eCylchlythyr Dysg cyn-11 oed Llywodraeth Cymru – 3 Mai 2016 (Rhifyn 145)

3 Mai 2016 • Rhifyn 145

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Tests130130 7

Llawlyfr Gweinyddu Profion

Mae’n cynnwys crynodeb o bob un o lawlyfrau’r profion a chanllawiau ar y trefniadau mynediad a datgymhwyso. Dylai penaethiaid, gweinyddwyr profion ac athrawon cyfarwyddo ei hun â'r ddogfen hon.

Tests130130

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol - Gwybodaeth i rieni a gofalwyr

Mae canllaw i brofion 2016 ar gyfer rhieni ar gael ar-lein nawr. Gellir rhannu'r wybodaeth hon gyda rhieni a gwneud ar gael ar wefan eich ysgol.

classroomtest 3

Datganiad y Pennaeth

Pan fydd prawf olaf y cylch profion wedi’i weinyddu, rhaid i’r pennaeth cadarnhau bod pob canllaw wedi ei dilyn. Rhaid llofnodi datganiad ar gyfer 2015 a’u cyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 16 Mehefin 2016

hwb

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol  2016

Diolch i bawb a ymgeisiodd ar gyfer y Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol 2016. Mae’r broses feirniadu wedi dechrau, a byddwn yn cyhoeddi’r enillwyr fel rhan o’r Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol ar 15 Mehefin yn Venue Cymru, Llandudno. Bydd manylion llawn y gynhadledd a sut i gofrestru ar gael yn fuan.

CwrddHwb Caerdydd – Dydd Mawrth 17 Mai 2016

The Hollies, Brynheulog, Pentwyn, Caerdydd CF23 7XG, 16:30 – 18:00

Dyma’r cyfle olaf i chi fynychu CwrddHwb y flwyddyn academaidd hon. Mae’r digwyddiadau CwrddHwb yn darparu cyfle anffurfiol i athrawon ddod i gwrdd â thîm Hwb, i gael gwybod mwy am Hwb, Hwb+, e-Ddiogelwch, ac i glywed am arfer da ac adnoddau digidol dwyieithog all gefnogi gwaith dysgu ar lawr y dosbarth. Archebwch eich tocynnau rhad ac am ddim.

Hyfforddi’r staff

Mae ysgolion wedi defnyddio dulliau gwahanol ar gyfer hyfforddi eu staff i ddefnyddio pecynnau Hwb, gan gynnwys pecynnau ar gyfer creu Cymuned Dysgu Proffesiynol ar gyfer Dysgu Digidol, a chynnal arolygon o sgiliau’r staff.  Cewch weld sut yr aeth Canolfannau Rhagoriaeth Hwb+ ati i hyfforddi eu staff i ddefnyddio pecynnau Hwb, drwy ddarllen y canllawiau arferion da canlynol:

NEWYDDION ARALL

Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg

Mae’r ganolfan yn hapus i’ch gwahodd i ddigwyddiad Cylchgrawn Addysg Cymru.    Cynhelir Cynhadledd Dyfodol Dysgu Proffesiynol yng Nghymru: hysbysu ymchwil polisi ac arfer ar ddydd Mercher 25 Mai 2016 o 9.15 am i 3.15 pm yn Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd. Cefnogir y digwyddiad hwn gan BERA.

YR YSTADEGAU AC ADRODDIADAU DIWEDDARAF

Ystadegau addysg allweddol

 
 

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-11 yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

dysgu.cymru.gov.uk

hwb.wales.gov.uk

llyw.cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@AdAScymru

@LlywodraethCym