Mae trefniadau ymsefydlu statudol ar gyfer
ANGau yng Nghymru yn newid o fis Medi 2016 ymlaen.
Canllawiau newydd i rieni a gofalwyr ar eu ffordd!
Bydd y canllawiau diwygiedig, Sut mae fy mhlentyn yn datblygu yn y Cyfnod Sylfaen a Sut oedd yr ysgol heddiw? yn cael eu darparu i ysgolion ar ddechrau mis Gorffennaf gyda gwybodaeth wnaiff galluogi ac annog rhieni a gofalwyr i gymryd rhan weithgar yn addysg eu plant.
Os hoffech y canllaw wedi ei ddarparu mewn iaith cymunedol sbesiffig, ebostiwch epscomms@cymru.gsi.gov.uk erbyn 24 Mehefin 2016 gyda’r iaith a’r cyfanswm copïau. Nid ydym yn gallu gwarantu cyflenwad o'r canllawiau.
Adnodd e-ddysgu
ar gael i ysgolion yng Nghymru
Mae FFT Education wedi lansio adnodd e-ddysgu er mwyn
helpu llywodraethwyr i fanteisio i'r eithaf ar eu Dangosfwrdd i
Lywodraethwyr, sef rhan o system ddata FFT Aspire. Mae'r
Dangosfwrdd yn dangos gwybodaeth am ganlyniadau a chynnydd disgyblion,
perfformiad pwnc, cynnydd grwpiau disgyblion, cyd-destun yr ysgol, presenoldeb
ac yn tynnu sylw at gryfderau a gwendidau, gan ei gwneud yn drosolwg delfrydol
ar gyfer cynllunio tuag at arolygiadau – ewch i elearning.fft.org.uk i gofrestru neu i
gael rhagor o wybodaeth.
Bydd pob ysgol yn derbyn eu hadnoddau Pori Drwy Stori o
20 Mehefin ymlaen, gan gynnwys adnodd newydd sbon ar gyfer teuluoedd. Rhowch y
rhain i deuluoedd newydd yn y cyfarfod cyn Derbyn, fel cyfle i gyflwyno Pori
Drwy Stori fel ffordd yn llawn o sbort i ymwneud ag addysg eu plant ar hyd y
flwyddyn.
Ydych chi wedi
meddwl am ddatblygu eich sgiliau Cymraeg chi?
Mae’r Cynllun Sabothol yn cynnig ystod o gyrsiau sy’n
datblygu sgiliau iaith Gymraeg ymarferwyr dysgu. Hyd yma mae dros fil o ymarferwyr wedi elwa
o’r cyrsiau. Cliciwch ar y dolenni isod
i ddarllen am brofiad rhai cyfranogwyr a chlywed sut mae’r cwrs wedi helpu nhw
a’u hysgolion.
-
Jane Jenkins, Pennaeth, Ysgol Moorland, Caerdydd
-
Siân Giles, Athrawes, Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd
-
Catherine Howarth, Pennaeth, Ysgol Licswm, Sir y Fflint
- Sarah Jones, Athrawes, Ysgol Holl Saint, Wrecsam
Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol a Gwobrau 2016
Roeddem yn falch iawn o gael y cyfle i groesawu athrawon, penaethiaid, a chynrychiolwyr awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i’r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol a Gwobrau yn Llandudno ar 15 Mehefin 2016.
I’r rhai hynny fethodd y cyfle i fynychu, fe ffilmiwyd yr holl gyfraniadau, gan gynnwys y gweithdai, a bydd rhain ar gael ar Hwb cyn hir. Gall y deunyddiau fod o gymorth efallai ar gyfer sesiynau DPP mewn ysgolion.
Enillwyr Gwobrau
Dysgu Digidol Cenedlaethol 2016
Llongyfarchiadau i’r enillwyr canlynol:
Adnodd Cymuned Hwb: Christopher
Jones, Ysgol Gynradd Yr Holl Saint, Caerdydd;
Gwobr
e-Ddiogelwch: Ysgol Gynradd
Cornist Park, Y Fflint;
Gwobr Prosiect
Digidol: Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth, ac Ysgol Gynradd
Johnstown, Sir Gaerfyrddin;
Gwobr Disgyblion
CDDC: Ysgol Gynradd Darran Park, Glyn Rhedynog.
Adnoddau Hwb
Rhai o apiau Cwmni CYNNAL nawr ar gael am ddim ar Hwb.
Beth am gael golwg ar y canlynol?:
Y
Ddaear Gynaliadwy – Gwyddoniaeth, CA2
Cyd-ddibyniaeth
Organebau – Gwyddoniaeth, CA2
Sut
mae pethau’n gweithio – Gwyddoniaeth CA2
Cystadleuaeth Straeon Difyr Dahl
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i ysgolion yng Nghymru yn unig, felly mae’n gyfle ardderchog i’ch ysgol chi ennill un o’r gwobrau gwych isod!
Sioe Roald Dahl – Dychmygwch! ar gyfer eich ysgol chi (gwerth £150!)
Gwerth £100 o lyfrau darllen.
Sylw i’ch ysgol chi mewn casgliad a gyhoeddir o weithiau ar y rhestr fer
Mae Cystadleuaeth Straeon Difyr Dahl yn gystadleuaeth swyddogol Roald Dahl 100 Cymru i blant sy’n mynychu Ysgol Gynradd (Blwyddyn 3 i 6) neu Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7 i 13) yng Nghymru. Bydd y gystadleuaeth yn agored i dderbyn cynigion rhwng 30 Mai a 20 Gorffennaf 2016. Darllenwch Mwy
Mae'r Rhaglen Dysgu
Byd-eang yng Nghymru (RhDB-C ) yn cefnogi ysgolion i ddatblygu ac ymgorffori
addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth byd-eang. Os oes gennych
ddiddordeb mewn cael gwybod mwy, dilynwch y ddolen uchod i rifyn diweddaraf o gylchlythyr Haf y RhDB-C.
|