 Llun: Surf Snowdonia
Gyda Blwyddyn Antur Cymru 2016 ar y gorwel, mae agoriad Surf Snowdonia yn helpu i sicrhau bod Cymru’n cael ei hystyried o ddifri fel cyrchfan antur fyd-eang.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Surf Snowdonia drwy roi cyllid gwerth £4.15 miliwn. Creodd y buddsoddiad hwnnw dros 100 o swyddi, gyda 13 o’r bobl a gafodd swyddi yn dod o Ddolgarrog ei hun a nifer yn rhagor o Ddyffryn Conwy. Amcangyfrifir y bydd 75,000 o bobl yn ymweld â’r parc syrffio bob blwyddyn.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys pwll hwyl ar wahân, bar coffi, ardal manwerthu a siopau coffi, canolfan chwarae dan do a safle gwersylla.
Gweler y datganiad i'r wasg am fanylion llawn.
|