Cadw mewn cysylltiad gyda’r diwydiant yng Nghymru |
|
|
 |
|
Nifer yr ymwelwyr o Brydain sy’n aros dros nos yng Nghymru yn cyrraedd 10 miliwn
Cyhoeddwyd ffigurau gan Lywodraeth Cymru ar 12 Mai sy’n cadarnhau bod 2014 wedi profi’n flwyddyn brysurach nag erioed o’r blaen i dwristiaeth yng Nghymru. Bu 10 miliwn o ymwelwyr o Brydain yn aros dros nos yng Nghymru yn ystod y flwyddyn a hynny am y tro cyntaf ers i Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ddechrau, ar ei ffurf gyfredol, yn 2006. Mae hwn yn ffigwr sydd i’w ganmol.
Gweler y datganiad i'r wasg am fanylion llawn.
|
|
 |
 Cewch hyd i'r newyddion diweddaraf, cyfleoedd ac adroddiadau ymchwil @croesocymrubus
|
|
|
|
|
Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr 2015
|
|
|
|
|
|
 |
 |
Llongyfarchiadau mawr i dîm marchnata Croeso Cymru am ddod yn ail – gyda chlod uchel – yng nghategori Strategaeth/Ymgyrch Integredig Orau Gwobrau Drum Search a gynhaliwyd ar 9 Mehefin. Roeddem yn cystadlu yn erbyn rhai o’r brandiau mawr, megis Toys R Us a Moneysupermarket.com, yn y categori mwyaf cystadleuol o’r cyfan.
|
|
|
 |
Mae atyniad newydd ym Mharc Coedwig y Gelli Gyffwrdd wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (TISS). Bydd yr atyniad cyffrous newydd yn agor fis Mai 2016.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
|
|
|
 |
 |
 Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd 2015-2020
Fis Ebrill 2015 fe lansiwyd y Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Ar ôl ymgynghori â’r sector twristiaeth bwyd aeth Croeso Cymru ac Is-adran Fwyd yr Adran Cyfoeth Naturiol ati i lunio’r cynllun gweithredu ar y cyd. Ei nod yw ehangu enw da Cymru fel cyrchfan fwy o’r radd flaenaf.
Dyma amcanion y Cynllun:
- Cynyddu’r cyfleoedd i ymwelwyr ddod i wybod am, a mwynhau, Bwyd a Diod Cymru
- Annog busnesau lletygarwch Cymru i ddefnyddio mwy ar fwyd a diod lleol
- Sicrhau bod mwy o fwyd a diod o Gymru ar werth mewn bwytai a siopau
- Nodi’r bylchau yn yr wybodaeth am fwyd a diod lleol, am sut mae ei gyrchu a’i baratoi
Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gydweithio â’r sectorau bwyd a thwristiaeth i gyflawni’r camau gweithredu sydd yn y cynllun. Lawrlwythwch eich copi o’r Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod.
|
 |
|
Rhifyn 8 Ansawdd Cymru ar gael nawr
Cylchgrawn i bobl sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Os hoffech gael copi caled cysylltwch â ni.
Mae’r fersiwn ar-lein o’r 8fed rhifyn o Ansawdd Cymru yn cynnwys 4 fideo o bobl sy'n gweithio yn y sector twristiaeth yng Nghymru.
|
 Rhaglen Recriwtio Ieuenctid CruiseCymru
Mae CruiseCymru’n awyddus i recriwtio pobl 20+oed o bob cwr o Gymru i weithio yn y diwydiant lletygarwch gyda chwmni llongau mordaith 5 seren. Mae swyddi ar gael fel stiwardiaid, staff gweini bwyd, gweithwyr bar, baristas, chefs de partie a sous chefs. Rhaid ichi feddu ar gymhwyster lefel 3 a phrofiad o weithio mewn sefydliad 4 neu 5 seren. Os oes gennych ddiddordeb, dewch i Ddiwrnod Recriwtio Agored CruiseCymru ym mwyty hyfforddi Friars, Coleg Menai, Bangor rhwng 10am a 3pm ddydd Mercher 1 Gorffennaf 2015.
Bydd cwmni Viking Recruitment yn rhoi cyflwyniad ac yn ateb cwestiynau am bob agwedd ar weithio ar longau mordaith. Cofiwch ddod â CV gyda chi os ydych am gael eich dewis ar gyfer cyfweliad. Nid oes angen cofrestru, dim ond bod yn bresennol ar y dydd.
|
|
 |
 |
 |
Mae ymgyrch Llywodraeth Cymru 'Cefnogwch Eich Stryd Fawr' yn ôl eleni - yn codi proffil y stryd fawr amrywiol a bywiog sydd yma yng Nghymru - gyda nodwedd newydd gyffrous, Gwobrau Arwyr y Stryd Fawr.
Wythnos yr Ymgyrch fydd 19–26 Medi. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
|
|
|
 |
Yn ddiweddar, cynhaliodd Cymdeithas Cogyddion Cymru ddau ddiwrnod recriwtio i chwilio am gogyddion hŷn ac ifanc i ymuno â’r Garfan Gogyddion Genedlaethol. Bydd y tîm hwn o gogyddion yn cynrychioli Cymru yn yr Ornest Goginio Olympaidd yn yr Almaen fis Hydref 2016 ac yng Nghwpan Coginio’r Byd, Lwcsembwrg, mis Tachwedd 2018.Cewch y newyddion diweddaraf am y cystadlu dros y misoedd nesaf.
|
|
|
 |
 |
|
|
 |
|
 |
 |
 Lleoedd Arbennig 2015
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhedeg eu cystadleuaeth Lleoedd Arbennig eto eleni ond mae pum categori pleidleisio y tro hwn, a bydd ‘llysgennad’ enwog yn hyrwyddo pob un.
Bydd modd bwrw pleidlais ar-lein yng ngham cyntaf y gystadleuaeth, drwy fynd i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Wales Online, Facebook neu drwy ddefnyddio’r hashtag #lleoeddarbennig neu #specialplaces ar Twitter ac Instagram. Y dyddiad cau yw 14 Gorffennaf. Gellir llenwi cerdiau pleidleisio ar safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a rhai sefydliadu eraill hefyd.
Caiff y rhestr fer ei datgelu ar 20 Gorffennaf a bydd y pleidleisio ar-lein yn ailagor wedyn tan 20 Awst (neu tan 31 Gorffennaf drwy’r post). Cyhoeddir enillydd ‘Lleoedd Arbennig 2015’ ar 7 Awst.
|
 “USP...Cymru yw’r iaith Gymraeg” – Huw Roberts, Gwesty Cymru
Gall y Gymraeg fod yn ffordd hwylus o gynnig profiad arbennig i ymwelwyr a chreu naws am le unigryw i Gymru. Wrth geisio gosod Cymru ar wahân fel cyrchfan gwyliau ym Mhrydain, mae gwerth i’r Gymraeg fel teclyn marchnata ac fel rhan o wasanaeth cwsmer er mwyn cynnig croeso Cymraeg a Chymreig.
I ddysgu mwy am fanteision y Gymraeg, ac am y cymorth sydd ar gael am ddim i fusnesau gan Gomisiynydd y Gymraeg, ewch i’n gwefan. E-bostiwch y tîm neu ffoniwch 08456 033221.
|
 Cenedl Hyblyg 2
Mae prosiect Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg yn addas iawn ar gyfer menywod sy’n gobeithio datblygu’n arweinwyr tîm a dringo’r ysgol i’w swyddi rheoli cyntaf. Mae’r rhaglen gymorth gynhwysfawr hon yn helpu menywod i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i ddatblygu’n llwyddiannus yn y gweithle. Mae hefyd yn cynnig cyfle i lunio cynllun gweithredu i gefnogi datblygiad gyrfa ac mae tîm ymroddedig a phrofiadol ar gael i roi cyngor unigol, cymorth ac arweiniad. Mae’r prosiect yn darparu hyfforddiant hefyd i ennill cymhwyster achrededig y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Mae Cenedl Hyblyg 2 yn cael ei gyllido gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru ac yn gweithio gyda menywod cyflogedig yn y naw sector blaenoriaeth yng Nghymru ac mae’r rhaglen yn cael ei chyllido’n llawn ar gyfer y sawl sy’n cymryd rhan.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect a sut i wneud cais, ewch i Chwarae Teg.
|
|
 |
|
 |
|
|
Llywodraeth Cymru,
Croeso Cymru,
Canolfan QED,
Ystad Diwydiannol Trefforest,
Trefforest,
Pontypridd,
Rhondda Cynon Taf,
CF37 5YR
|
 |
|
|
|
|