Ydych chi erioed wedi meddwl sut fywyd oedd i’w gael yng
nghastell mwyaf Cymru? Ymunwch â ni yng Nghastell Caerffili ar ddydd Gwener 13
Mai ac fe gewch ddysgu am y rhai fu’n byw yno – a’r rhai sydd efallai dal yno
heddiw…
Oedd dydd Gwener y 13eg yn dod â lwc ddrwg i drigolion
Castell Caerffili? Beth am ymuno â rhai o eneidiau dewr yr ardal nos Wener yma
yn y Neuadd Fawr am noson o chwedlau canoloesol? Ac os ydych chi’n ddigon
mentrus, ymunwch â thaith o amgylch y castell mawreddog yng ngolau tortsh!
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly ffoniwch 02920 883143 er
mwyn sicrhau eich lle yn y digwyddiad unigryw hwn!
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael. Mae croeso i blant dros 5 oed
yn y digwyddiad; beth am iddynt ddod wedi gwisgo fel marchog bonheddig neu
dywysoges brydferth? Ond cofiwch ddod â dillad ac esgidiau addas ar gyfer y
daith o amgylch y castell.
Ewch i’r dudalen ganlynol am fwy o wybodaeth neu i weld ein
telerau ac amodau: http://cadw.gov.wales/events/allevents/night-at-caerphilly-castle-may-2016/?lang=cy
|