Mae Sarah Bunton Luxury Chocolates, y siocledwraig arobryn o Gymru, wedi llwyddo’n ddiweddar i ennill archeb gyda John Lewis i ddechrau cyflenwi bariau siocled thema’r Pasg i’w siopau yn 2016.
Mae cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn edrych i gyfeiriad y Dwyrain Canol am farchnadoedd newydd, wrth iddynt baratoi i ymweld â Gulfood yn Dubai y mis nesaf ar gyfer digwyddiad masnachu bwyd a diod rhyngwladol allweddol ar gyfer y sector.
Wrth i Sam Warburton a thîm rygbi Cymru baratoi ar gyfer ymgyrch ddiddorol iawn ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae eu cymheiriaid yn y byd coginio yn paratoi eu brwydr ryngwladol eu hunain.
Bydd y gynhadledd Bwyd ar gyfer y Dyfodol yn rhoi sylw i’r cynnydd mewn arloesi bwyd, iechyd a maetheg ynghyd a’r heriau ar gyfer y dyfodol drwy ddod a busnesau, gwneuthurwyr polisi, academyddion a phobl broffesiynol iechyd at ei gilydd i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau.