|
|
Mae tudalennau gwe’r Cwricwlwm newydd i Gymru wedi eu diweddaru
i sicrhau bod y wybodaeth yn fwy hygyrch ac yn darparu strwythur ar gyfer
diweddariadau rheolaidd fel bo datblygiadau’r cwricwlwm yn digwydd.
|
|
|
Toriad haf Dysg
Bydd Dysg yn
cymryd saib dros wyliau'r haf! Diolch i
chi am ddarllen a gobeithio i chi ei gael yn ddefnyddiol. Os hoffech chi i adael inni wybod eich barn am
yr e-gylchlythyr neu os oes syniadau gennych ar sut y gellir ei wella, rhowch
wybod i ni drwy lenwi ein
harolwg neu e-bostiwch yn uniongyrchol dysg@wales.gsi.gov.uk
Mwynhewch
yr haf a welwn ni chi’n mis Medi!
|
Adnoddau Barod i Ddysgu AM DDIM
Mae ymgyrch newydd wedi lansio i gael plant yn ‘barod i ddysgu’ gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams.
Mae'r ymgyrch ‘Barod i Ddysgu’ wedi cael ei gynllunio i helpu rhieni a gofalwyr i baratoi eu plentyn ar gyfer yr ysgol drwy ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau ar gael o ysgolion a meithrinfeydd. Mae'r deunyddiau sydd ar gael yn cynnwys taflen i rieni, siart gweithgaredd y gall rhieni a gofalwyr ei defnyddio gyda'u plentyn ac animeiddiad byr.
Mae pecynnau wedi cael ei dosbarthu i ysgolion cynradd a meithrynfeydd. Os hoffech chi fwy o becynnau ebostiwch
Y disgyblion hynny sy’n dechrau Blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd a
gynhelir yng Nghymru ym mlwyddyn ysgol 2016/17 sy’n cael cinio ysgol am ddim fydd yn gymwys i gael y grant gwisg
ysgol. Bydd disgyblion mewn ysgolion arbennig, lleoliadau anghenion arbennig ac
unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru sy’n 11 oed neu fwy ar ddechrau blwyddyn
ysgol 2016/17 ac
yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim hefyd yn gymwys am y grant.
Datblygwyd modiwl diwrnod
hyfforddiant HMS newydd i gefnogi ymarferwyr ac ysgolion, wrth ddefnyddio'r
celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i liniaru ar effeithiau amddifadedd. Mae
modiwl 1 yn rhoi trosolwg byr o'r prif themâu. Hwn yw’r cyntaf o’r 4 modiwl i gael ei gyhoeddi a’i ddefnyddio.
Cyfle i gwrdd ag addysgwyr o ar draws Cymru a'r
DU i ymchwilio i syniadau arloesol diweddaraf ac adnoddau mewn addysg STEM.
Ymunwch â Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain yn eu noson dathlu 'STEM in Ed'
blynyddol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Cyfle gwych i gyfarfod athrawon, darparwyr
gweithgareddau a Llysgenhadon STEM. Cofrestrwch yn rhad ac am ddim yma
Mae
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penderfynu tynnu’n ôl y penderfyniad i
newid y lefelau disgwyliedig ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 a 3 ac felly unrhyw
newidiadau i'r rheoliadau gosod targedau o ganlyniad i hyn, er mwyn cynyddu’r
lefel cyflawniad ddisgwyliedig ar gyfer dysgwyr mewn Saesneg, Cymraeg (iaith
gyntaf) a Mathemateg ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 2 a 3 o Haf 2018 ymlaen.
Darganfodir yma copi o’r llythr a anfondwyd at y Sector
Addysg.
Mae canllawiau i rieni a gofalwyr wedi eu gyrru i ysgolion cynradd ar
gyfer oll rieni a gofalwyr gyda phlant sy’n dechrau’r cyfnodau perthnasol a chyflwynwyd isod
Sut mae fy mhlentyn yn datblygu yn y Cyfnod Sylfaen?
Sut ‘roedd yr ysgol heddiw? Cynradd 7-11
Sut ‘roedd yr ysgol heddiw? Uwchradd
11-14
Lanlwythwch a rhannwch ddolenni o’r canllawiau electroneg
ar eich gwefannau yn barod ar gyfer
y tymor nesaf.
Os nad ydych wedi derbyn digon o gopïau a hoffech rhai
ychwanegol ar gyfer dechrau’r tymor nesaf, ebostiwch,
os gwelwch yn dda.
Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi canmol y
ffordd mae Ysgol Feithrin Tremorfa wedi codi safonau drwy weithio gyda rhieni,
teuluoedd a’r gymuned yn ehangach.
Cynigion ar gyfer modelau ffïoedd cofrestru i’w
defnyddio gan Gyngor y Gweithlu Addysg o 1 Ebrill 2017 ymlaen
Mae’r llythyr am y Prosiect Biwrocratiaeth a Thablau’r Archwiliad sydd
wedi'u hatodi yn amlinellu gwybodaeth a gaiff ei defnyddio i lunio dogfen
gynhwysfawr. Bydd hon yn ddefnyddiol i ysgolion a cholegau fel adnodd ar gyfer
cynllunio gwaith a meincnodi. Mae'n canolbwyntio ar nodi enghreifftiau o
ddatganiadau sy'n ddyblyg neu'n ddiangen er mwyn lleihau a lliniaru'r baich
biwrocrataidd.
Rydym yn croesawu eich sylwadau, neu unrhyw newidiadau ac ychwanegiadau i'r
ddogfen Prosiect Biwrocratiaeth – Tablau’r Archwiliad. Anfonwch
nhw drwy e-bost at: SchoolsandYoungPeopleWorkforceUnit@Cymru.gsi.gov.uk
erbyn dydd Gwener 21 Hydref.
Gwobrau Dewi
Sant 2017
Ydych chi'n adnabod unigolyn neu grŵp o bobl sy’n
cyflawni pethau rhyfeddol ac yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymunedau yn y
sector addysg, neu bobl ifanc sy’n ysbrydoli a’n cyflawni pethau gwych?
Enwebwch ar gyfer Gwobrau Dewi Sant, yr acolâdau uchaf a
roddir gan y Prif Weinidog i ddathlu llwyddiannau mwyaf Cymru yn y categorïau
Dinasyddiaeth a Phobl Ifanc. Enwebwch
yma tan 21
Hydref 2016.
Mae canlyniadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol
2016 ar gael nawr i ysgolion uwchradd, ysgolion canol ac ysgolion arbennig eu
lawrlwytho. Ceir yn y canllawiau hyn
rai pwyntiau allweddol a allai fod yn ddefnyddiol i’w defnyddio wrth drafod
canlyniadau’r profion gyda rhieni/gofalwyr.
Mae’r dogfennau a fydd ar gael i esbonio
canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau
Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar
gael nawr ar wefan Dysgu Cymru.
Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw
i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd
Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm fer yn cael ei chynnwys ar daflen
canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan
eich ysgol ar gyfer sylw rhieni a gofalwyr.
Mae canllaw i rieni/gofalwyr hefyd ar gael fel llyfryn.
Profion Cenedlaethol 2017
Mae dyddiadau Profion Cenedlaethol 2017 wedi’u pennu fel a ganlyn:
-
Ysgolion Uwchradd: 26 Ebrill – 10 Mai 2017
-
Ysgolion Cynradd: 3 – 10 Mai 2017
-
Ysgolion Canol: 26 Ebrill – 10 Mai 2017
Uwchraddio Hwb+
Er mwyn parhau â’r gwaith o ddatblygu safleoedd Hwb+ ar gyfer ysgolion, caiff pob un o’r 1600+ o safleoedd ysgol yng Nghymru eu huwchraddio yn ystod gwyliau’r haf.
Bydd y gwaith uwchraddio’n golygu bod platfform cyfan Hwb+, gan gynnwys gwefannau i’r cyhoedd, yn cael ei symud o’r SharePoint 2010 presennol i SharePoint 2013.
Mae hyn yn waith uwchraddio sy’n ymwneud â’r platfform cyfan, ac felly o ddydd Gwener 22 Gorffennaf, er y bydd holl safleoedd Hwb+ yn parhau ar gael, byddant ar ffurf darllen yn unig.
Caiff yr holl safleoedd a chynnwys sydd wedi eu symud eu rhyddhau erbyn dydd Iau 1 Medi.
Hwb+ a'r flwyddyn academaidd newydd
I
sicrhau bod eich safle Hwb+ yn cynnwys y defnyddwyr, y dosbarthiadau a’r
pynciau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, cynhelir proses ddiweddaru. Yn y
rhan fwyaf o achosion, eich awdurdod lleol fydd yn rheoli'r broses ac ychydig
iawn o waith gweinyddol y bydd angen ei wneud yn yr ysgol. Ceir rhagor o
wybodaeth a chanllawiau ar Hwb. Fodd bynnag, os
ydych yn cael unrhyw drafferthion, cysylltwch â desg gymorth Hwb+ drwy ffonio
029 2099 0200 neu e-bostiwch supportdesk@hwbsupport.net.
Rydym ni’n galw ar bob ysgol yng Nghymru! A fyddech cystal
â chwblhau arolwg e-Ddiogelwch byr i roi gwybod i ni pa faterion e-Ddiogelwch
rydych chi’n ymdrin â nhw, pa adnoddau rydych chi’n eu defnyddio ar gyfer
eich gwaith e-Ddiogelwch, a sut mae’r adnoddau hyn yn eich helpu i amddiffyn plant
ar-lein.
Meic ydi'r llinell gymorth
gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc (0-25) yng Nghymru. Ers
sefydliad Meic yn 2011, mae wedi delio gyda bron i 30,000 o gysylltiadau, yn
ymwneud ag amrywiaeth eang o faterion o straen arholiadau i fwlio, iselder i
anhwylderau bwyta, a llawer mwy. Gwyliwch y fideo.
Dyddiad cau wedi ymestyn: Cystadleuaeth Straeon
Difyr Dahl
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i
ysgolion yng Nghymru yn unig, felly mae’n gyfle ardderchog i’ch ysgol chi
ennill un o’r gwobrau gwych isod!
- Sioe Roald Dahl – Dychmygwch! ar gyfer eich ysgol
chi (gwerth £150!)
- Gwerth £100 o lyfrau darllen
- Sylw i’ch ysgol chi mewn casgliad a gyhoeddir o
weithiau ar y rhestr fer
Mae Cystadleuaeth Straeon Difyr
Dahl yn gystadleuaeth swyddogol Roald Dahl 100 Cymru i blant sy’n mynychu
Ysgol Gynradd (Blwyddyn 3 i 6) neu Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7 i 13) yng
Nghymru. Darllenwch Mwy
Er mwyn helpu
ysgolion sydd am ddatblygu meddwl disgyblion am syniadau datblygu byd-eang, mae
Rhaglen Dysgu Byd-Eang Cymru yn darparu adnoddau dosbarth dwyieithog am ddim yn
gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016 sy'n dechrau ar 5
Awst.
Rhaglen
Dysgu Byd-eang Cymru - Hyfforddiant Rhwydwaith Ysgolion Arbennig
Mae RhDB-C yn
falch i gynnig Hyfforddiant Dysgu Byd-eang ar Dydd Gwener 23 Medi yn Ysgol Maes
y Coed, Bryncoch, Castell-nedd, SA10 7TY, gyda Tracy Edwards, Canolfan Adnoddau
a Datblygiad Ysgol Swiss Cottage, Camden.
Arbennig o
berthnasol ar gyfer ysgolion ac unedau ADD ac ADDLl yn y brif ffrwd ledled
Cymru. Fe fydd yna hefyd gyfle i ymuno â'r rhwydwaith Ysgolion Arbennig RhDB-C.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â: lbuckley@educationdevelopmenttrust.com
|