Newyddion diweddaraf AGC

Having trouble reading this email? Click here to view in your browser

 

Newyddion diweddaraf
twitter

@arolygu_gofal

Gwefan

YouTube

Email

Ebost

twitter

@care_wales

facebook

Faecbook

Newyddion diweddaraf

Staff yn y swyddfa

Rydym yn recriwtio!

Rydym yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer nifer o swyddogion cefnogi arolygiadau:

  • Swyddogion Cymorth Arolygu x 6 - Cymraeg hanfodol - Dyddiad cau 19 Tachwedd 2018
  • Swyddogion Cymorth Arolygu x 4 - Dyddiad cau 19 Tachwedd 2018

 

Ewch i'n tudalen swyddi i gael rhagor o wybodaeth.


Ein hadroddiad blynyddol 2017-18

Fis diwethaf cyhoeddom ein hadroddiad blynyddol 2017-18. Gallwch ei ddarllen nawr ar ein gwefan.

Adroddiad

Vicky Poole

 

Penodi Dirprwy Brif Arolygydd ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru

Bydd Vicky Poole yn dechrau yn y rôl ar 1 Tachwedd.

 

Cyn hyn, Vicky oedd Pennaeth Arolygu Awdurdodau Lleol yr arolygiaeth ac mae'n olynu'r Prif Arolygydd Cynorthwyol blaenorol, David Francis.

 

Mae'r Dirprwy Brif Arolygydd yn goruchwylio'r gwaith beunyddiol o gyflawni holl swyddogaethau AGC yn unol â deddfwriaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein Dirprwy Brif Arolygydd newydd.


Dweud eich dweud ar y Cod Ymarfer ar gyfer adolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol

 

Rydym yn awyddus i gael eich barn am y Cod drafft.

Rydym yn awyddus i gael eich barn o ran a yw'r Cod Ymarfer drafft yn glir ac yn llawn gwybodaeth.

 

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 17 Rhagfyr 2018 I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen ymgynghori.

Cod Ymarfer

Cyhoeddi adroddiadau ynghylch gwarchodwr plant ar ein cyfeiriadur gofal

O'r mis hwn ymlaen, byddwn yn dechrau cyhoeddi adroddiadau arolygu ynghylch gwarchodwyr plant ar ein cyfeiriadur gofal. Ni fyddwn yn cyhoeddi cyfeiriadau.

 

Os ydych yn chwilio am warchodwr plant ac am ddarllen ei adroddiad arolygu, bydd modd i chi ei weld a'i lawrlwytho o'r cyfeiriadur gofal ar ein gwefan yn fuan.


Ailgofestru

Sut rydym yn arolygu gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

 

Rydym yn datblygu a threialu ein fframwaith arolygu newydd drwy beilot bach yr hydref hwn, ar gyfer gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru o dan y Ddeddf newydd.

 

I wybod pa wasanaethau fydd yn rhan ohono, a beth fydd yn wahanol am yr arolygiadau hynny, darllenwch yr eitem newyddion ar ein gwefan.


Digwyddiadau AGC ar gyfer darparwyr cartrefi plant ac oedolion

Wyddech chi - gallwch bellach weld cyflwyniadau PowerPoint a ddangoswyd yn ein digwyddiadau diweddar ym mis Hydref, ar ein gwefan? Cliciwch yma i fynd i'n tudalen digwyddiadau a dewiswch y digwyddiad perthnasol i ddarllen y cyflwyniad.

 

Bydd y cyflwyniad o'n digwyddiadau gofal plant ym mis Tachwedd ar gael cyn bo hir.


Cerdyn Nadolig

Cystadleuaeth cerdyn Nadolig 2018 wedi'i lansio

Am ein cystadleuaeth cerdyn Nadolig digidol ar gyfer 2018, rydym wedi gofyn pob darparwr gofal i anfon eu darluniau neu waith celf atom, neu unrhyw waith creadigol sydd wedi cael ei greu gan ddefnyddwyr eu gwasanaeth, ar thema'r Nadolig.

Bydd gwaith celf y ddau enillydd yn cael ei ddangos ar ein cerdyn Nadolig digidol. Bydd y cerdyn yn cael ei anfon at ein holl danysgrifwyr ac yn cael ei arddangos ar y wefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Rydym wedi gwahodd ein darparwyr yn uniongyrchol trwy e-bost i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.


Dolenni defnyddiol

Cyngor yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) i gwsmeriaid

Mae'r CMA heddiw wedi cyhoeddi cyngor i breswylwyr gofal a'u teuluoedd gan roi trosolwg o'u hawliau fel defnwyddwyr a sut y gallant wneud yn siŵr eu bod yn cael eu trin yn deg. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth. (Dolen Saesneg yn unig)


Pryderon am ofal? Rhowch wybod os oes gennych unrhyw bryderon amdanom ni, am wasanaeth, neu am aelod o staff. Codi pryder