eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 3 Mehefin 2015 (Rhifyn 421)

3 Mehefin 2015 • Rhifyn 421

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

skills gateway welsh 130 x 130

Wythnos Addysg Oedolion

Bydd Wythnos Addysg Oedolion yn rhedeg o Fehefin 13 i Fehefin 19. Mae’r wythnos yn dathlu dysgu gydol oes ac yn helpu i hyrwyddo’r nifer eang o gyrsiau ar gael i oedolion, o ieithoedd i gyfrifiadureg, gofal plant i gyllid. Ymunwch â digwyddiad dysgu yn eich ardal chi neu dilynwch @porthsgiliaugc am y wybodaeth ddiweddaraf.

NDLEAWARDS130130

Digwyddiad Dysgu Digidol Cenedlaethol 2015

24 Mehefin 2015 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Mae’r system archebu ar gyfer y digwyddiad hwn nawr yn weithredol. Thema'r digwyddiad eleni yw ‘Cymhwysedd Digidol – Rhannu Arfer da’. Rhagor o wybodaeth a manylion archebu ar gael yma.

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Arddangosfa Gwnaed gan Ddysgwyr

Eleni, bydd Seremoni Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol yn cael ei chynnal ar 9 Mehefin ddiwrnod cyn y Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol ei hun. Yno, caiff enillwyr Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn a Chyflogwyr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn eu cyhoeddi. Cynhelir hefyd arddangosfa Gwnaed gan Ddysgwyr lle cewch eich gwahodd i ddangos gwaith eich dysgwyr. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i lawrlwytho’r ffurflen datgan diddordeb.

Cael eich ysbrydoli i ysbrydoli – Creu diwylliant o ddisgyblion yn cymryd diddordeb – 24 Mehefin 2015

  • Beth mae’r athrawon gorau yn ei wneud bob gwers, bob dydd i greu amgylchedd dysgu rhagorol?
  • Beth mae’r hyfforddwyr mwyaf effeithiol yn ei wneud i reoli’r ymddygiad anoddaf yn ffordd orau bosib?

Mae’r cwrs wedi’i anelu at hyfforddwyr sy’n cyflwyno dysgu seiliedig ar waith, tiwtoriaid colegau addysg bellach ac athrawon ysgolion uwchradd gyda Paul Dix Pivotal Education yn arwain yn ystod y dydd.

Cyfle i chi greu eich neges bersonol eich hun ar gyfer Diwrnod Cymwysterau Galwedigaethol

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi templed syml i wneud y dudalen yn bersonol i chi. Unwaith y byddwch wedi’i gwblhau bydd y templed yn creu tudalen we a fydd wedi’i theilwra ar gyfer eich sefydliad. Gallwch wedyn e-bostio dolen i’ch enwau cyswllt. Cliciwch yma i lawrlwytho’r cyfarwyddiadau a neges enghreifftiol.

Y Profion Darllen a Rhifedd yng Nghymru - Gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr

Mae’r canllaw hwn bellach ar gael ar-lein yn yr ieithoedd cymunedol canlynol:

  • Arabeg
  • Somalieg
  • Wrdw
  • Pwyleg

Er bod y profion bellach ar ben, mae’r canllaw yn ffynhonnell o wybodaeth bwysig o ran canlyniadau’r profion a’r mesuriadau cynnydd y dylai rhieni fod yn ymwybodol ohonynt.  Rhannwch y ddolen hon ar wefan eich ysgol er mwyn i rieni / gofalwyr allu darllen y canllaw ar-lein.

Cynhadledd Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg a Buddsoddwyr mewn Teuluoedd

Bydd y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau yn lansio’r pecyn cymorth newydd ar gyfer Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd ar gyfer ysgolion yn ystod Cynhadledd Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg a Buddsoddwyr mewn Teuluoedd – Ymgysylltu â Theuluoedd trwy Addysg ar 16 Mehefin yn Stadiwm Swalec Caerdydd.  Mae’r pecyn cymorth yn rhoi arweiniad ymarferol i ysgolion er mwyn helpu teuluoedd i gefnogi dysgu eu plentyn.  Mae llefydd yn brin felly archebwch nawr!

Dysgu creadigol trwy’r celfyddydau – ydych chi wedi archebu lle ar gyfer y sesiwn briffio?

8 Mehefin – Bangor a 9 Mehefin - Aberystwyth

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal cyfres of sesiynau briffio ar gyfer penaethiaid a staff uwch ysgolion ledled Cymru.  Mae hwn yn gyfle i chi gael clywed o ba fudd y bydd y rhaglenni sydd ar gael i’ch dysgwyr, athrawon ac ysgol.  Dewch i glywed sut y gall eich ysgol fod yn rhan o’r Cynllun Ysgolion Creadigol Arweiniol.

Penaethiaid ac unigolion dynodedig – mae arnom angen eich arbenigedd!

Yn sgil casglu gwybodaeth drwy survey monkey, mae’r gwaith wedi dechrau ar gryfhau trefniadau diogelu mewn ysgolion er mwyn ategu’r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi, sef Cadw dysgwyr yn ddiogel.  Rydym yn chwilio am benaethiaid ac unigolion dynodedig sy’n fodlon edrych ar gynnwys y pecynnau hyfforddi a’u treialu. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â deborah.campbell@wales.gsi.gov.uk

Arolwg o foddhad defnyddwyr gwefan Dysgu Cymru

Rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn croesawu pob sylw i’n helpu ni i wella Dysgu Cymru.

Rhaglen addysgol y Rhyfel Byd Cyntaf – grant ​​ar gyfer ysgolion yng Nghymru

Fel rhan o raglen addysgol Rhyfel Byd Cyntaf Llywodraeth Cymru, bydd ysgolion uwchradd yng Nghymru yn gymwys i wneud cais am gymhorthdal ​​i’r coffau. Bydd y £1,000 yn gymorth tuag at y costau fydd yn gysylltiedig â chynorthwyo disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o achosion a chanlyniadau’r  Rhyfel Byd Cyntaf a'r effaith a gafodd ar fywydau pobl. 

Ydych chi wedi cofrestru eto?

Mae’r gwahoddiadau ar gyfer Cyngor Ffug yr Undeb Ewropeaidd 2015 wedi cael eu hanfon allan a bydd angen cofrestru erbyn 12 Mehefin 2015.

A oes diddordeb gan eich myfyrwyr 16-18 oed chi mewn Materion Ewropeaidd, Gwleidyddiaeth a Thrafodaeth Fywiog?  Os felly, ewch i’r wefan ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Cyfrinair - MCSep2015 Neu e-bostiwch correspondence.european@wales.gsi.gov.uk  Gan y bydd lleoedd yn cael eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin, neilltuwch eich lle nawr!

Plant sy’n Derbyn Gofal: Cwestiynau Cyffredin

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid sut y caiff yr elfen Plant sy’n Derbyn Gofal o’r Grant Amddifadedd Disgyblion ei dosbarthu. O 2015-16 ymlaen, caiff y cyllid ei weinyddu gan gonsortia addysg rhanbarthol yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion. 

Fideo gan Adoption UK

Mae Llywodraeth Cymru wedi noddi elusen Adoption UK i gynhyrchu fideo er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o anghenion addysgol plant sydd wedi cael eu mabwysiadu ac er mwyn helpu ysgolion i ymateb i’r anghenion hynny yn well. 

Gwerthuso’r Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol

Mae’n bosib y bydd rhywun yn cysylltu â chi i ofyn i chi ein helpu ni i asesu sut mae’r Rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol wedi’i rhoi ar waith ac a ydyw’n bodloni ei hamcanion.

Datblygu hyder mewn asesiadau athrawon

Mae Llywodraeth Cymru'n falch o gyhoeddi bod y contract i ddarparu gwasanaeth gwirio allanol o asesiadau athrawon wedi ei wobrwyo i The Partnership, sy’n cynnwys y pedwar consortia addysgol rhanbarthol a chwmni CDSM Interactive Solutions Ltd.  Trwy hyn, bydd y bartneriaeth yn darparu adborth i addysg yng Nghymru ar ddibynadwyedd asesiadau athrawon a sut y gellir ei wella. Bydd y rhaglen wirio yn dechrau yn y flwyddyn academaidd hon.

Pa mor dda y mae sefydliadau addysg bellach yn rheoli cwynion gan ddysgwyr?

Adroddiad gan Estyn ar sut mae sefydliadau addysg bellach yn rheoli cwynion gan ddysgwyr. Mae’r adroddiad yn manylu ar pa mor dda y mae sefydliadau addysg bellach yn rheoli cwynion gan ddysgwyr. Mae hefyd yn cynnwys enghreifftiau o arferion gorau ac yn gwneud nifer o argymhellion ar gyfer y darparwyr a Llywodraeth Cymru.

Strategaeth Tlodi Plant Cymru

Cyhoeddwyd Strategaeth Tlodi Plant Cymru ar 27 Mawrth gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.  Mae’n ailadrodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r uchelgais o ddileu tlodi plant erbyn 2020.  Mae addysg a chwarae blynyddoedd cynnar yn hanfodol i gefnogi’r Strategaeth Tlodi Plant. 

Bargen Newydd i’r Gweithlu Addysg

Fideo newydd o Astudiaeth Achos yn dangos dulliau effeithiol o ymgymryd â dysgu proffesiynol

Yn y fideo hwn mae uwch ymarferwyr arweiniol Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant yn trafod sut y mae’r ysgol gyfan yn mynd ati i annog dysgu proffesiynol ar gyfer yr holl staff.

Pecyn e-Ddysgu Datblygiad Plant a Phobl Ifanc

Mae’r pecyn e-ddysgu rhyngweithiol hwn wedi’i ddylunio i gefnogi dysgu proffesiynol ar gyfer pob math o ymarferwyr addysgol. Mae’r pecyn yn rhoi cipolwg ar y newidiadau datblygiadol mwyaf, gan gynnwys datblygiad cyn geni, babandod a phlentyndod. Mae hefyd yn dangos sut y gall ymarferwyr gael budd o gyfuno gwybodaeth am sut yr ydym yn datblygu ac yn dysgu.

CYMWYS am oes - ffocws ar wyddoniaeth

Gweithdai Llythrennedd Gwyddonol newydd ar gyfer Cyfnod Allweddol 4

Mae pedwar gweithdy llythrennedd gwyddonol newydd ar y themâu: ‘Celloedd’, ‘y Ddaear dan Bwysau’, ‘y Biosffer’ a ‘Grymoedd a Mudiant’ bellach ar gael gan Techniquest. Mae’r gweithdai’n cael eu cyflwyno am ddim, ac maent ar gael ar gyfer eich ysgol chi. Er mwyn trefnu amser, cysylltwch â Julie Dutton yn Techniquest: julied@techniquest.org  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.techniquest.org

hwb

CwrddHwb Sir Benfro

16 Mehefin 2015 yn Y Ganolfan Archifau, Prendergast, Hwlffordd. Archebwch eich tocyn yn gynnar i osgoi cael eich siomi – gwybodaeth bellach a manylion archebu ar gael yma.

Canolfannau Rhagoriaeth Hwb+

Mae’r 18 Canolfan Rhagoriaeth Hwb+ ar hyn o bryd yn brysur yn hybu defnydd o Hwb+. Beth am gysylltu â’ch Canolfan Rhagoriaeth leol i drafod sut maent yn gwneud y defnydd orau o declynnau Hwb+ yn yr ystafell dosbarth? Fe ddewch o hyd i restr gyfan o’r Canolfannau Rhagoriaeth Hwb+ ar Hwb.

Cofiwch, mae o hyd yn bosib i athrawon cofrestru ar un o’r nifer o fodiwlau hyfforddi Hwb+, am fwy o wybodaeth a manylion cofrestru, ymwelwch â’r Hwb.

Adnoddau

Addysg cyfrwng Cymraeg – Dy Ddewis

Fideo yn dangos manteision addysg cyfrwng Cymraeg

CBAC UG Astudio’r Cyfryngau – Canllaw Astudio ac Adolygu

Cyfrol a luniwyd ac a olygwyd gan uwch-arholwyr profiadol ac a gymeradwywyd gan CBAC. Ceir canllaw lliw llawn sy'n cynnig cefnogaeth a chyngor awdurdodol ynghylch gwaith arholiad MS3 a gwaith cwrs MS4 ym maes Astudiaethau'r Cyfryngau. Cynhwysir gwybodaeth sylfaenol hanfodol i gefnogi gwaith astudio ac adolygu.

CBAC TGAU Economeg y Cartref – Datblygiad y Plentyn

Y gwerslyfr cyntaf a luniwyd yn arbennig i gefnogi cwrs Datblygiad y Plentyn yn safon TGAU ac a gymeradwyir gan CBAC. Mae'r gyfrol, sydd mewn diwyg lliwgar, yn delio â chynnwys y cwrs mewn arddull ysgafn a hygyrch, gan gysylltu'r hyn a ddysgir a'r modd y gweithredir hynny wrth gwblhau Astudiaeth Plentyn a Thasg Plentyn-ganolog.

Ciwb

Allan nawr – pedwerydd rhifyn cylchgrawn ar-lein Ciwb. Adnodd lliwgar a deniadol i ddysgwyr Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnod Allweddol 3 a’u hathrawon yw Ciwb. Mae Ciwb yn cyd-fynd â gofynion Cymraeg ail iaith yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ehangach megis llythrennedd, rhifedd a TGC.  Mae Ciwb ar gael am ddim yma, ar Hwb, llwyfan dysgu Cymru gyfan.

Cynhyrchwyd yr adnodd hwn gan Tinopolis Interactive, gyda chyllid ac arbenigedd addysgol wedi’u darparu gan Lywodraeth Cymru. 

Mwy o newyddion

Llysgenhadon Ieuenctid y DU-Almaen 2015-16

A oes gennych chi ddisgyblion sydd yn frwdfrydig ynghylch yr iaith a'r diwylliant Almaeneg, sydd â diddordeb mewn deialog amserol a rhyng-ddiwylliannol, ac sy’n awyddus i annog pobl ifanc eraill i ymgymryd â phrosiectau a gweithgareddau diwylliannol? Anogwch nhw i wneud cais i fod yn Llysgennad Ieuenctid y DU-Almaen!  Ewch i'n gwefan am ragor o fanylion am y rhwydwaith Llysgenhadon Ieuenctid a'r broses o wneud cais: