Wrth i uchafbwynt y calendr amaethyddol agor ei ddrysau’r wythnos hon, cyhoeddodd Bwyd a Diod Cymru ffigyrau yn dangos fod y digwyddiad yn parhau i fod yn lle hollbwysig i’r diwydiant er mwyn cyfarfod â manwerthwyr a chwblhau cytundebau allai fod yn rhai gwerthfawr iawn.
Derbyniodd naw gŵyl bwyd a diod ledled Cymru arian gan Lywodraeth Cymru i helpu cefnogi eu digwyddiadau a chryfhau enw da Cymru am gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, yn y cylch cyntaf o geisiadau a dderbyniwyd cyn diwedd mis Mai.
Mae rhai o brif fusnesau bwyd môr Cymru wedi croesi’r Môr Celtaidd gyda’r bwriad o ddysgu ffyrdd newydd o gynyddu faint o bysgod maen nhw’n eu dal ac ychwanegu at eu helw.
Mae Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn eich gwahodd i nodi’r dyddiad
ar gyfer cynhadledd lle y byddwch nid yn unig yn elwa o siaradwyr sy’n
arbenigwyr mewn arloesi a buddsoddi mewn bwyd ond hefyd yn cyfarfod â
chyllidwyr a buddsoddwyr i drafod gofynion eich busnes masnachol.