eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 11 Gorffennaf 2016 (Rhifyn 466)

11 Gorffennaf 2016 • Rhifyn 466

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

classroomtest 1

Adrodd ar Ganlyniadau’r Profion Cenedlaethol

Mae’r dogfennau a fydd ar gael i esbonio canlyniadau’r Profion Cenedlaethol, gan gynnwys y tablau “Cyfrifo Sgoriau Dysgwyr”, templed Taflen Canlyniadau’r Disgyblion a chyfrifiannell oedran, ar gael nawr ar wefan Dysgu Cymru.

NRNTExplainer

Dadansoddi canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – canllaw wedi’i animeiddio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm fer yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol ar gyfer sylw rhieni a gofalwyr.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Grant Gwisg Ysgol Llywodraeth Cymru 2016/17

Y disgyblion hynny sy’n dechrau Blwyddyn 7 mewn ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru ym mlwyddyn ysgol 2016/17 sy’n cael cinio ysgol am ddim fydd yn gymwys i gael y grant gwisg ysgol. Bydd disgyblion mewn ysgolion arbennig, lleoliadau anghenion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru sy’n 11 oed neu fwy ar ddechrau blwyddyn ysgol 2016/17 ac yn gymwys i gael cinio ysgol am ddim hefyd yn gymwys am y grant.

Profion Cenedlaethol 2017

Mae dyddiadau Profion Cenedlaethol 2017 wedi’u pennu fel a ganlyn:

  • Ysgolion Uwchradd: 26 Ebrill – 10 Mai 2017
  • Ysgolion Cynradd: 3 – 10 Mai 2017
  • Ysgolion Canol: 26 Ebrill – 10 Mai 2017

Sut roedd yr ysgol heddiw? Canllaw ar ysgolion uwchradd i rieni a gofalwyr plant 11-14 oed

Mae copïau o’r canllaw diwygiedig nawr wedi gyrru i ysgolion cynradd er mwyn i ddysgwyr Blwyddyn 6 sy’n gadael yn y haf eu derbyn a rhoi copi u’w rhieni.  Dylai bod pob ysgol ysgol uwchradd wedi derbyn copïau cyfeirnod. 

Lanlwythwch y PDF neu rhannwch y ddolen ar wefan eich ysgol a’i rannu yn eich cyfathrebiadau. 

Os hoffech fwy o gopïau caled dwyieithog cysylltwch â epscomms@cymru.gsi.gov.uk

Arolwg Dysg – helpwch ni i wella'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu â chi!

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer sydd wedi tanysgrifio i'n e-gylchlythyrau, felly roedden ni'n meddwl y byddai'n gyfle gwych i ni gasglu eich barn o ran sut gallwn ni wella'r cylchlythyr.  Rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n darparu'r wybodaeth iawn, yn y fformat gorau, ar yr adeg gywir. Cymerwch funud neu ddwy i gwblhau ein harolwg. Mae'n ddienw ac mae'ch adborth yn bwysig iawn i ni.

‘STEM in Ed’ - digwyddiad rhad ac am ddim - 7 Medi , Abertawe

Cyfle i gwrdd ag addysgwyr o ar draws Cymru a'r DU i ymchwilio i syniadau arloesol diweddaraf ac adnoddau mewn addysg STEM. Ymunwch â Chymdeithas Wyddoniaeth Prydain yn eu noson dathlu 'STEM in Ed' blynyddol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  Cyfle gwych i gyfarfod athrawon, darparwyr gweithgareddau a Llysgenhadon STEM. Cofrestrwch yn rhad ac am ddim yma

Modiwl diwrnod hyfforddiant HMS newydd – Lliniaru ar effeithiau amddifadedd drwy'r celfyddydau, diwylliant a Threftadaeth

Datblygwyd modiwl diwrnod hyfforddiant HMS newydd i gefnogi ymarferwyr ac ysgolion, wrth ddefnyddio'r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth i liniaru ar effeithiau amddifadedd. Mae modiwl 1 yn rhoi trosolwg byr o'r prif themâu. Hwn yw’r cyntaf o’r 4 modiwl i gael ei gyhoeddi a’i ddefnyddio.

Addysg  heblaw yn yr ysgol

Dyma ymateb i adroddiad Estyn o addysg heblaw yn yr ysgol.

Cyfnewidfa Dysgu – ar gael ym mis Medi

Mae’r Cyngor Gweithlu Addysg (CGA) ar ran Llywodraeth Cymru wedi cwblhau gwaith yn ddiweddar ar ddatblygu cynllun cyfnewid dysgu a fydd yn darparu manylion cyfleoedd dysgu proffesiynol rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer meysydd pwnc STEM, Cyfrifiadura a TGCh.  Bydd y Cyfnewidfa Dysgu ar gael drwy wefan CGA o fis Medi 2016 ymlaen

ADNODDAU / CYSTADLAETHAU

Adnoddau Cyfrwng Cymraeg

Yn sgil newidiadau diweddar i fanylebau TGAU, Safon UG ac Uwch dyfarnodd Llywodraeth Cymru grant o hyd at £1miliwn i CBAC dros gyfnod o ddwy flynedd (2016 -18) i reoli’r ddarpariaeth o adnoddau cyfrwng Cymraeg i gefnogi’r cymwysterau hyn.

'Pam Dylai Plant a Phobl Ifanc Gysylltu â Meic'

Meic ydi'r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc (0-25) yng Nghymru. Ers sefydliad Meic yn 2011, mae wedi delio gyda bron i 30,000 o gysylltiadau, yn ymwneud ag amrywiaeth eang o faterion o straen arholiadau i fwlio, iselder i anhwylderau bwyta, a llawer mwy. Gwyliwch y fideo.

Article 1 Welsh -  Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru - Rio 2016 Gemau Olympaidd a Pharalympaidd      

Er mwyn helpu ysgolion sydd am ddatblygu meddwl disgyblion am syniadau datblygu byd-eang, mae Rhaglen Dysgu Byd-Eang Cymru yn darparu adnoddau dosbarth dwyieithog am ddim yn gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016 sy'n dechrau ar 5 Awst.

Article 2  Welsh - Rhaglen Dysgu Byd-eang Cymru - Hyfforddiant Rhwydwaith Ysgolion Arbennig

Mae RhDB-C yn falch i gynnig Hyfforddiant Dysgu Byd-eang ar 23 Medi yn Ysgol Maes y Coed, Bryncoch, Castell-nedd, SA10 7TY, gyda Tracy Edwards, Canolfan Adnoddau a Datblygiad Ysgol Swiss Cottage, Camden.

Arbennig o berthnasol ar gyfer ysgolion ac unedau ADD ac ADDLl yn y brif ffrwd ledled Cymru. Fe fydd yna hefyd gyfle i ymuno â'r rhwydwaith Ysgolion Arbennig RhDB-C. Am fwy o fanylion, cysylltwch â: lbuckley@educationdevelopmenttrust.com  

hwb

Uwchraddio Hwb+

Er mwyn parhau â’r gwaith o ddatblygu safleoedd Hwb+ ar gyfer ysgolion, caiff pob un o’r 1600+ o safleoedd ysgol yng Nghymru eu huwchraddio yn ystod gwyliau’r haf.

Bydd y gwaith uwchraddio’n golygu bod platfform cyfan Hwb+, gan gynnwys gwefannau i’r cyhoedd, yn cael ei symud o’r SharePoint 2010 presennol i SharePoint 2013.

Mae hyn yn waith uwchraddio sy’n ymwneud â’r platfform cyfan, ac felly o 22 Gorffennaf, er y bydd holl safleoedd Hwb+ yn parhau ar gael, byddant ar ffurf darllen yn unig.

Caiff yr holl safleoedd a chynnwys sydd wedi eu symud eu rhyddhau erbyn 1 Medi.

YR YSTADEGAU AC ADRODDIADAU DIWEDDARAF

Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion

Gwariant sydd wedi'i gyllidebu ar gyfer darpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

Gwerthusiad o Ddysgu Seiliedig ar Waith

newyddion arall

OpenMinds: Pam ei bod yn hen bryd mynd yn ôl i’r Lleuad?

20 Gorffennaf 2016

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP

5:45-6.30pm: Cofrestru a Lluniaeth

6:30-7:45pm: Sgwrs a sesiwn holi ac ateb

7:45-8:15pm: Derbyniad diodydd a chyfle i rwydweithio

A fyddai’n bosib byw ar y Lleuad? Beth mae’r darganfyddiadau diweddar sy’n awgrymu fod yna ddŵr ar y Lleuad yn dweud wrthym? Beth ydym yn disgwyl ei ddarganfod y tro nesaf y byddwn yn mynd i’r Lleuad yn 2021?

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym