eCylchlythyr Dysg cyn-11 oed Llywodraeth Cymru – 15 Mehefin 2016 (Rhifyn 147)

15 Mehefin 2016 • Rhifyn 147

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

NRNT2 130130

Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion mewn perthynas â Phlant sy'n Derbyn Gofal

Mae atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml am weinyddiaeth y Grant Amddifadedd Disgyblion mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal wedi cael eu diweddaru ac mae'r canllawiau cyfredol ar gael yma

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Newydd - canllawiau i ysgolion ar reoli ac ymateb i ddigwyddiadau secstio

Gyda'r cynnydd yn nifer yr achosion o secstio yn gysylltiedig â phobl ifanc, mae SWGfL, cydlynwyr Canolfan Rhyngrwyd Fwy Diogel y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu ysgolion i nodi achosion o secstio, eu rheoli a chyfeirio materion at lefel uwch fel bo’n briodol. Dewch o hyd iddo yn awr ar Hwb

Sut mae Ysgol y Preseli’n rhannu’r neges e-Ddiogelwch

Gyda chymaint o bwyslais ar bethau digidol yn y gymdeithas heddiw, dylai dysgu sgiliau defnyddio technoleg yn ddiogel fod yn rhan annatod o gwricwlwm unrhyw ysgol. Ewch ar Hwb nawr i weld sut mae Ysgol y Preseli  yn Sir Benfro yn rhoi hyn ar waith - gan weddnewid eu hunain yn arweinyddion digidol wrth wneud hynny.

Grant Amddifadedd Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar – gwerthuso’r dull dyrannu

Yn ddiweddar roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol i werthuso dull dyrannu Grant Amddifadedd Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar. Cafodd yr adolygiad ei gynnal gan uned data llywodraeth leol.  Nid oedd canlyniadau'r adolygiad wedi nodi unrhyw faterion sylfaenol o ran y dull dyrannu presennol, ond argymhellwyd mân bethau i'w wella.

Canllaw i ysgolion Cymru ar weithio gyda phlant sydd wedi'u mabwysiadu

Mae Adoption UK yn galw ar rieni sy'n mabwysiadu yng Nghymru i roi gwybod i ysgolion eu plant am ganllaw ar weithio gyda phlant sydd wedi eu mabwysiadau a'u teuluoedd.

NEWYDD Canllaw’r Teulu i Pori Drwy Stori

Bydd pob ysgol yn derbyn eu hadnoddau Pori Drwy Stori o 20 Mehefin ymlaen, gan gynnwys adnodd newydd sbon ar gyfer teuluoedd. Rhowch y rhain i deuluoedd newydd yn y cyfarfod cyn Derbyn, fel cyfle i gyflwyno Pori Drwy Stori fel ffordd yn llawn o sbort i ymwneud ag addysg eu plant ar hyd y flwyddyn.

Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2017 - Enwebiadau Ar Agor!

Mae’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2017.  Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sectorau Addysg, Llywodraeth Leol, Cymunedau, Trechu Tlodi, Tai ac Adfywio sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad  erbyn 29 Gorffennaf 2016.  Cysylltwch â ni trwy e-bost i dderbyn ffurflenni a gwybodaeth bellach.

Arolwg i athrawon: Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, elusen gwrth-hiliaeth

Cwblhewch yr arolwg i alluogi Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth deilwra ei weithdai hyfforddi i athrawon ac ysgolion ar sut i fynd i’r afael â materion fel stereoteipiau, camsyniadau ac agweddau hiliol.  Mae'r arolwg ar gael yma

CYMWYS AM OES – FFOCWS AR WYDDONIAETH

Cynghrair FIRST LEGO

Mae Cynghrair FIRST LEGO yn herio plant i feddwl fel gwyddonwyr a pheirianwyr. Byddant hefyd yn adeiladu, yn treialu ac yn rhaglennu robot annibynnol gan ddefnyddio technoleg LEGO MINDSTORMS® i ddatrys cyfres o dasgau yn y Gêm Robot. Bydd modd cofrestru o 17 Mai.

Grantiau BMCS ar gyfer clybiau Cemeg

Gellir gwneud cais gan athro mewn ysgol gynradd neu uwchradd am symiau hyd at £1,000. Byddai croeso i geisiadau gan glybiau Cemeg sydd am ehangu/gwella eu gweithgareddau a chan y rheini a fyddai’n hoffi dechrau clwb. I gael gwybod mwy am grantiau partneriaeth o hyd at £3,000, cliciwch yma

hwb

Paratoi ar gyfer trosglwyddo o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 gan ddefnyddio Hwb+

Defnyddio Hwb+ i baratoi disgyblion blwyddyn 6 ar gyfer trosglwyddo i’r ysgol uwchradd:

  • Creu safle dosbarth newydd a rhoi mynediad i ddisgyblion blwyddyn 6 a 7.
  • Pennu tasg ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 i flogio ar eu profiad o drosglwyddo.
  • Annog disgyblion blwyddyn 6 i ryngweithio drwy rannu sylwadau ar y blogiau hyn.
  • Lanlwytho mapiau o ysgolion uwchradd, gwybodaeth am bynciau a bywgraffiadau athrawon i safle'r dosbarth.
  • Sefydlu Rhwydwaith Hwb ar gyfer athrawon er mwyn iddynt allu rhannu syniadau'n ymwneud â throsglwyddo.

ADNODDAU / CYSTADLAETHAU

Adnoddau Euro 2016

Ydych chi’n addysgu Cymraeg neu ieithoedd tramor? Edrychwch ar yr  adnoddau thema Ewro 2016 canlynol ar Hwb!

S4C

Cystadleuaeth Côr Cymru 2017

Mae S4C yn falch i gyhoeddi Côr Cymru 2017 – cystadleuaeth gyda gwobr gyntaf o £4,000. 

Mae pump categori yn y gystadleuaeth:

  • Corau Plant 16 oed ac o dan
  • Corau Ieuenctid o dan 25 oed
  • Corau Cymysg, Merched a Meibion

Cynhelir y rowndiau cyn-derfynol rhwng Chwefror 17 – 19 a’r rownd derfynol ar Sul, Ebrill 9 2017 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Gweler amodau llawn y gystadleuaeth ar www.s4c.cymru/corcymru ac ar www.rondomedia.co.uk

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant cyn-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym