeaidd newydd, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei ystyried
yn hwb mawr i’r sector sy’n ehangu’n gyflym yng Nghymru.
Gan gynrychioli dros 100 o gynhyrchwyr rhyngwladol, mae
Flame yn fusness dosbarthu byd-eang gyda 2,500 o gynnwys ar werth ar hyn o bryd
i farchnadoedd sefydledig a newydd ledled y byd.
Mae ehangu’r cwmni a’r buddsoddiad mewnol sylweddol i Gaerdydd wedi derbyn
cefnogaeth a chyllid busnes gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cwmni newydd, Wildflame Productions, yn creu dros 20 o swyddi llawn
amser dawnus iawn a bydd yn cefnogi hyd at 200 o swyddi llawrydd.
Amcangyfrifir y bydd dros £1 miliwn yn cael ei wario o fewn cadwyn
gyflenwi Cymru a’r gymuned staff llawrydd o fewn y flwyddyn gyntaf, gan godi i
dros £7 miliwn erbyn blwyddyn pump.
Darllenwch fwy.
|
 |
|
Drama deledu Decline and Fall i gael ei ffilmio yn Ne Cymru
Bydd addasiad o gomedi glasurol ddychanol Evelyn Waugh – Decline and Fall - fydd yn cael ei dangos mewn tair rhan ar BBC Two - yn cael ei ffilmio yn Ne Cymru diolch i gymorth ariannol gan Gronfa Sgrîn Cymru Llywodraeth Cymru.
Mae’r prif waith ffilmio wedi dechrau gyda chast o enwogion sy’n cynnwys Jack Whitehall (Bad Education, Fresh Meat), David Suchet (Poirot Agatha Christie), Eva Longoria (Desperate Housewives) a Douglas Hodge (Penny Dreadful).
Mae Llywodraeth Cymru’n rhoi help ariannol i Tiger Aspect Drama a Cave Bear Productions, sef cynhyrchwyr y gyfres, ac fe ragwelir y byddan nhw’n gwario tua £1.8 miliwn yma yng Nghymru. Darllen mwy.
Darlun gan Tiger Aspect Productions - Whitehall yn ei wisg ar ei ddiwrnod cyntaf o ffilmio yng Ngholeg yr Iwerydd, Castell Sain Dunwyd.
|
 |
|
Llywodraeth Cymru’n buddsoddi i ddatblygu rhaglenni teledu o’r radd
flaenaf
Mae
Llywodraeth Cymru, wedi iddi gael cyngor gan Pinewood Pictures, wedi buddsoddi
mewn cyfres deledu o’r radd flaenaf sef, Minotaur. Mad as Birds, y cwmni
cynhyrchu uchelgeisiol o’r Gogledd, sy’n gyfrifol am y gyfres.
Dyma’r
ail brosiect teledu i gael cefnogaeth gan Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau,
Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ken Skates,
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
“Rydw
i’n hynod falch bod y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau yn cefnogi talent o
Gymru megis Mad as Birds ac y bydd ein cyllid yn sicrhau bod y rhan fwyaf o’r
ffilmio yn digwydd yng Nghymru. Darllen mwy.
|
 |
|
Premiere Their Finest – gafodd ei ffilmio yng Nghymru
Mae’r Their Finest – comedi rhamantus gafodd ei ffilmio
yng Nghymru – wedi cael ei phremiere yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto gyda
golygfeydd trawiadol a hardd o Gymru yn cyd-serennu â chast arbennig. Darllenwch fwy.
|
 |
|
Ffilm
Hir Made in Wales i gael ei harddangos am y tro cyntaf yn FrightFest
Mae ffilm gyntaf 441 Films, Cruel
Summer, wedi ei dangos i’w harddangos yn FrightFest – gwyl ffilmiau Ryngwladol
fwyaf Prydain, sy’n dangos y ffilmiau arswyd, Sci-Fi a chyffro.
Gyda chymorth datblygu busnes gan
dîm diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru, mae’r cwmni o Gaerdydd wedi helpu
i greu deunydd ar gyfer labeli dosbarthu ffilmiau arloesol ledled y byd.
Wrth nodi ymddangosiad cyntaf y
ffilm, a ddangoswyd ar 27ain Awst yn sinema VUE yn Shepherds Bush Llundain
fel rhan o FrightFest’s Discovery Screen.
Cewch wybod mwy ar twitter
drwy ddilyn @441films
Darlun – diolch i 441 Films – y tu ôl i’r llenni ar Cruel Summer
|
 |
|
Hedfan o Gaerdydd i Lundain mewn awr
Mae cysylltiadau hanfodol rhwng Caerdydd a Llundain yn cael eu
cryfhau gyda gwasanaeth awyr dros dro.
Bydd Flybe, cwmni awyrennau rhanbarthol mwyaf Ewrop, yn cynnig
‘teithiau argyfwng’ ar gyfer y cyfnod o chwe wythnos pan fydd Twnel yr Hafren
ar gau.
Bydd modd i deithwyr busnes a thwristiaid hedfan i ganol Canary
Wharf hyd at deirgwaith y dydd o’r 12 Medi – 21 Hydref 2016. Darllenwch
fwy ac archebu yma.
|
 |
|
Goreuon Creadigol Cymru
Mae
Cymru’n genedl o bobl eithriadol. Ydych chi'n adnabod rhywun
sy’n cyflawni pethau rhyfeddol ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn ym myd y
Diwydiannau Creadigol yng Nghymru? Dyma'ch cyfle i'w henwebu ar gyfer Gwobrau
Dewi Sant - y nodau o anrhydeddau uchaf a roddir gan Lywodraeth Cymru i
unigolion a thimau rhagorol sy'n haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol. Rydym yn
arbennig o awyddus bod eich
llwyddiannau mwyaf yn cael eu hystyried ar gyfer un o’r 8 categori gwobrau
enwebir gan y cyhoedd megis Menter,
Arloesedd Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Diwylliant neu’r wobr Ryngwladol.
Yng ngwobrau 2016, enillodd Julie Gardner MBE,
Cynhyrchydd Teledu oedd yn offerynnol mewn adfywio’r diwydiant teledu yng
Nghymru, y wobr Ryngwladol am hybu Cymru i ddiwydiant teledu’r Unol Daleithiau.
Rydym yn sicr bod yna hanes sawl llwyddiant arall o fewn y diwydiannau
creadigol sydd fel hwn, yn haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol.
Peidiwch â cholli’r cyfle i
godi proffil eich sefydliad a’ch diwydiant. Enwebwch yma tan 21 Hydref 2016.
|
Cwmni technegol o Gymru yn ennill cyfle i hyrwyddo ei nwyddau yn
nigwyddiad mwyaf Ewrop ar gyfer gemau ac adloniant rhyngweithiol
Mae cwmni bach o Gaerdydd
sy’n arbenigo mewn creu adnoddau digidol rhyngweithiol ar gyfer y sector addysg
yn un o’r pum buddugwr rhyngwladol ‒ a’r unig un o’r DU ‒ sydd wedi cael ei
ddewis i hyrwyddo’i nwyddau yn Gamescom yn Köln.
Bydd
Eiry Thomas, a sefydlodd The Flitlits Ltd., yn cael cyfle
ar Ddiwrnod Trwyddedu ‒ y diwrnod masnachu ar gyfer trwyddedu a datblygu gemau ‒
i hyrwyddo’i chynhyrchion gerbron darpar fuddsoddwyr, cyhoeddwyr a dalwyr
trwyddedau cysyniadau.
Cafodd Eiry gymorth o Gronfa Datblygu
Digidol Llywodraeth Cymru i greu cyfres o apiau rhyngweithiol dwyieithog sy’n
seiliedig ar anturiaethau The Flitlits /Y Sbridion ‒ sef cymeriadau a greodd er
mwyn helpu i wella sgiliau llythrennedd pobl ifanc. Darllenwch
fwy.
Rydym am gael eich barn ar ddatrys problem tagfeydd ar yr M4
Rydym yn gofyn i fusnesau am eu barn wrth i ateb i ddatrys y tagfeydd ar yr M4 ddod gam yn nes.
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith wedi cyhoeddi Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus Annibynnol ar brosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
Bydd yr ymchwiliad yn dechrau yng Nghasnewydd yn ystod yr hydref.
Hoffwn glywed eich barn, felly ewch i Gwefan yr M4 am ragor o wybodaeth.
Y Prif Weinidog yn
cyhoeddi cynllun i godi hyder byd busnes a chronfa twf a swyddi newydd
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cyhoeddi cynllun i godi
hyder byd busnes a chronfa newydd i gefnogi twf a swyddi fel rhan o ymateb
Llywodraeth Cymru i ganlyniad y refferendwm.
Wrth siarad yng nghyfarfod eithriadol y Cyngor Adfywio
Economaidd yng Nghaerdydd dywedodd Mr Jones bod Llywodraeth Cymru am bwysleisio
i fusnesau a mewnfuddsoddwyr bod Cymru’n parhau i fod ar agor i fusnes. Rhagor o wybodaeth.
Cyfradd cyflogaeth
Cymru yn uwch nag erioed
Mae’r Prif Weinidog wedi ymateb i’r ystadegau diweddaraf am y
farchnad lafur sy'n dangos fod cyfradd cyflogaeth Cymru heddiw yn uwch nag
erioed.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae cyfradd cyflogaeth
Cymru heddiw yn uwch nag erioed, a dros y flwyddyn ddiwethaf mae nifer pobl
ddi-waith Cymru wedi syrthio 30,000 i’w lefel isaf ers 2006. Rhagor o wybodaeth.
Adroddiad gwerthuso terfynol annibynnol yn amlygu
cyfraniad sylweddol Cronfa JEREMIE Cymru at gefnogi BBaCh Cymru
Mae adroddiad gwerthuso
annibynnol gan Regeneris Consulting ac Oldbell3 wedi tynnu sylw at lwyddiant
Cronfa JEREMIE Cymru a gefnogwyd gan Ewrop ac a reolwyd gan Cyllid Cymru, yn
canmol ei chyfraniad sylweddol at gefnogi busnesau bach a chanolig (BBaCh)
Cymru rhwng 2009 a 2015.
Daeth y gwerthusiad terfynol
eang ei gwmpas i'r casgliad fod y Gronfa gwerth £157.5 miliwn wedi dod yn rhan
hollbwysig o'r dirwedd cyllid busnes yng Nghymru, gan wella mynediad i gyllid
ar gyfer BBaCh Cymru a darparu cymorth cyfalaf sylweddol pan oedd amodau yn y
farchnad cyllid busnes yn arbennig o heriol. Rhagor o wybodaeth.
Dydd Mawrth Digidol
Cyfle
i’r gymuned ddigidol sy’n frwdfrydig ynghylch annog cyfleoedd a thwf drwy
dechnolegau digidol i ddod ynghyd bob mis yw Dydd Mawrth Digidol.
Caiff
ei gynnal ddydd Mawrth cyntaf o bob mis yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd,
ac mae’r digwyddiadau yn gymysgedd o sgyrsiau llawn gwybodaeth, trafodaethau
bywiog a rhwydweithio hwyliog i rannu gwybodaeth, ysgogi syniadau a gwneud i
bethau ddigwydd. Os ydych yn arweinydd ym
myd busnes, yn entrepreneur, yn arloeswr, buddsoddwr, datblygwr, yn creu codau,
yn dechrau busnes, addysgwr, hyfforddwr neu yn llunio polisïau, yna cewch wybod
mwy a chofrestru eich diddordeb yma.
MIPCOM –– 17- 20 Hydref 2016, Cannes, Ffrainc
MIPCOM yw y
farchnad flynyddol fyd-eang ar gyfer cynnwys adloniant o bob math, sy’n
canolbwyntio ar brynu, gwerthu, cyllido a dosbarthu, ac mae prif gwmnïau’r
diwydiant yn dod ynghyd i chwilio am gynnwys newydd ac arloesol.
Mae 4,600 o brynwyr yn bresennol, ac mae Mipcom yn darparu rhaglen
gynadledda a digwyddiadau, man arddangos mawr, areithiau a dangos ffilmiau sy’n
ei wneud y lle delfrydol i rwydweithio ac arddangos eich cwmni, cynnwys a
syniadau fel bod cymaint o bobl â phosib yn gweld eich cynnwys.
Bydd Llywodraeth Cymru yn bresennol ar stondin cwmnïau annibynnol UKTI/PACT
ble y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru ar gael drwy’r farchnad i’w gwneud yn
haws i gwmnïau cynhenid gael eu cyflwyno i’r diwydiant. Cofrestru eich diddordeb.
WOMEX – 19-23 Hydref 2016, Galicia, Sbaen
Mae WOMEX yn farchnad
a man arddangos rhyngwladol o gerddoriaeth y byd, gan ddod â cherddorion proffesiynol
at ei gilydd. Un genre yw cerddoriaeth
Geltaidd, sy’n rhoi cyfleoedd sylweddol ar gyfer masnach a buddsoddi
mewnol. Mae tîm Diwydiannu Creadigol
Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda Cerdd Cymru ar y presenoldeb Cymreig yn
WOMEX i hyrwyddo y diwydiannau credigol yng Nghymru ac i gynyddu’r gweithgarwch
economaidd. Cofrestru eich diddordeb.
Dilynwch
ni ar Twitter
Gwnewch yn siwr bod gennych y newyddion
diweddaraf a’ch bod yn cadw mewn
cysylltiad ag adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru
drwy ein dilyn ar Twitter a dod i wybod am y gweithgarewch yn y sector ar @welshgocreative
|