Y Newyddion Diweddaraf am Rwydwaith Gwledig Cymru – Rhifyn 3 Ebrill 2016

Rhifyn 3 Ebrill 2016

 
 

Beth sy’n digwydd yng Nghymru?

Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y cyfnodau ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn cau.  Darllenwch isod i wybod pa gynlluniau y mae’r wybodaeth hon yn berthnasol ar gyfer.

Food Bus

Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd

Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn cau ar 25 Ebrill 2016

Help i fuddsoddi mewn prosesu/marchnata a/neu datblygu cynnyrch amaethyddol.

SMS

Cynllun Rheoli Cynaliadwy

Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn cau ar 07 Mai 2016

Bydd y Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn gwella’r ffordd y caiff ein hadnoddau naturiol eu rheoli a chyfrannu at les ein cymunedau gwledig.

SPG

Cynllun Grant Cynhyrchu’n Gynaliadwy

Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn cau ar 25 Ebrill 2016

Mae’r Cynllun Grant Cynhyrchu’n Gynaliadwy (GCG) yn becyn cymorth grant cyfalaf ar gyfer ffermwyr yng Nghymru.

Coop

Cynllun Cydweithredu a Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi

Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn cau ar 09 Mai 2016

Mae’r Cynllun Cydweithredu a Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi yn rhoi help ar gyfer gweithgareddau cydweithio ar draws y sectorau amaeth, bwyd a choedwigaeth.

FC skills

Cyswllt Ffermio – Rhaglen sgiliau a mentora

Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn cau ar 29 Ebrill 2016

Trwy ein rhaglen Sgiliau a Mentora, gall unigolion cymwys sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio dderbyn cymhorthdal o hyd at 80% tuag at gwblhau cyrsiau hyfforddiant achrededig byr mewn meysydd allweddol.

restoration

Adfer Coetir Glastir

Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn cau ar 29 Ebrill 2016

Mae arian ar gael i ailblannu lleiniau o goed llarwydd sydd wedi'u cwympo i rwystro'r clefyd Phytophthora ramorum rhag lledaenu ac effeithio ar y coed.

creation

Creu Coetir Glastir

Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb yn cau ar 29 Ebrill 2016

Mae Creu Coetir Glastir yn neilltuo cymorth ariannol ar gyfer cynnal gwaith plannu newydd.  Mae cymorth ariannol ar gael hefyd ar gyfer plannu coed ar dir sy’n parhau i gael ei bori fel rhan o system Amaeth-Goedwigaeth h.y sy’n cyfuno amaethyddiaeth a choedwigaeth.

Glastir Survey

Arolwg Manteisio ar Elfen Coetir Glastir

Cyflwynwyd y cynlluniau Coetir Glastir i ddisodli yn rhannol gynllun Coetiroedd Gwell i Gymru (CGG) ac fel rhan o gynllun rheoli ehangach Glastir.  Mae’r adroddiad hwn yn astudio nifer y bobl a fanteisiodd ar gynlluniau Coetir Glastir o fewn y Cynllun Datblygu Gwledig blaenorol.

SCS

Gwerthuso Cynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi

Adroddiad terfynol ar gyfer gwerthusiad annibynnol o Gynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi sy’n cael ei ariannu gan Echel 1 Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, gan gynnwys astudiaethau achos o’r prosiectau a gafodd eu hariannu.

Fairtree

Ffair Cynhyrchion Coedwigoedd Gwyllt

Ar 27 Mai 2016, bydd Llais y Goedwig a Wild Resources Ltd yn cynnal y Ffair Cynhyrchion Coedwigoedd Gwyllt cyntaf ym Mharc Gwledig Glynllifon ger Caernarfon.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae Llais y Goedwig wedi bod yn rhan o brosiect Startree sy’n edrych ar y ffordd rydym yn defnyddio adnoddau ein fforestydd a’n coedwigoedd er lles cymunedau, unigolion a mentrau bach.  Mae’r prosiect yn cymharu arferion yng Nghymru a gwledydd eraill yn Ewrop er mwyn helpu i sbarduno diddordeb mewn defnyddio adnoddau coedwigoedd mewn dull cynaliadwy a chreu incwm mewn ardaloedd gwledig.  Bydd y ffair yn arddangos prosiect Startree.

Beth sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig?

welsh lott

Hyrwyddo eich prosiect ar-lein

Mae hyrwyddo eich prosiect trwy sianeli ar-lein yn ffordd wych i hyrwyddo'r gwaith ardderchog rydych chi'n ei wneud yn eich cymunedau. Mae hefyd yn ffordd dda o ddangos yr effaith gadarnhaol mae’r arian yn ei gael ar drigolion a'u cymunedau. Darllenwch y canllaw defnyddiol hwn gan y Gronfa Loteri Fawr.

vill

Village SOS - cysylltwch.....

Mae Village SOS yn ymgyrch ledled y Deyrnas Unedig.  Er mwyn sicrhau bod prosiectau’n gallu cael cyngor a chymorth yn lleol, mae gan Village SOS rwydwaith o sefydliadau sydd ar gael i’ch helpu.  Mae staff ymroddedig yn y sefydliadau hyn all eich helpu i ystyried ym mha ffyrdd y gall Village SOS eich helpu a datblygu cynllun gweithredu sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer anghenion eich prosiect. 

(Saesneg yn unig)

scott

Astudiaethau achos o raglen LEADER yr Alban

Tystiolaeth weledol sy’n tynnu sylw at chwech o brosiectau ysbrydoledig rhaglen LEADER 2007-2013 yr Alban.  Gwyliwch ffilm Rhwydwaith Gwledig yr Alban.

(Saesneg yn unig)

Beth sy’n digwydd yn Ewrop?

ec

Allyriadau nwyon tŷ gwydr a datblygiadau gwledig yn yr Undeb Ewropeaidd

Bellach, mae amcanion yn ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd wedi’u hymgorffori mewn amrywiaeth eang o bolisïau, gan gynnwys  Rhaglen Datblygu Gwledig Ewrop, sy’n hybu camau ymyrryd amaethyddol cynaliadwy.

 

(Saesneg yn unig)

ENRD

Trosolwg Rhwydweithio Gwledig

Cysylltu Ewrop Wledig - Beth yw Rhwydweithio Gwledig? Darllenwch y llyfryn ENRD newydd ar rwydweithio gwledig yn Ewrop yma.

(Saesneg yn unig)

eip

Syniadau ysbrydoledig: Ychydig o sbeis yn gwella iechyd anifeiliaid 

Yng ngwlad Groeg, mae prosiect wedi darganfod bod llawer o fanteision ynghlwm wrthychwanegu planhigion aromatig fel oregano, saets a rhosmari at fwyd defaid.  O‘u herwydd, mae’r defaid yn iachach ac mae’r priodweddau gwrthocsidyddol sydd yn y cig yn well ac yn cynyddu oes silff y cig hefyd. 

(Saesneg yn unig)

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@cymru.gsi.gov.uk

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/rhwydwaithgwledig

Dilyn ar-lein:

@WalesRuralNet