Mae Adoption UK yn galw ar rieni sy'n mabwysiadu yng
Nghymru i roi gwybod i ysgolion eu plant am ganllaw ar weithio gyda phlant sydd
wedi eu mabwysiadau a'u teuluoedd.
Ydych chi wedi meddwl
am ddatblygu eich sgiliau Cymraeg chi?
Mae’r Cynllun Sabothol yn cynnig ystod o gyrsiau sy’n
datblygu sgiliau iaith Gymraeg ymarferwyr dysgu. Hyd yma mae dros fil o ymarferwyr wedi elwa
o’r cyrsiau. Cliciwch ar y dolenni isod
i ddarllen am brofiad rhai cyfranogwyr a chlywed sut mae’r cwrs wedi helpu nhw
a’u hysgolion.
-
Jane Jenkins, Pennaeth, Ysgol Moorland, Caerdydd
- Siân Giles, Athrawes, Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd
- Catherine Howarth, Pennaeth, Ysgol Licswm, Sir y Fflint
- Sarah Jones, Athrawes, Ysgol Holl Saint, Wrecsam
Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
Mae nifer o
ddigwyddiadau yn cymryd lle ledled Cymru; darganfyddwch beth sy’n digwydd yn
eich ardal chi!
Rhannwch
eich storïau / profiadau gan ddefnyddio #CaruWGI
a chymerwch ran yn y thunderclap Gwaith Ieuenctid ar 23 Mehefin
Bydd
Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei chynnal yn fuan iawn. Os ydych yn darparu
cyfleoedd dysgu a sesiynau sgiliau ar gyfer oedolion dyma’r amser delfrydol i
annog unigolion i fynd ati i ddiweddaru eu sgiliau. Ymunwch â’r ymgyrch er mwyn
helpu i ddathlu a hyrwyddo’r ŵyl ddysgu arbennig hon.. #carudysgu a dilynwch @PorthSgiliauGC
i gael y newyddion diweddaraf.
Mae ymgyrch wedi’i lansio i chwilio am ddysgwyr,
cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o wahanol raglenni
sgiliau ledled Cymru.
Mae’r trefnwyr, Llywodraeth Cymru a Ffederasiwn
Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn gwahodd ceisiadau am Wobrau
Prentisiaethau Cymru eleni. Mae ffurflenni
cais ar gael i’w lawrlwytho o wefan NTFW
Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol a Gwobrau 2016
Roeddem yn falch iawn o gael y cyfle i groesawu athrawon, penaethiaid, a chynrychiolwyr awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i’r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol a Gwobrau yn Llandudno ar 15 Mehefin 2016.
I’r rhai hynny fethodd y cyfle i fynychu, fe ffilmiwyd yr holl gyfraniadau, gan gynnwys y gweithdai, a bydd rhain ar gael ar Hwb cyn hir. Gall y deunyddiau fod o gymorth efallai ar gyfer sesiynau DPP mewn ysgolion.
Enillwyr Gwobrau
Dysgu Digidol Cenedlaethol 2016
Llongyfarchiadau i’r enillwyr canlynol:
Adnodd Cymuned Hwb: Christopher
Jones, Ysgol Gynradd Yr Holl Saint, Caerdydd;
-
Gwobr e-Ddiogelwch: Ysgol Gynradd Cornist Park, Y Fflint;
-
Gwobr Prosiect Digidol: Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth, ac Ysgol Gynradd Johnstown, Sir Gaerfyrddin;
-
Gwobr Disgyblion CDDC: Ysgol Gynradd Darran Park, Glyn Rhedynog.
Adnoddau Hwb
Rhai o apiau Cwmni CYNNAL nawr ar gael am ddim ar Hwb.
Beth am gael golwg ar y canlynol?:
Cystadleuaeth Straeon Difyr Dahl
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i ysgolion yng Nghymru yn unig, felly mae’n gyfle ardderchog i’ch ysgol chi ennill un o’r gwobrau gwych isod!
- Sioe Roald Dahl – Dychmygwch! ar gyfer eich ysgol chi (gwerth £150!)
- Gwerth £100 o lyfrau darllen
- Sylw i’ch ysgol chi mewn casgliad a gyhoeddir o weithiau ar y rhestr fer
Mae Cystadleuaeth Straeon Difyr Dahl yn gystadleuaeth swyddogol Roald Dahl 100 Cymru i blant sy’n mynychu Ysgol Gynradd (Blwyddyn 3 i 6) neu Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7 i 13) yng Nghymru. Bydd y gystadleuaeth yn agored i dderbyn cynigion rhwng 30 Mai a 20 Gorffennaf 2016. Darllenwch Mwy
Mathemateg yw Eich Dyfodol
- Cynhadledd Blwyddyn 10
Cynhelir mewn tri lleoliad yng Nghymru
Mehefin/Gorffennaf
Ysgol Haf Mathemateg Uwch - Gweithdy Blwyddyn 11
7 Gorffennaf - Prifysgol Bangor, 13
Gorffennaf - Prifysgol Abertawe
Gweithdai DPP Mathemateg wedi’u
teilwra’n bwrpasol , e-bostiwch c.e.musselwhite@swansea.ac.uk
Mae'r Rhaglen Dysgu Byd-eang yng Nghymru (RhDB-C ) yn cefnogi
ysgolion i ddatblygu ac ymgorffori addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a
dinasyddiaeth byd-eang. Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy,
dilynwch y ddolen isod i rifyn diweddaraf o gylchlythyr Haf y RhDB-C.
|