|
|
Mae atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml am weinyddiaeth y Grant Amddifadedd Disgyblion mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal wedi cael eu diweddaru ac mae'r canllawiau cyfredol ar gael yma
|
Newydd - canllawiau i ysgolion ar reoli ac ymateb i ddigwyddiadau secstio
Gyda'r cynnydd yn nifer yr achosion o secstio yn gysylltiedig â phobl ifanc, mae SWGfL, cydlynwyr Canolfan Rhyngrwyd Fwy Diogel y Deyrnas Unedig, wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu ysgolion i nodi achosion o secstio, eu rheoli a chyfeirio materion at lefel uwch fel bo’n briodol. Dewch o hyd iddo yn awr ar Hwb
Canllawiau newydd Sut oedd yr ysgol heddiw ar eu ffordd!
Bydd y canllawiau diwygiedig Sut oedd yr ysgol heddiw yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau mis Gorffennaf gyda gwybodaeth wnaiff galluogi ac annog rhieni a gofalwyr i gymryd rhan weithgar yn addysg eu plant.
Os hoffech y canllaw wedi ei ddarparu mewn iaith cymunedol sbesiffig, e-bostiwch epscomms@cymru.gsi.gov.uk erbyn 15 Mehefin gyda’r iaith a’r cyfanswm copïau. Nid ydym yn gallu gwarantu cyflenwad o'r canllawiau.
Sut mae Ysgol y Preseli’n rhannu’r neges e-Ddiogelwch
Gyda chymaint o bwyslais ar bethau digidol yn y gymdeithas heddiw, dylai dysgu sgiliau defnyddio technoleg yn ddiogel fod yn rhan annatod o gwricwlwm unrhyw ysgol. Ewch ar Hwb nawr i weld sut mae Ysgol y Preseli yn Sir Benfro yn rhoi hyn ar waith - gan weddnewid eu hunain yn arweinyddion digidol wrth wneud hynny.
Cwblhewch yr arolwg i alluogi Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth deilwra ei weithdai hyfforddi i athrawon ac ysgolion ar sut i fynd i’r afael â materion fel stereoteipiau, camsyniadau ac agweddau hiliol. Mae'r arolwg ar gael yma
Rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd y Frenhines 2017 - Enwebiadau Ar Agor!
Mae’r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwahodd enwebiadau ar gyfer rhestr Anrhydeddau’r Penblwydd y Frenhines 2017. Os ydych yn gwybod am unrhyw berson sy’n gweithio yn y sectorau Addysg, Llywodraeth Lleol, Cymunedau, Trechu Tlodi, Tai ac Adfywio sydd wedi dangos llwyddiant neu wasanaeth eithriadol, yna anfonwch eich enwebiad erbyn 29 Gorffennaf 2016. Cysylltwch â ni trwy e-bost i dderbyn ffurflenni a gwybodaeth bellach.
Bydd Wythnos Addysg Oedolion yn cael ei chynnal yn fuan. Gall dysgu agor pob mathau o ddrysau, o ieithoedd i gyfrifiaduron, gofal plant i gyllid. Os ydych yn darparu cyfleoedd dysgu a sesiynau sgiliau ar gyfer oedolion ymunwch â’r ymgyrch er mwyn dathlu a hyrwyddo’r hyn yr ydych yn ei gynnig. #carudysgu a dilynwch @PorthSgiliauGC i gael y newyddion diweddaraf.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r dull yr ydym yn ei gynnig ar gyfer mesur deilliannau Bagloriaeth Cymru Ôl-16, a’r gofynion ar gyfer cofnodi data i gefnogi’r dull hwn.
Cyhoeddir yr adroddiad hwn i ymateb i gais am gyngor am y trefniadau mewn colegau arbenigol annibynnol ar gyfer mesur cynnydd dysgwyr a’r graddau y caiff dysgwyr eu paratoi ar gyfer trosglwyddo i addysg bellach neu gyflogaeth.
Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2016 – Cofrestrwch nawr!
15 Mehefin 2016 yn Venue Cymru, Llandudno
Peidiwch a cholli’r cyfle! Mae lleoedd yn mynd yn gyflym ar gyfer y Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol.
rif siaradwyr y gynhadledd:
- Josie Fraser, DigiLit
- Steve Beswick, Microsoft Education UK
- Yr Athro Graham Donaldson
Mae’r digwyddiad hefyd yn cynnwys gweithdai ar bynciau fel y Fframwaith Cymhwysedd Digidol newydd a defnyddio offer Hwb a'r Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2016.
Rhagor o wybodaeth ac archebu tocynnau.
Paratoi ar gyfer trosglwyddo o flwyddyn 6 i flwyddyn 7 gan ddefnyddio Hwb+
Defnyddio Hwb+ i baratoi disgyblion blwyddyn 6 ar gyfer trosglwyddo i’r ysgol uwchradd:
- Creu safle dosbarth newydd a rhoi mynediad i ddisgyblion blwyddyn 6 a 7.
- Pennu tasg ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 i flogio ar eu profiad o drosglwyddo.
- Annog disgyblion blwyddyn 6 i ryngweithio drwy rannu sylwadau ar y blogiau hyn.
- Lanlwytho mapiau o ysgolion uwchradd, gwybodaeth am bynciau a bywgraffiadau athrawon i safle'r dosbarth.
- Sefydlu Rhwydwaith Hwb ar gyfer athrawon er mwyn iddynt allu rhannu syniadau'n ymwneud â throsglwyddo.
Adnoddau Euro 2016
Ydych chi’n addysgu Cymraeg neu ieithoedd tramor? Edrychwch ar yr adnoddau thema Ewro 2016 canlynol ar Hwb!
Defnyddio Hwb i gefnogi trosglwyddo o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7
Os ydych chi’n chwilio am ofod cydweithredol er mwyn galluogi dysgwyr cynradd ac uwchradd i gydweithio ar brosiectau trosglwyddo, gall Pencampwr Digidol eich ysgol greu safle dosbarth newydd yn Hwb+ a darparu mynediad i ddefnyddwyr o’r ysgolion perthnasol. Darllenwch yr astudiaethau achos ar Hwb am ragor o wybodaeth.
Lleoedd cyfyngedig ar gyfer STEM yw ar 27 Mehefin 2016
Cyfle i athrawon gwyddoniaeth a myfyrwyr sydd ym Mlwyddyn
12 ar hyn o bryd ac sy’n astudio 2 gwrs A/AS gwyddoniaeth STEM i drwytho’u
hunain mewn diwrnod o wyddoniaeth. Nod y diwrnod hwn yw ysbrydoli a chefnogi
myfyrwyr i ddewis y cwrs gradd STEM cywir a/neu ddewis gyrfa at y dyfodol. Os hoffech fod yn bresennol neu os hoffech fod yn rhan
o’r digwyddiad, anfonwch e-bost at Sue Diment neu Dr Fiona Wyllie cyn gynted ag y bo modd.
Cymorth i ddatblygu STEM yw ar gyfer blwyddyn 8
Cyfle i ysgolion weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol
Caerdydd i ddatblygu STEMByw 2016 ar gyfer blwyddyn 8. Cynhelir y digwyddiad
hwnnw ar 14 Medi. Os hoffech fod yn YSGOL
BARTNER a chael cyfle i fod yn bresennol yn sesiwn y Panel Cynghori
Athrawon ddydd Iau 30 Mehefin rhwng 4:00 a 5:30pm cysylltwch â Sue Diment neu Wendy Sadler. Cynhelir y digwyddiad yn Adeiladau’r Frenhines,
Prifysgol Caerdydd.
Mae Lleoliadau Ymchwil Nuffield (Bwrsariaethau Gwyddoniaeth Nuffield gynt) yn cynnig cyfle i fwy na 1,000 o fyfyrwyr bob blwyddyn weithio ochr yn ochr â gwyddonwyr, technolegwyr, peirianwyr a mathemategwyr proffesiynol.
Mae myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn gyntaf o gwrs gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ôl-16 yn gymwys i wneud cais. Cysylltwch â’ch Cydgysylltydd Rhanbarthol i gael gwybod mwy am y cynllun yn eich ardal chi. Mae’r broses geisiadau ar gyfer 2016 ar agor a rhaid defnyddio ein system ar-lein.
Gellir gwneud cais gan athro mewn ysgol gynradd neu uwchradd am symiau hyd at £1,000. Byddai croeso i geisiadau gan glybiau Cemeg sydd am ehangu/gwella eu gweithgareddau a chan y rheini a fyddai’n hoffi dechrau clwb. I gael gwybod mwy am grantiau partneriaeth o hyd at £3,000, cliciwch yma
Anogir llysgenhadon STEM ac ysgolion i drefnu eu digwyddiadau eu hunain i gefnogi’r cyfleoedd gwych sydd yna i fenywod ym maes peirianneg. I gael gwybod mwy am gystadlaethau ac adnoddau, cliciwch yma
Mae Olympiad Bioleg Canolraddol newydd y Gymdeithas Fioleg Frenhinol ar agor bellach i athrawon gofrestru eu myfyrwyr Blwyddyn 12.
Caiff yr Olympiad ei gynnal ddydd Mercher 22 Mehefin 2016 yn dilyn peilot llwyddiannus y llynedd. I gofrestru, cliciwch yma.
Dydd Mercher 15 Mehefin 2016 am 9.15am - 3.15pm yn Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n bleser gan Ganolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg eich gwahodd i ddigwyddiad nesaf Cylchgrawn Addysg Cymru. Cynhelir Cefnogir y digwyddiad hwn gan BERA.
Lleisiwch eich barn am arholiadau haf 2016
Mae llawer o gymwysterau Uwch Gyfrannol newydd, a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer Cymru, yn cael eu harholi am y tro cyntaf yr haf hwn, yn ogystal â chymwysterau TGAU a Safon Uwch eraill presennol. Mae Cymwysterau Cymru yn gofyn i ddysgwyr, athrawon, darlithwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn arholiadau’r haf gwblhau arolwg byr. Ni ddylai gymryd mwy na phum munud i gwblhau’r arolwg. I lenwi’r holiadur, cliciwch yma.
Cymwysterau Blaenoriaethol Cyfyngedig Drafft (dyddiad cau: 17 Mehefin)
Mae'r ymgynghoriad
hwn yn gyfle i gyrff dyfarnu a phartïon eraill â diddordeb roi adborth i
Cymwysterau Cymru ar y polisi ar gyfer cyfyngu cymwysterau blaenoriaethol.
Diben y polisi hwn yw rhoi arweiniad i gyrff dyfarnu a phartïon eraill â
diddordeb ar y sail resymegol ar gyfer cyfyngu cymwysterau blaenoriaethol a'r
broses ar gyfer cyfyngu cymwysterau. Manylion yma
Cyhoeddi Cwrs Rheolwyr Data yng Nghymru
Mae cwrs newydd wedi'i lansio i helpu ysgolion uwchradd wella canlyniadau trwy ddefnyddio data perfformiad i dargedu addysgu a darparu adnoddau. Mae FFT Education yn gwahodd rheolwyr data ysgolion i feincnodi canlyniadau, defnyddio arfer gorau, a gweithredu ar gryfderau a gwendidau allweddol yn eu hysgolion. I gael rhagor o wybodaeth am Gwrs Uwch Reolwyr Data FFT Aspire (CA4 a CA5) cliciwch yma.
Taith China Bridge 2016
Oes gennych ddiddordeb mewn hybu dysgu Mandarin yn eich
ysgol? Mae Chinese Bridge yn cynnig cyfle cyffrous ar gyfer arwyr ysgol,
penaethiaid ieithoedd ac awdurdodau lleol. Mae hyd at 10 grant teithio o £500
ar gael i ysgolion Cymraeg- cliciwch yma
i ddarganfod mwy!
|