eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 11 Mai 2015 (Rhifyn 419)

11 Mai 2015 • Rhifyn 419

 
 
 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

NDLEAWARDS130130  

Y Digwyddiad a’r Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol
24 Mehefin 2015 – mwy o wybodaeth a chadw lle

 

Caiff y Gynhadledd a’r Gwobrau Dysgu Digidol Cenedlaethol eu cynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ddydd Mehefin 24 2015.

 

Y prif siaradwyr fydd Rhodri Talfan Davies (Cyfarwyddwr, BBC Cymru), Jessica Cecil (Pennaeth Rheoli Busnes, y BBC) a’r Athro Stephen Heppell.

image of conference 130px  

Cynhadledd Genedlaethol GwE: Cydweithio Ysgol- i-Ysgol Effeithiol

 

2 Mehefin, Venue Cymru, Llandudno

 

Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau gan ysgolion ar brosiectau llwyddiannus;  y siaradwr gwadd bydd yr Athro Mel Ainscow a lansir y fenter Ysgolion Cyd-Arweiniol.  Er mwyn cofrestru ar gyfer y gynhadledd, cwblhewch y bonyn a’i ddychwelyd erbyn dydd Iau 14 Mai.

   
 

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 

Casglu Data Profion Cenedlaethol Cymru

 

Y dyddiad terfynol ar gyfer llwytho data ydi 5 Mehefin 2015 neu’r dyddiad a ddynodwyd gan eich Awdurdod Lleol/Consortiwm.

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol Adnodd Cymorth Diagnostig

 

Mae’r adnodd cymorth diagnostig ar gyfer y profion darllen a rhifedd cenedlaethol ar gael nawr. Bydd yr adnodd hwn yn helpu athrawon i ddadansoddi canlyniadau profion rhifedd eu disgyblion ac yn mapio’u perfformiad ar sail y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. 

Datganiad y Pennaeth

 

Pan fydd prawf olaf y cylch profion wedi’i weinyddu, rhaid i’r pennaeth cadarnhau bod pob canllaw wedi ei dilyn. Rhaid llofnodi datganiad ar gyfer 2015 a’u cyflwyno i’r consortiwm perthnasol erbyn 12 Mehefin 2015.    

Pecyn Cymorth ar gyfer Ysgolion

 

Rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ysgolion ar gyfer gweinyddu Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol 2015 a pharatoi ar eu cyfer. 

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol - Gwybodaeth i rieni a gofalwyr

 

Mae canllaw i brofion 2015 ar gyfer rhieni ar gael ar-lein nawr. Gallwch ei lawrlwytho neu ei rannu ar wefan eich ysgol. Mae fersiynau mewn ieithoedd cymunedol ac mewn braille yn dal ar gael yn ôl y gofyn.  

Defnyddio’r canlyniadau o’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – astudiaethau achos ffilm 

Gwelwch sut mae staff Ysgol Uwchradd Gatholig St Joseph, Casnewydd, yn defnyddio data o’r canlyniadau cenedlaethol i wella dysgu.

   
 

Diweddariadau Llywodraeth Cymru

Cyfleoedd cyflogaeth i ddarparu  Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau

 

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n edrych i recriwtio unigolion i ymgymryd â’r gwaith o weithredu ‘Dysgu Creadigol drwy’r Celfyddydau: cynllun gweithredu i Cymru’Am fwy o wybodaeth a sut i ymgeisio

Gweithio gyda disgyblion a’u teuluoedd

 

Ydych chi’n cyflogi rhywun i gyflawni gwaith gyda phlant a’u teuluoedd? Neu, ydych chi’n cael eich cyflogi i wneud gwaith o’r fath?

 

Rydyn ni’n cynnal astudiaeth fechan i wella’r ddealltwriaeth o rôl staff sy’n gweithio yn y maes hwn ac sy’n ymwneud yn helaeth â theuluoedd gyda’r nod o wella canlyniadau i ddisgyblion.

Y newyddion diweddaraf o ran y cymwysterau TGAU a gyflwynir i’w haddysgu am y tro cyntaf yng Nghymru ym mis Medi 2017

 

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â CBAC a rhanddeiliaid eraill, wedi dechrau’r broses o ddiwygio’r gyfres o gymwysterau TGAU ym maes TGCh a Chyfrifiadureg a datblygu model diwygiedig TGAU Cymraeg Ail Iaith (cwrs llawn), i’w haddysgu am y tro cyntaf yng Nghymru ym mis Medi 2017.  Gweler gwefan Cymwysterau Cymru i gael gwybod mwy.

Plant sy’n Derbyn Gofal: Cwestiynau Cyffredin

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid sut y caiff yr elfen Plant sy’n Derbyn Gofal o’r Grant Amddifadedd Disgyblion ei dosbarthu. O 2015-16 ymlaen, caiff y cyllid ei weinyddu gan gonsortia addysg rhanbarthol yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad drwy ddilyn y ddolen hon

Canllawiau ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3:  Enghreifftio disgrifiadau lefel Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer CA 2/3

 

Y Gweinidog yn ymweld ag ysgol sydd wedi datblygu ap i rieni a myfyrwyr

 

Heddiw, bydd Huw Lewis, y Gweinidog Addysg, yn gweld sut mae Her Ysgolion Cymru wedi helpu un ysgol yng Nglyn Ebwy i ddatblygu 'ap' a fydd yn rhoi mwy o gyfle i rieni gymryd rhan ym mywyd yr ysgol ac yn gwella'r cysylltiad rhwng yr ysgol a'r gymuned.

   
 

Bargen Newydd i’r Gweithlu Addysg

Astudiaeth achos fideo newydd – cydweithio effeithiol

 

Yn y fideo hwn mae ymarferwyr o bedair ysgol gynradd ym Mro Morgannwg yn rhannu eu profiad o gydweithio rhwng ysgolion ac yn trafod yr effaith a gafodd hyn ar eu dysgu proffesiynol.

Adnoddau ar gyfer Ymarferwyr

 

Cymrwch olwg ar y pecyn Arweinyddiaeth a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi lansio’r Fargen Newydd i’r Gweithlu Addysg.

   
 

CYMWYS am oes - ffocws ar wyddoniaeth

Cofrestru ar gyfer Cystadleuaeth y First Lego League

 

Cystadleuaeth fyd-eang yw’r First Lego League sy’n herio timau o ddysgwyr 9-16 oed i raglennu robot i ddatrys cenadaethau cyffrous. Cynllun Addysg Beirianneg Cymru/ STEMCymru a’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg sy’n rhedeg rownd Cymru yn y gystadleuaeth. Cewch gofrestru ar gyfer y First Lego League o 19 Mai. 

Diwrnod Fascination of Plants – 18 Mai

 

Mae diwrnod Fascination of Plants yn ddathliad byd-eang o ba mor bwysig yw planhigion i’n planed ni. Beth am drefnu digwyddiad neu weithgaredd yn eich ysgol ar 18 Mai i helpu dysgwyr i ddeall pa mor ffantastig yw planhigion mewn gwirionedd  

Y Sefydliad Ffiseg – Gwobr Athro Ffiseg

 

Ydych chi’n adnabod athro ffiseg eithriadol neu ysbrydoledig sy’n addysgu mewn ysgol uwchradd? Beth am roi iddo’r gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu drwy ei enwebu ar gyfer Gwobr Athro Ffiseg Cymru y Sefydliad Ffiseg?  Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 22 Mai. 

Gopher Science Labs y Gymdeithas Bioleg

 

Mae grantiau ar gael i helpu ysgolion i gymryd rhan ym mhrosiect Gopher Science Labs sy’n hyfforddi dysgwyr mewn ysgolion uwchradd i arddangos a rhedeg gweithgareddau gwyddonol i blant yn yr ysgolion cynradd sy’n bwydo eu hysgol. Rhaid gwneud eich cais am grant erbyn 25 Mai. 

   
 

hwb

CwrddHwb Sir Benfro

 

16 Mehefin 2015

 

4.30pm yn Archifdy Hwlffordd. Manylion pellach a gwybodaeth am sut i archebu tocyn ar gael yma.

Cynnwys Hwb

Brwydr Coed Mametz – pecyn cynhwysfawr ar gyfer athrawon a dysgwyr CA2 a CA3.

 

Mae’r adnodd yn cyflwyno hanes y Cymry yn un o frwydrau enwocaf y Rhyfel Byd Cyntaf a’r ffordd mae’r frwydr hon yn cael ei chofio.

 

Adnoddau a chystadlaethau

 

Cynnwys newydd Bitesize

Llwyth o gynnwys i’w ddarganfod!

  • Cymorth gyda gwaith TGAU a Chyfnod Allweddol 3
  • Cynnwys newydd sbon i’ch helpu gyda gwaith dosbarth a’r arholiadau  
  • Llwyth o glipiau sain a fideo, graffeg a phrofion newydd
  • Nawr ar gael ar eich tabled a’ch ffôn

Ewch i wefan Bitesize i weld cynnwys addysg y BBC mewn un lle – nid yn unig canllawiau dysgu Bitesize sy’n canolbwyntio ar y prif bynciau ond hefyd miloedd o glipiau fideo ar gyfer y cwricwlwm cynradd ac uwchradd i’w defnyddio yn y dosbarth.

Mwy o gynnwys newydd i’w lansio yn 2015 a 2016.

 

Ewch i Bitesize i weld mwy

Uwchgynhadledd Ieuenctid 2015 – dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – 24 Gorffennaf 2015

 

Cyfle i ennill 5 lle rhad ac am ddim i gynrychioli eich Safle Treftadaeth y Byd yn ystod Uwchgynhadledd Ieuenctid DU mawreddog UNESCO 2015, drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth creadigol!