Araith
y Prif Weinidog ar yr Economi
Mae'r
Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi traddodi araith ar yr economi gan ddweud bod
Cymru a'i heconomi "ar i fyny".
Wrth siarad yn Gloworks, a ddisgrifiodd fel
"ymgorfforiad o'r hyder newydd yn ein diwydiannau creadigol",
pwysleisiodd "hyder ac amrywiaeth cynyddol economi Cymru."
Dywedodd: "O'r dechrau'n deg, mae'r
weinyddiaeth hon wedi bod yn gwbl agored o blaid busnesau ac o blaid twf, gyda
strategaeth glir iawn - creu a diogelu'r nifer fwyaf bosibl o swyddi o ansawdd,
datblygu diwylliant o entrepreneuriaeth, a sicrhau ein bod ni'n gyrchfan
boblogaidd ar gyfer mewnfuddsoddiad o ansawdd uchel. Mae'r strategaeth honno wedi bod yn
llwyddiannus iawn oherwydd yn ystod tymor y llywodraeth hon, rydyn ni wedi
creu, diogelu a chefnogi bron i 150,000 o swyddi."
Cydnabu rôl
Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, gan ddweud iddi weithio'n
"ddiflino" yn cyfarfod cwmnïau ar draws y byd i hyrwyddo manteision
dod i Gymru, gan lwyddo i sicrhau sawl cytundeb. Bu hefyd yn canmol ymateb
cyflym y tîm mewnfuddsoddi a'r amgylchedd hynod gefnogol y mae Llywodraeth
Cymru'n ei greu i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau pwysig ynghylch ble yn y
byd i fuddsoddi.
Dywedodd y Prif Weinidog: "Un o
uchafbwyntiau tymor y Llywodraeth hon i mi'n bersonol oedd y cynnydd mewn hyder
economaidd dros y bum mlynedd, wrth ochr ein hyder cynyddol fel cenedl. Rwy'n
credu'n gryf bod rhaid i'r ddau beth hyn fynd law yn llaw, a bod yr agwedd
gadarnhaol sy’n deillio o hynny yn cael ei chryfhau gan y ddau.
Pwysleisiodd mai'r flaenoriaeth ar gyfer y
dyfodol oedd “yr hyder cynyddol rydyn ni’n ei weld ar draws economi Cymru yn
troi’n swyddi, dan arweiniad y sector preifat a gyda chefnogaeth y llywodraeth,
gan fanteisio ar gryfderau'n gwlad i gystadlu - ac ennill - ar lwyfan y
byd."
"Rydyn ni wedi gosod y sylfeini cryfaf
posibl - nawr mae'n amser adeiladu. Mae Cymru ar i fyny. Mae busnesau Cymru ar
i fyny," meddai. Darllenwch
yr araith yn llawn yma.
|
|
£55,000
i greu gemau newydd i Microsoft
Mae
tri datblygwr gemau yng Nghymru wedi derbyn cyfanswm o £55,000 o grantiau i
greu gemau newydd i Microsoft dan fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Dojo
Arcade a Wales Interactive Ltd, sydd wedi’u lleoli ym Mharc Technoleg Pencoed,
a Sky Fish Studios Ltd o Gaerdydd, yw’r cwmnïau cyntaf yng Nghymru i gymryd
rhan yn rhaglen Greenshoots Microsoft.
Mae
Greenshoots yn rhaglen ddeori sydd wedi bod yn rhedeg mewn partneriaeth â
Creative England dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hi nawr yn cael ei threialu
yng Nghymru â chymorth Llywodraeth Cymru. Rhagor o wybodaeth.
|
|
|
Nawdd gan Lywodraeth Cymru i Syrcas ‘NoFit
State’ yn arwain at berfformiad yn Efrog Newydd
Syrcas
NoFit State o Gymru fydd y syrcas gyfoes gyntaf i berfformio yn St. Ann’s
Warehouse yn Efrog Newydd, a hynny oherwydd trefniant nawdd gan Lywodraeth
Cymru.
Mae’r
trefniant nawdd o £24,000, a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Weinidog, Ken Skates, yn
golygu bod NoFit State yn gallu derbyn gwahoddiad gan St. Ann’s i lwyfannu ei
sioe BIANCO am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau.
Hefyd, dyma fydd y tro cyntaf i’r
cwmni o Gaerdydd, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 30 yn 2016, ymddangos yn yr Unol
Daleithiau. Rhagor o wybodaeth.
|
|
|
Strydoedd
cefn Paris - yn Stiwdios Bae Abertawe
Mae’r
Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi bod yn ymweld â set The Collection yn Stiwdios Bae Abertawe i weld sgiliau’r criw o
Gymru.
Mae'r
tîm wrthi'n ail-greu strydoedd cefn Paris y tu ôl i'r stiwdio ar Ffordd Fabian.
The Collection yw'r ddrama deledu ddiweddaraf
o'r safon uchaf i gael ei ffilmio yng Nghymru. Bydd ar gael i aelodau Amazon
Prime yn y DU nes ymlaen eleni.
Mae wedi cael cymorth gan
Stiwdio Pinewood a Chyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau Llywodraeth Cymru sy'n
derbyn cyngor gan Pinewood Pictures, ac a chwaraeodd rôl hanfodol wrth ddod â'r
gyfres newydd i Gymru. Rhagor o wybodaeth.
|
|
|
Gwella amrywiaeth yn y diwydiant ffilm a
theledu yng Nghymru
Mae Diverse Cymru, sy’n hybu cydraddoldeb ledled Cymru, yn
gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno prosiect ymchwil a fydd yn
archwilio’r rhwystrau sy’n atal pobl o gefndiroedd amrywiol rhag bod yn rhan
o’r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
Bydd yr elusen yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y
diwydiannau creadigol i edrych ar y mater hwn drwy’r prosiect “Amrywiaeth ym
maes Ffilm a Theledu”. Rhagor o wybodaeth.
|
|
|
Ehangu
cynlluniau Band Eang Cyflym Iawn
Mae
dau o gynlluniau Llywodraeth Cymru yn cael eu hehangu er mwyn cynyddu eto fyth
nifer y bobl sy’n gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn yng
Nghymru.
Bydd
newidiadau i Allwedd Band Eang Cymru a’r Cynllun Taleb Gwibgyswllt yn ehangu ar
y band eang cyflym iawn sydd ar gael a bydd yn sicrhau bod cyflymderau
rhyngrwyd cyflymach ar gael i bob cartref a busnes ledled Cymru. Rhagor o wybodaeth.
|
Canolfan Gelfyddydau Pontio, sy’n werth £50 miliwn, i drawsnewid y celfyddydau a diwylliant yng Ngogledd Cymru
Mae Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wedi agor canolfan gelfyddydau ac arloesi Pontio yn swyddogol, gan ddweud y bydd y ganolfan yn cael effaith drawsnewidiol ar y celfyddydau a diwylliant ledled Gogledd Cymru.
Mae’r Ganolfan sy’n werth £50 miliwn ym Mhrifysgol Bangor wedi derbyn cymorth o £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru a £12.5 miliwn o gyllid yr UE.
Wedi’i rhannu dros chwe lefel, mae’r ganolfan yn gartref i theatr hyblyg o faint canolig, Theatr Stiwdio sy’n dal hyd at 120 o bobl, sinema ddigidol, Canolfan Arloesi flaenllaw ac amrywiaeth eang o gyfleusterau i fyfyrwyr, gan gynnwys cartref newydd Undeb y Myfyrwyr a nifer o lefydd i ddysgu ac addysgu. Rhagor o wybodaeth.
Sinema Gyntaf Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae
partneriaeth strategol o sefydliadau ffilm allweddol yng Nghymru wedi dod at ei
gilydd i ddarparu profiad ffilm ar Faes yr Eisteddfod am y tro cyntaf yn 2016.
Mae
BAFTA Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol yn gwethio mewn partneriaeth â Sgrin
Cymru, Canolfan Ffilm Cymru, Chapter, Into Film, Ffilm Cymru Wales, y
Gymdeithas Deledu Frenhinol, BFI Net.Work, ITV Cymru Wales, S4C a TAC. Bydd y cynnig sinema cyntaf ar gael yn yr
Eisteddfod Genedlaethol rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst - yr ŵyl ddiwylliannol
deithiol fwyaf yn Ewrop. Rhagor o wybodaeth.
Dathliad Brenhinol ar gyfer Coleg Brenhinol
Cymru
Cynhaliwyd
digwyddiad gala ym Mhalas Buckingham gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru,
Noddwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, i ddathlu llwyddiannau
conservatoire cenedlaethol Cymru.
Roedd y
noson yn arddangos talent artistiaid ifanc y Coleg ac roedd y gwesteion yn
cynnwys rhai o artistiaid enwocaf Cymru fel y Fonesig Shirley Bassey, Bryn
Terfel a Michael Sheen.
Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy
Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, “Caiff Coleg Brenhinol Cerdd a
Drama Cymru ei gydnabod yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar gyfer
cerddoriaeth a drama ac mae Llywodraeth Cymru yn eithriadol o falch o’r sylfaen
o sgiliau a thalent y mae wedi’i gyfrannu i ddiwydiannau creadigol Cymru.” Rhagor o wybodaeth.
Te Prynhawn gyda’r Comisiynydd Teledu Plant
Cynhaliwyd
y nesaf yn y gyfres o ddigwyddiadau poblogaidd Cwrdd â’r Comisiynwyr gan Creative
Europe Desk UK - Wales a BAFTA Cymru yn ddiweddar. Daeth cynulleidfa o’r diwydiant i’r Te Prynhawn gyda’r Comisiynwyr
Plant i
glywed gan Disney, Cartoon Network, CBBC, Cbeebies, Milkshake ac S4C, ac i
gyflwyno syniadau.
Roedd dros 60 o gynhyrchwyr,
ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd a 30
arall ar-lein. Rhagor o wybodaeth.
Cronfa Gemau’r DU yn cynnig hyd at £25,000 o
gymorth grant i ddatblygu gêm
P’un ai a ydych chi’n gwmni
datblygu gemau cofrestredig, yn fusnes newydd, neu’ch bod chi heb gofrestru
eich cwmni’n gyfreithiol â Thŷ’r Cwmnïau eto, gallech chi gael cymorth grant
hyd at £25,000 i ddatblygu eich gêm newydd. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
ceisiadau yw dydd Llun 18fed Ebrill 2016, 12pm. Rhagor o wybodaeth.
Cronfa
newydd gwerth £136 miliwn i helpu
busnesau Cymru i dyfu
Cyhoeddodd
y Prif Weinidog, Carwyn Jones, gronfa newydd gwerth £136 miliwn gyda chefnogaeth
yr Undeb Ewropeaidd i roi mynediad at gyllid i fusnesau Cymru er mwyn helpu i
ysgogi eu cynhyrchiant a thwf economi Cymru.
Bydd
Cronfa Fusnes Cymru, dan reolaeth Cyllid Cymru, yn cefnogi busnesau bach a
chanolig (BBaChau) i ehangu'n gynt drwy ddarparu cyllid ar ffurf benthyciadau a
buddsoddiadau ecwiti rhwng £50,000 a £2 filiwn.
Bydd y
gronfa hefyd yn rhoi cyllid i fusnesau newydd yn ogystal â chyfalaf risg i greu
a thyfu cwmnïau sy'n ymchwilio ac yn arloesi, gan gynnwys cwmnïau deillio, mewn
sectorau twf allweddol. Rhagor o wybodaeth.
Pecyn
ariannol £21 miliwn er mwyn ehangu
Mae
Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, wedi cyhoeddi £21 miliwn o gyllid newydd i
helpu Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) i dyfu ac i greu neu ddiogelu rhagor
na 1,800 o swyddi.
Caiff yr arian ei ddosbarthu i
fusnesau Cymru trwy ddwy o gronfeydd Cyllid Cymru a thrwy gronfa Ad-daladwy
newydd Llywodraeth Cymru i BBaChau, gwerth £5 miliwn, sy’n cynnig cyllid
ad-daladwy o rhwng £50,000 a £500,000 i helpu BBaChau i dyfu a chreu swyddi.
Nod y gronfa yw creu a/neu ddiogelu o leiaf 500 o swyddi. Rhagor o wybodaeth.
Rhyddhad ardrethi ar gyfer Busnesau Bach wedi’i ymestyn am
flwyddyn gyda £98 miliwn o gyllid
Bydd
Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth Cymru yn cael ei ymestyn am
flwyddyn arall, meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi.
Mae’r
cynllun £98 miliwn, y mae mwy na thri chwarter y safleoedd busnes yng Nghymru
wedi elwa ohono, yn golygu na fydd tua hanner yr holl fusnesau cymwys yn gorfod
talu ardrethi busnes yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf ychwaith. Rhagor o wybodaeth.
Annog
busnesau Cymru i wneud cais am gymorth o ran allforion a thwf
Mae
Llywodraeth Cymru yn galw ar fusnesau Cymru sy'n datblygu, ac sydd â photensial
mawr o ran twf, i wneud cais am gynllun newydd sy'n darparu cymorth pwrpasol er
mwyn helpu eu busnes i dyfu, i hybu allforion ac i greu swyddi newydd.
Mae'r
rhaglen cyflymu busnes cyn cychwyn yn agored i fusnesau sy'n gallu amlinellu
strategaeth dwf uchelgeisiol gyda'r nod o greu 10 o swyddi a sicrhau trosiant o
£2 filiwn yn ystod ei dair blynedd cyntaf. Hefyd bydd ymgeiswyr yn cael cymorth
i nodi cyfleoedd yn y farchnad ryngwladol, gyda'r nod o greu 30% o'i refeniw
trwy allforio. Rhagor o wybodaeth.
Lansio
Cyfeiriadur ar-lein newydd i hyrwyddo busnesau Cymru
Mae
Cyfeiriadur ar-lein newydd o Fusnesau Cymru - a lansiwyd gan Busnes Cymru i
helpu cwmnïau i hyrwyddo eu nwyddau, eu gwasanaeth a'u henw da - yn boblogaidd
iawn, gyda thros 400 o fusnesau wedi cofrestru arno'n barod.
Mae'r
adnodd ar-lein yn agored i unrhyw fusnes yng Nghymru a'i nod yw helpu cwmnïau i
hyrwyddo eu hunain i gwsmeriaid newydd posibl a chodi eu proffil. Rhagor o wybodaeth.
Gall
defnyddwyr chwilio’n gyflym am fusnes yng Nghymru yn ôl enw, sector, rhanbarth
a hidlyddion eraill ac mae rhestru'n broses hawdd, rhad ac am ddim.
Gŵyl
Arloesedd Cymru 2016 - 20 Mehefin - 1 Gorffennaf
Bellach
yn ei thrydedd flwyddyn, bydd Gŵyl Arloesedd Cymru yn arddangos arloesedd yng
Nghymru drwy nifer o ddigwyddiadau, seminarau a gweithdai sy’n cael eu cynnal
gan gwmnïau a chan academia.
Bydd yr Ŵyl yn gyfle i arloeswyr
rwydweithio gydag arbenigwyr diwydiant ac arddangos eu cynnyrch a’u
gwasanaethau i ddarpar gwsmeriaid ac i’r cyhoedd yng Nghymru a thu hwnt. Rhagor o wybodaeth.
Dilynwch ni ar @WG_economy
Gallwch gael y diweddaraf am
Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru a chysylltu â ni
drwy ein dilyn ar Twitter.
|