Buddsoddiad
gwerth £50 miliwn yn rhoi Cymru wrth galon y diwydiant sy’n arbenigo mewn
lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ewrop
Mae Edwina Hart, Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, wedi
croesawu buddsoddiad gwerth £50 miliwn sy’n rhoi Cymru wrth galon y diwydiant
sy’n arbenigo mewn lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Ewrop.
Cyhoeddodd y Canghellor George Osborne y byddai
Llywodraeth y DU yn gwneud y buddsoddiad hwn, dros y bum mlynedd nesaf, i sefydlu
Canolfan Genedlaethol y DU ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn Ne Cymru,
fel rhan o’r rhwydwaith o gatapyltiau Ymchwil a Datblygu.
Dywedodd Mrs Hart: “Bydd y
cyhoeddiad hwn o gymorth i wireddu ein huchelgais i greu clwstwr o ganolfannau
yn Ne Cymru a fydd yn arbenigo yn y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd. Byddant yn gweithio ar raddfa Ewropeaidd ac
yn cyrraedd y byd i gyd. Mae’r
datblygiad hwn wir yn dangos hyder ym Mhrifysgolion Cymru, yn ei busnesau
lled-ddargludyddion a’i sgiliau.
Mae’n ben llanw dwy flynedd o drafodaethau
rhwng Llywodraeth Cymru, Innovate UK, y sector busnes lled-ddargludyddion yn Ne
Cymru, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth y DU.” Darllen ymlaen.
|
|
Cynhyrchiant
Tan Y Castell yn cynyddu gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru
Mae becws traddodiadol Tan Y Castell o Sir Benfro wedi
prynu offer newydd gyda chymorth cefnogaeth arloesedd.
Dywedodd Paul Mear, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, o
safbwynt datblygu cynnyrch newydd, na fyddai’r cwmni wedi gallu tyfu mor gyflym
heb y cyllid arloesedd.
“Mae wedi agos drysau newydd i ni ynghylch sut i feddwl
am gynhyrchu.” meddai.
I ganfod sut y gall
cymorth arloesedd Llywodraeth Cymru gynorthwyo eich busnes chi darllenwch
yma.
|
|
|
Llywodraeth
Cymru’n cynorthwyo i gynnal swyddi Senior Flexonics
Mae Senior Flexonics, cwmni peirianneg o Grymlyn, wedi
datblygu Oerydd Ailgylchrededig Nwyon Gwacáu gyda chefnogaeth arloesedd
Llywodraeth Cymru.
Mae hyn hefyd wedi cynorthwyo i sicrhau bod y cwmni a’u
swyddi yn aros yn y DU ac mae wedi cyfrannu at newidiadau o ran agwedd yn y
sefydliad, sydd wedi rhoi mwy o bwyslais ar arloesedd ac Ymchwil a Datblygu. Darllenwch ymlaen.
|
|
|
Arloeswyr
y dyfodol yng Nghymru
Mae Oliver Stokes, disgybl ysgol o Drefynwy wedi curo
bron i 16,000 o fyfyrwyr i fod yn enillydd Gwobrau Arloesedd Myfyrwyr 2015.
Rhoddwyd canmoliaeth yn y Gwobrau i uned garbonadu
gludadwy Oliver ar gyfer poteli diod, gwobrau sy’n cael eu cynnal gan
Lywodraeth Cymru a CBAC (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru yn flaenorol).
Roedd 80 o brosiectau yn cael eu harddangos yn y gwobrau
eleni, a bydd nifer o’r rhain yn cynrychioli Cymru yn awr yn The Big Bang Fair
yn yr NEC yn Birmingham ym mis Mawrth. Darllenwch
ymlaen.
|
|
|
Pad
lansio cyntaf Gogledd Cymru
Mae cystadleuaeth Pad Lansio ffotoneg yn cael ei chynnal
yng Ngogledd Cymru.
Mae cynnig Pad Lansio Innovate UK yn
cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu’r clwstwr o dechnolegau ffotoneg,
electro-optig ac optoelectroneg.
Mae Padiau Lansio yn darparu
cyllid ar gyfer arloesedd busnesau sy’n cefnogi datblygiad ac atgyfnerthu
clystyrau o gwmnïau uwch-dechnoleg bach a chanolig eu maint mewn meysydd themâu
a lleoliadau daearyddol penodol.
Cynhelir digwyddiad gwybodaeth ar 11 Chwefror 2016 yn y
Ganolfan OpTIC, Llanelwy. Darllenwch
fwy am hyn a chael gwybodaeth am y broses gwneud cais
|
|
|
Ymchwil yn ysgogi
datblygiad cynnyrch gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru
Mae cwmni Flamgard o Bont-y-pŵl wedi atgyfnerthu ei
arbenigedd ymchwil a datblygu mewnol drwy sefydlu labordy ymchwil a datblygu
newydd ym mhencadlys y cwmni, gyda chefnogaeth gan gyllid arloesedd Llywodraeth
Cymru.
Bydd y cyfleuster yn galluogi Flamgard i gynnal profion
penodol i brofi llif aer, gostyngiadau pwysedd a mesurau perfformiad eraill yn
ymarferol, gan ddefnyddio offer profi penodedig.
Dywedodd Steve Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni: “Diolch i SMARTCymru rydym wedi
llwyddo i ddatblygu diffoddwr tân o safon uchel ac mae hyn wedi ein cynorthwyo
i fod yn un o brif gyflenwyr dyfeisiadau o’r fath yn y diwydiannau prosesau”. I
ganfod sut y gallwn gynorthwyo eich cwmni chi darllenwch yma.
|
|
|
Archwiliad iechyd i fusnesau arloesedd
Mae gwasanaeth Arloesi SMART Llywodraeth Cymru yn cynnig
gwerth tri diwrnod o gyngor am ddim i fusnesau ar ddylunio a gweithgynhyrchu.
Mae’r cymorth hwn yn rhan o becyn newydd o gefnogaeth
SMART sy’n cael ei chefnogi gan gyllid yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Rhys Hughes, o P&A Group wedi elwa o dderbyn y
cyngor hwn. Dywedodd “Byddwn yn
defnyddio’r wybodaeth hon yn awr i’n helpu i ddatblygu ein prosesau
gweithgynhyrchu ac yn yr wythnosau diwethaf rydym wedi cyflogi unigolyn â
chefndir o gynhyrchu a chynllunio i’n cynorthwyo gyda’r gwelliannau sydd eu
hangen.
I gael gwybodaeth ar sut y gallwn gynorthwyo eich busnes
chi darllenwch
yma.
|
Taith Exporting
is GREAT yn ymweld â Chymru
Estynnir gwahoddiad i gwmnïau yng Nghymru fynychu cyfres o ddigwyddiadau
am ddim er mwyn datblygu eu busnes allforio.
Mae taith Exporting is GREAT, menter ar y cyd rhwng
Llywodraeth Cymru a Masnach a Buddsoddi y DU yn ymweld â Chymru rhwng 15 a 26
Chwefror.
Bydd y digwyddiadau, a fydd yn cael eu cynnal mewn deg
lleoliad ar hyd a lled y wlad, yn gallu darparu cyfle i’ch busnes gwrdd ag
arbenigwyr i drafod cyfleoedd busnes rhyngwladol ac i ofyn am gyngor ar eu
marchnadoedd targed drwy gyfres o gyfarfodydd un i un a seminarau - beth bynnag
yw eich maint neu sector. Darllenwch fwy a threfnu eich apwyntiad
er mwyn sicrhau bod eich busnes yn gallu cysylltu â’n
rhestr gynhwysfawr o gysylltiadau rhyngwladol.
Lansio Cyfeiriadur Busnesau Cymru
Mae Busnes Cymru wedi lansio
cyfeiriadur ar-lein newydd o Fusnesau Cymru er mwyn cynorthwyo cwmnïau i
hyrwyddo eu hunain i ddarpar gwsmeriaid newydd, a chodi eu proffil.
Gall defnyddwyr wneud chwiliad cyflym am fusnesau yng
Nghymru yn ôl eu henw, sector, rhanbarth a hidlwyr eraill ac mae’r broses
rhestru a chwilio yn rhwydd.
Gallwch hybu eich nwyddau, gwasanaethau a’ch cymwysterau
i fusnesau eraill a darpar gwsmeriaid a galluogi i fusnesau a defnyddwyr eraill
ganfod eich busnes chi yma.
Hwb ariannol o £14 miliwn gyda chefnogaeth yr UE i beirianneg uwch yng
Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi
cyhoeddi prosiect newydd gwerth £14 miliwn gyda chefnogaeth yr UE i ddatblygu’r
genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn sector peirianneg Cymru.
Gyda chefnogaeth ariannol gwerth
£8.6 miliwn gan yr UE, bydd Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Prifysgol
Abertawe yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau technegol arbenigol a rheoli sy’n
allweddol i’r sector peirianneg uwch a deunyddiau. Darllenwch ymlaen.
Rhyddhad Ardrethi
ar Fusnesau Bach wedi’i ymestyn am flwyddyn gyda £98 miliwn
Bydd Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth
Cymru yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall, yn ôl Edwina Hart, Gweinidog yr
Economi.
Mae’r cynllun £98 miliwn, fydd yn helpu dros dri chwarter
o fusnesau yng Nghymru, yn golygu na fydd oddeutu hanner pob busnes cymwys yn
talu ardrethi busnes eto yn y flwyddyn ariannol nesaf. Darllenwch
ymlaen.
BioCymru
2016 – 1-2 Mawrth, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
BioCymru yw’r digwyddiad blaenllaw ar gyfer y sector
gwyddorau bywyd yng Nghymru sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru. Gyda llu o siaradwyr byd-enwog, gweithdai,
cynllun partneru a noddwyr, y digwyddiad hwn yw un o’r cynadleddau mwyaf yng
Nghymru ar y Gwyddorau Bywyd.
Mae’r thema o gysylltu a chydweithio eleni yn cynnig
cyfle unigryw yng Nghymru i ryngweithio gydag unigolion allweddol, arloeswyr,
buddsoddwyr, cwmnïau ac academyddion.
Bydd cyfle i chi ymuno mewn trafodaethau amrywiol a rhannu eich syniadau
chi a datblygu cysylltiadau newydd gyda thros 600 o fynychwyr Darllenwch ymlaen.
Gŵyl
Arloesedd Cymru 2016 – 20 Mehefin - 1 Gorffennaf
Bellach yn ei 3edd flwyddyn, bydd Gŵyl
Arloesedd Cymru yn arddangos arloesedd yng Nghymru drwy nifer o ddigwyddiadau,
seminarau a gweithdai sy’n cael eu cynnal gan gwmnïau a chan academia.
Bydd yr Ŵyl yn darparu
cyfle i arloeswyr rwydweithio gydag arbenigwyr diwydiant ac arddangos eu
cynnyrch a’u gwasanaethau i ddarpar gwsmeriaid ac i’r cyhoedd o Gymru a thu
hwnt. Darllenwch ymlaen.
Dilynwch ni ar @WG_innovation
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion Arloesedd
a chysylltu â thîm Arloesedd adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth,
gallwch ein dilyn ar Twitter.
|