eCylchlythyr Dysg cyn-11 oed Llywodraeth Cymru – 1 Gorffennaf 2016 (Rhifyn 149)

1 gorffennaf 2016 • Rhifyn 149

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

NRNTExplainer

Dadansoddi canlyniadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – canllaw wedi’i animeiddio ar gyfer rhieni/gofalwyr

Rydyn ni wedi cynhyrchu ffilm fer wedi’i hanimeiddio fel canllaw i rieni/gofalwyr i esbonio adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd dolen i’r ffilm yn cael ei chynnwys ar daflen canlyniadau’r disgyblion ond mae’n bosib hefyd y byddwch am ei rhoi ar wefan eich ysgol.

classroomtest4

Profion Cenedlaethol 2017

Mae dyddiadau Profion Cenedlaethol 2017 wedi’u pennu fel a ganlyn:

  • Ysgolion Uwchradd: 26 Ebrill – 10 Mai 2017
  • Ysgolion Cynradd: 3 – 10 Mai 2017
  • Ysgolion Canol: 26 Ebrill – 10 Mai 2017

DYSG130130

Arolwg Dysg – helpwch ni i wella'r ffordd rydyn ni'n cyfathrebu â chi!

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn y nifer sydd wedi tanysgrifio i'n e-gylchlythyrau, felly roedden ni'n meddwl y byddai'n gyfle gwych i ni gasglu eich barn o ran sut gallwn ni wella'r cylchlythyr.  Rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n darparu'r wybodaeth iawn, yn y fformat gorau, ar yr adeg gywir. Cymerwch funud neu ddwy i gwblhau ein harolwg. Mae'n ddienw ac mae'ch adborth yn bwysig iawn i ni.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Holi barn am y Fframwaith Cymhwysedd Digidol

Mae'r Consortia Rhanbarthol yn holi ysgolion am eu hadborth ar y Fframwaith Cymhwysedd Digidol drafft, a ddatblygwyd gan ymarferwyr o ysgolion Arloeswyr Digidol. Bydd modd iddynt ymateb tan 4 Gorffennaf.

Canllawiau newydd i rieni a gofalwyr ar eu ffordd!

Bydd y canllawiau diwygiedig Sut mae fy mhlentyn yn datblygu yn y Cyfnod Sylfaen a Sut oedd yr ysgol heddiw? yn cael eu darparu i ysgolion ar ddechrau mis Gorffennaf gyda gwybodaeth wnaiff galluogi ac annog rhieni a gofalwyr i gymryd rhan weithgar yn addysg eu plant.

Datganiad Ysgrifenedig - Dyddiadau tymhorau ysgol 2017/18

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

‘Cafodd hysbysiadau eu cyflwyno gan bob un o’r 22 o awdurdodau lleol i ddweud pa ddyddiadau y maent yn cynnig eu pennu ar gyfer 2017/18. Hefyd daeth gwybodaeth i law ar ran 127 o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, sef cynnydd sylweddol ar yr 81 y daeth gwybodaeth i law ar eu rhan y flwyddyn gynt...’

Newidiadau i Ymsefydlu ANG

Mae trefniadau ymsefydlu statudol ar gyfer ANGau yng Nghymru yn newid o fis Medi 2016 ymlaen.

Newidiadau i fframwaith deddfwriaethol llywodraethu ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion i roi hyblygrwydd i gyrff llywodraethu benodi llywodraethwyr sydd â sgiliau y mae eu hangen i fod yn effeithiol ac i bennu eu cyfansoddiad i ddiwallu eu hanghenion penodol.  ‘Mae cyrff llywodraethu ysgolion yn rhan hanfodol o lwyddiant ein hysgolion. Y nhw sy'n gosod y trywydd ar gyfer yr ysgol, ac yn dwyn y pennaeth i gyfrif am berfformiad addysgol ac ariannol yr ysgol...’

Datganiad Ysgrifenedig - Newidiadau i fframwaith deddfwriaethol llywodraethu ysgolion a Datganiad i'r wasg

Cynhadledd Estyn – rhannu teithiau gwella ysgolion cynradd

  • 11 Hydref, Venue Cymru, Llandudno
  • 13 Hydref, Stadiwm y Principality, Caerdydd.

Caiff uwch arweinwyr o’r sector cynradd eu gwahodd i gynhadledd yn yr hydref, lle y gallant gymryd rhan mewn gweithdai gyda sampl o ysgolion cynradd, gwrando ar araith gan y Prif Arolygydd a darganfod model ar gyfer gwella ysgolion cynradd o wahanol bwyntiau cychwyn.  Cofrestrwch eich diddordeb

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael a chânt eu cadarnhau cyn diwedd tymor yr haf

Cronfa Cymorth Addysg 2017-18 Y Weinyddiaeth Amddiffyn – ar agor bellach

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwahodd ceisiadau am 2017-18 gan ysgolion â phlant gwasanaeth y mae eu rhieni sy’n symud yn aml ac adleoli.  Y dyddiad cau am ceisiadau yw 30 Medi 2016.

Hon yw'r flwyddyn olaf y gronfa sydd yn agored i bob ysgol a gynhelir ar draws y DU.

Plant sy'n Derbyn Gofal Deunyddiau Fideo Addysg

Cyhoeddwyd yr adroddiad 'Deall profiadau addysgol a safbwyntiau, cyrhaeddiad, cyflawniad a dyheadau plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru' ym mis Tachwedd 2015. Mae amrywiaeth o ddeunyddiau newydd sy'n cyfathrebu prif ganfyddiadau mewn fformatau hygyrch ar gael yma

Cynllun peilot- ‘Siarad, Dysgu, Gwneud: Rhieni, Plant ac Arian’

Prosiect ar gyfer rhieni yw Siarad, Dysgu, Gwneud: Rhieni, Plant ac Arian, sy’n cael ei  arwain gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol, mewn partneriaeth â Loteri Fawr Cymru, Llywodraeth Cymru, Plant yng Nghymru ac eraill. Nod y prosiect yw helpu plant i ddysgu am arian, er mwyn iddynt allu ei reoli’n dda pan fyddan nhw’n oedolion. 

Os yw eich sefydliad yn darparu rhaglenni rhianta (Rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teulu neu’r Blynyddoedd Rhyfeddol), beth am ymuno â’r cynllun peilot hwn sydd ar waith ledled Cymru?

hwb

Blogio yn Hwb+

Ydych chi'n cynllunio taith ysgol y tymor hwn? Beth am annog eich disgyblion i ddefnyddio Hwb+ i flogio am eu profiadau?

Gall disgyblion ysgrifennu blogiau a'u postio ar wefan gyhoeddus Hwb+ eich ysgol, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'w rhieni am yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud. Neu, gellir postio blogiau ar safleoedd dosbarth, pwnc neu flwyddyn yn Hwb+ a'u defnyddio fel pwyntiau trafod pan fyddwch yn dychwelyd i'r dosbarth. I gael rhagor o syniadau ar ddefnyddio blogiau, ewch i dudalennau cymorth Hwb+ yn

Adnoddau Ewro 2016

Gyda Chymru gyfan yn mwynhau’r bencampwriaeth pêl-droed Ewropeaidd, beth am gael golwg ar ein adnoddau thematig Ewro 2016 ar Hwb?

ADNODDAU / CYSTADLAETHAU

Cystadleuaeth Straeon Difyr Dahl

Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i ysgolion yng Nghymru yn unig, felly mae’n gyfle ardderchog i’ch ysgol chi ennill un o’r gwobrau gwych isod!

  • Sioe Roald Dahl – Dychmygwch! ar gyfer eich ysgol chi (gwerth £150!)
  • Gwerth £100 o lyfrau darllen
  • Sylw i’ch ysgol chi mewn casgliad a gyhoeddir o weithiau ar y rhestr fer

Mae Cystadleuaeth Straeon Difyr Dahl yn gystadleuaeth swyddogol Roald Dahl 100 Cymru i blant sy’n mynychu Ysgol Gynradd (Blwyddyn 3 i 6) neu Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7 i 13) yng Nghymru. Bydd y gystadleuaeth yn agored i dderbyn cynigion rhwng 30 Mai a 20 Gorffennaf 2016. Darllenwch Mwy

newyddion arall

Estyn - Swyddi gwag

Swyddi Swyddog Gweinyddol

£17,200 - £21,500. Bydd y cyflog dechreuol ar waelod y raddfa.  Gallai cyflog dechreuol uwch gael ei gynnig os gall yr ymgeiswyr ddangos gwybodaeth, sgiliau a phrofiad eithriadol mewn perthynas â’r swydd benodol.

Mae’r rôl wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.

Ymgeisiwch erbyn 10am ar ddydd Llun 11 Gorffennaf 

Adnodd e-ddysgu ar gael i ysgolion yng Nghymru

Mae FFT Education wedi lansio adnodd E-ddysgu er mwyn helpu llywodraethwyr i fanteisio i'r eithaf ar eu Dangosfwrdd i Lywodraethwyr, sef rhan o system ddata FFT Aspire.  Mae'r Dangosfwrdd yn dangos gwybodaeth am ganlyniadau a chynnydd disgyblion, perfformiad pwnc, cynnydd grwpiau disgyblion, cyd-destun yr ysgol, presenoldeb ac yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau, gan ei gwneud yn drosolwg delfrydol ar gyfer cynllunio tuag at arolygiadau – ewch i elearning.fft.org.uk i gofrestru neu i gael rhagor o wybodaeth.

Alun Davies AC yn dod i Gynhadledd Materion Blynyddoedd Cynnar WCEE

Mae Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg yn falch i gyhoeddi bod Alun Davies (AC) y Gweinidog Dysgu Gydol Oes a’r Gymraeg wedi cytuno i siarad yn ein cynhadledd flynyddol ar 6 Gorffennaf yn Abertawe yng Ngwesty’r Village.

Dyma fydd un o’r cyfleoedd cyntaf i’r Gweinidog amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a’r Cyfnod Sylfaen.

Mae’r nifer o lefydd yn gyfyngedig, am ragor o wybodaeth neu i archebu lle cysylltwch â tegan.waites@wales.ac.uk

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant cyn-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym