Cylchlythyr arloesi - rhifyn 14 – Mawrth 2016

Newyddion Arloesi

=============
Arloesi

Rhifyn   14, Mawrth 2016

Expertise Wales
=============
Innovation investment

Cymru yn denu'r buddsoddiad mwyaf erioed ar gyfer prosiectau arloesedd

Mae Cymru wedi denu dros  £50 miliwn gan Innovate UK yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol – y buddsoddiad mwyaf erioed – gan ddod â'r cyfanswm sydd wedi'i ymrwymo i dros £100 miliwn yn ystod tymor presennol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd y ffigurau diweddaraf hyn gan Weinidog yr Economi, Edwina Hart, a ddywedodd fod y strategaethau Gwyddoniaeth i Gymru ac Arloesedd Cymru, ac yn dilyn hyn ffurfio Cyngor Cymru ar Arloesi, oll wedi cyfrannu at sicrhau'r llwyddiant hwn.

Yn ôl y Gweinidog, bydd y buddsoddiad helaeth hwn mewn nifer o brosiectau strategol allweddol yn cael effaith hirdymor sylweddol ar yr economi. Maent yn cynnwys Catapwlt Lled-ddargludydd Cyfansawdd y DU (£50 miliwn), prosiectau caffael y sector cyhoeddus a elwir yn Gatalyddion y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (£2.5 miliwn), 'Launchpad' Ffotoneg Gogledd Cymru (£0.5 miliwn) a'r nod Catapwlt Meddygaeth Fanwl yng Nghaerdydd.

Wrth ymweld â Sefydliad Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe i gofnodi'r buddsoddiad mwyaf erioed, bu Mrs Hart yn cyfarfod â llawer o gwmnïau arloesol iawn sy'n canolbwyntio ar dechnoleg. Maent wedi sicrhau dros £3 miliwn o gyllid gan Innovate UK, yn ogystal ag elwa ar gymorth gan Lywodraeth Cymru. Darllen rhagor.

=============
wwwom

Mwy o fenywod yn y byd gwyddonol yn hanfodol i ddyfodol economaidd Cymru  

Mae adroddiad newydd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o annog mwy o ferched a menywod yng Nghymru i astudio pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) a dilyn gyrfa yn y sector gwyddoniaeth.

Nod Merched Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus yw mynd i’r afael â’r prinder dybryd o fenywod mewn rolau STEM yng Nghymru - ac ar draws gweddill y DU.

Mae’r adroddiad 73 tudalen yn nodi’r angen am newid agwedd ar draws y gymdeithas i chwalu’r rhwystrau presennol a chreu’r gweithlu medrus sydd ei angen i gefnogi twf economaidd Cymru i’r dyfodol. Amcangyfrifir y gallai cynyddu nifer y menywod mewn gwyddoniaeth ar draws y DU fod yn werth £2bn i’r economi cenedlaethol. Darllen rhagor.

=============
dulas

Oergelloedd solar arloesol yn cael cymorth SMARTCymru Llywodraeth Cymru

Mae Dulas, cwmni dylunio a gweithgynhyrchu systemau ynni adnewyddadwy, wedi cael cyllid o £57,400 drwy raglen Llywodraeth Cymru SMARTCymru, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ei Oergelloedd Gyriant Uniongyrchol Solar.

Gan fod cadw brechlynnau’n oer yn her aruthrol i iechyd cyhoeddus ar draws y byd sy’n datblygu, gwelodd Dulas – a wnaeth arloesi gydag oergelloedd brechlynnau solar yn 1982 – fwlch yn y farchnad a mynd ati i ddatblygu oergell solar heb fatri. Darllen rhagor.

=============
e

Eysys yn camu i farchnadoedd tramor newydd gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru

Gyda chymorth drwy gyllid Arloesi Llywodraeth Cymru, mae Eysys sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd wedi datblygu ac wedi camu i farchnadoedd tramor gyda’r platfform e-fasnach Holistic.

Mae hon yn rhaglen sy’n teilwra agweddau penodol ar wefan yr adwerthwr i ddangos i gwsmeriaid y cynnyrch sydd fwyaf perthnasol iddynt hwy.

Dywedodd y Cadeirydd, Simon Powell: "O’n safbwynt ni, bu cymorth Llywodraeth Cymru yn allweddol i ganiatáu i ni ddarparu atebion personoli technoleg y genhedlaeth nesaf i amryfal sectorau.

Heb y gefnogaeth arloesi a gawsom, ni fyddem wedi gallu llwyddo fel y gwnaethom yn y 24 mis diwethaf.’ 

Darllenwch ragor a gweld sut allwn helpu eich cwmni chi.

=============
vv

Cymru yn ymuno â’r Vanguard Initiative

Yn ddiweddar, ymunodd Cymru fel 26ain aelod o’r Vanguard Initiative for New Growth through Smart Specialisation – cynllun a ysgogir gan ymrwymiad rhanbarthau diwydiannol Ewrop i wneud eu priod sectorau diwydiannol yn fwy cystadleuol a gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu prosiectau mawr ar draws yr UE.

Bydd aelodaeth Cymru o’r Vanguard Initiative yn rhoi i randdeiliaid yng Nghymru gyfleoedd i gydweithredu yn genedlaethol a rhyngwladol yn y maes arloesi ac mae iddo’r potensial i wella cyfran Cymru o gyllid grant gan y DU ac Ewrop.

Canfod rhagor.

=============
ge

Cyllid arloesi yn hanfodol i ddiogelu swyddi

Mae’r cwmni meddalwedd morol a leolir yng Nghaerdydd GeoVS wedi datblygu System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) 3D cwbl flaengar yn y maes, gyda help cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Meddai’r sylfaenydd Rafal Goralski ‘mae’n amlwg na fyddai’r prosiect wedi mynd rhagddo heb y cyllid arloesi ac mae wedi helpu i greu system sy’n dal i gael ei defnyddio’n eang a’i datblygu ymhellach.’ 

Darllenwch ragor a chanfod sut allwn ni helpu eich busnes.

=============
ad

Advances Wales - rhifyn 78 allan nawr

Darllenwch am ymchwil, diwydiant a chydweithio clinigol yn y rhifyn arbennig hwn o Advances Wales ar fiowyddoniaeth.

Yn y rhifyn hwn rhoddir sylw i dechnoleg wisgadwy newydd a ddatblygwyd gan anesthetyddion sy’n caniatáu i weithiwr gofal iechyd proffesiynol fonitro arwyddion hanfodol cleifion ym mherifferi eu golwg; ymchwil wyddonol arweiniol sy’n defnyddio geneteg i ragweld canlyniadau clinigol yn gywir; ac ateb cynaliadwy ar gyfer gyrru, sy’n defnyddio technoleg celloedd tanwydd hydrogen i greu ceir effeithlon o ran tanwydd. Darllenwch y rhifyn diweddaraf.

=============

Cronfa £136 miliwn newydd i helpu busnesau yng Nghymru i dyfu

Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £136 miliwn a ategir gan yr UE er mwyn i fusnesau yng Nghymru gael mynediad i gyllid i’w helpu i hybu eu cynhyrchedd a thwf economi Cymru.

Bydd Cronfa Fusnes Cymru, sy’n cael ei rheoli gan Gyllid Cymru, yn helpu busnesau bach a chanolig eu maint i gyflymu eu cynlluniau ehangu trwy ddarparu cyllid ar ffurf benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti o £50,000 hyd at £2 filiwn.

Hefyd bydd y gronfa yn darparu cyllid i ddechrau busnes yn ogystal â chyfalaf risg ar gyfer creu a datblygu cwmnïau sy’n gwneud ymchwil ac sy’n arloesi, yn cynnwys cwmnïau deillio, mewn sectorau twf allweddol. Darllen rhagor.

=============

Pecyn ariannol £21 miliwn er mwyn ehangu

Mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi £21 miliwn o gyllid newydd i helpu Mentrau Bach a Chanolig eu Maint yng Nghymru i ehangu a chreu neu ddiogelu mwy na 1,800 o swyddi.

Bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu i fusnesau Cymreig trwy ddwy gronfa Cyllid Cymru a thrwy Gronfa Ad-daladwy newydd £5 miliwn Llywodraeth Cymru i Fentrau Bach a Chanolig eu Maint, sy’n cynnig cyllid ad-daladwy rhwng £50,000 a £500,000 i helpu Busnesau Bach a Chanolig eu Maint i greu swyddi. Nod y gronfa yw creu a/neu ddiogelu o leiaf 500 o swyddi. Darllen rhagor.

=============

Sioe Deithiol ar Gyflwr Busnesau drwy SMARTInnovation

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o weithdai rhyngweithiol ledled Cymru lle byddwch yn gallu darganfod sut gall eich busnes gael tri diwrnod o wasanaeth ymgynghori am ddim i gael cyngor ar ddylunio a gweithgynhyrchu.

Mae’r sesiynau cyntaf wedi cael eu cynnal yn Nantgarw a Wrecsam ac maent wedi helpu’r cynrychiolwyr i wella eu cynhyrchion, lleihau risg drwy fabwysiadu dylunio yn y broses datblygu cynnyrch a deall beth sy’n atal y broses gynhyrchu rhag gwella. Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad yn eich ardal chi a chael gwybod sut gellir helpu eich busnes chi.

=============

Launchpad cyntaf Gogledd Cymru nawr ar agor

Mae cystadleuaeth Launchpad ar gyfer ffotoneg yn gyfle cyffrous i ddatblygu’r clwstwr thechnolegau ffotoneg, electro-opteg ac optoelectroneg.

Cam cyntaf y broses ymgeisio ydy fideo dwy funud a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ydy canol dydd ar 6 Ebrill 2016. Canfod sut i gofrestru a chymryd rhan.

=============

Galwad i arloeswyr Cymreig arddangos eu gwaith arloesol

Mae busnesau a sefydliadau yng Nghymru yn cael eu hannog i arddangos eu gwaith arloesi yng Nghymru drwy gynnal digwyddiadau fel rhan o Ŵyl Arloesi Cymru 2016 a gynhelir o 20 Mehefin - 1 Gorffennaf.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, bydd yr Ŵyl yn rhoi cyfle i arloeswyr rwydweithio gydag arbenigwyr diwydiannau ac arddangos eu cynhyrchion a’u gwasanaethau i gwsmeriaid posibl a’r cyhoedd o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Mae ceisiadau yn agored i fusnesau ymuno drwy gynnal gweithdai, arddangosfeydd, diwrnodau agored, dangosiadau, darlithoedd a chynadleddau. Canfod rhagor a chymryd rhan.

=============

Dilynwch ni ar  @WG_innovation

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion Arloesedd a chysylltu â thîm Arloesedd adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, gallwch ein dilyn ar Twitter.

=============

Os oes gennych ymholiad, ffoniwch +44(0)3000 6 03000 neu cysylltwch â ni yn: Cymorth Busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch at Wefan Busnes Cymru.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru yn cynnig gwasanaeth un stop ar gyfer holl anghenion eich busnes. Mae Llywodraeth Cymru o blaid busnes, ac mae’n cynnig: mynediad at gyllid, pecynnau cymorth amrywiol, cyngor ynghylch masnachu rhyngwladol, cymorth i ganfod lleoliad, datblygu’r gweithlu a sgiliau, a chysylltiadau â rhwydweithiau diwydiannau.

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.