Cyber security webinar for the social care sector in Wales / Gweminar seiberddiogelwch ar gyfer y sector gofal cymdeithasol

https://content.govdelivery.com/accounts/UKWALES_CSSIW_INT/bulletins/3306056

CIW Logo 2021
twitter

@care_wales

Internet 48x48

Gwefan / Website

youtube

YouTube

email 48x48

E-bost / Email

twitter

@arolygu_gofal

Facebook 48x48

Cymraeg / Saesneg

Anfonwyd ar ran Llywodraeth Cymru / Sent on behalf of Welsh Government

Saesneg isod / English below

Gweminar seiberddiogelwch ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru

Welsh Government logo
Gweminar seiberddiogelwch

Ydi’r brawddegau hyn yn swnio’n gyfarwydd? Mae Llywodraeth Cymru, gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, wedi creu seminar sy’n chwalu’r mythau a’r rhagdybiaethau am seiberddiogelwch.

Mae’r bygythiad seiber yn uchel ar hyn o bryd, ac o ystyried digwyddiadau diweddar fel y rhybudd seiber Log4J, ymosodiad Rwsia ar Wcráin, ac yn nes at adref yr ymosodiad seiber ar y darparwr gwasanaeth GIG 111, Advanced, mae’n bwysig iawn gwella mesurau seibergadernid ar draws Cymru.

Nod y seminarau yw gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r angen am well mesurau seibergadernid ar draws y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

  • Bydd pob sesiwn yn rhoi cyngor seiberddiogelwch wedi’i deilwra, gyda chamau gweithredu syml i’r unigolion sy’n bresennol eu rhoi ar waith
  • Bydd unigolion yn dysgu lle gallant ddod o hyd i ragor o wybodaeth ac arweiniad am seiberddiogelwch
  • Gwell dealltwriaeth am bwysigrwydd seiberddiogelwch a’i berthnasedd i’r sector gofal cymdeithasol

Bydd siaradwyr ardderchog yn bresennol yn y weminar hwn a fydd yn eich briffio ar y bygythiad seiberddiogelwch presennol a pha fesurau y gallwch eu defnyddio i leihau’r risg o ymosodiad seiber yn eich sefydliad.

Cliciwch yma i weld rhaglen y digwyddiad.

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Cynhelir y gweminarau ar-lein, drwy Microsoft Teams. Gallwch gofrestru drwy Eventbrite, a bydd angen ichi ddarparu eich enw a chyfeiriad e-bost er mwyn cofrestru.

Bydd pob gwebinar yn dilyn yr un fformat; cynhelir pedwar gweminar i gyd – dim ond un ohonynt y mae angen ichi gofrestru arno. Bydd y gweminarau yn para 1.5 awr.
Mae’r dolenni cofrestru isod, a bydd neges e-bost gyda dolen i’r digwyddiad yn cael ei anfon i bawb sydd wedi cadw lle yn nes at yr amser.

Mae'r siaradwyr yn ddi-Gymraeg, ond rydym yn eich annog i ofyn unrhyw gwestiynau yn Gymraeg os dymunwch.

 

Am wybodaeth bellach cysylltwch â: Seibergadernid@llyw.cymru


Cyber security webinar for the social care sector in Wales

Welsh Government logo
Cyber security webinar

Do those phrases sound familiar? The Welsh Government, in conjunction with Care Inspectorate Wales has put together a seminar that explodes the myths and preconceptions you may have about cyber security.

The cyber threat is heightened and considering recent events such as the Log4J cyber alert, the Russian invasion of Ukraine and closer to home, the cyber-attack on a provider of the NHS’ 111 non-emergency service provider, Advanced, it is extremely important that cyber resilience measures right across Wales are improved.

The aim of the seminars is to increase awareness and understanding of the need for improved cyber resilience across the social care sector in Wales.

  • Each session will provide tailored cyber security advice with straightforward actions for attendees to implement
  • Attendees will gain knowledge of where to find further cyber security information and guidance and
  • Increased understanding about the importance of cyber security and its relevance to the social care sector

We have a great line up of speakers for this bite-sized webinar that will brief you on the current cyber threat and what measures you can employ to reduce the risk of cyber-attack in your organisation.

Click here to see the agenda for the event.

 

Event information

The webinars will be hosted online, through Microsoft Teams. Registration will be via Eventbrite, and you will need to provide your name and an email address to sign up.

Each webinar will have the same format; there are four webinars in total – you only need to attend one on any given day. Each webinar will be 1.5 hours long.

The registration links are below, and an email with a link to the event will be sent to all who have booked a place nearer the time.

The speakers are non-Welsh speakers, but we encourage you to ask any questions in Welsh if you wish.

 

For further information contact: CyberResilience@gov.wales


Hawlfraint y Goron / Copyright © 2022 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.

Help  |  Cysylltwch â ni / Contact Us