PRESS RELEASE / DATGANIAD Y WASG: Deprivation of Liberty Safeguards (DoLS) report published / Cyhoeddi adroddiad Trefniadau Amddifadu o Ryddid (DoLS)

Having trouble reading this email? Click here to view in your browser


Care Inspectorate Wales
 
twitter link icon

care_wales

website link icon

Gwefan / Website

youtube link icon

YouTube

email link icon

E-bost / Email

twitter link icon

Arolygu Gofal

 

Saesneg yn isod / English below

Anghysondebau parhaus o ran ceisiadau ac awdurdodiadau o dan y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ledled Cymru, canfyddiadau'r adroddiad

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi cyhoeddi eu hadroddiad monitro blynyddol ar y cyd ar y defnydd o’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yng Nghymru.

Mae'r Trefniadau Diogelu'n berthnasol i bobl dros 18 oed na allant roi caniatâd i dderbyn triniaeth neu ofal yn yr ysbyty neu mewn gofal cartref, a lle efallai fod cyfyngiadau neu ataliaeth yn golygu eu bod wedi colli eu rhyddid.

Mae'r Trefniadau Diogelu'n darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer colli rhyddid i atal mynd yn erbyn Hawliau Dynol y Confensiwn Ewropeaidd oherwydd bod yn rhaid cael awdurdodiad cyn y gall person golli ei ryddid.

Cyhoeddodd Tŷ'r Arglwyddi adroddiad craffu ar Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad oedd y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn "addas i'r diben" ac argymhellwyd eu bod yn cael eu disodli. Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith adroddiad drafft a oedd yn argymell y dylid diddymu'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ac a oedd yn nodi Trefniadau Diogelu Rhyddid newydd. 

Disgwylir ymateb llawn gan Lywodraeth y DU yn ystod gwanwyn 2018.

 

Canfyddiadau

Nid yw’r anghysondebau parhaus o ran ceisiadau ac awdurdodiadau ledled Cymru'n cynnig fawr o sicrwydd bod rhyddid unigolion sy’n agored i niwed yn cael ei ddiogelu mewn modd dibynadwy ledled Cymru. 

Gall diffyg arweiniad cenedlaethol diweddar ac ymateb anghyson gan gyrff goruchwylio fod yn arwain at geisiadau anaddas neu ddiangen gan awdurdodau rheoli, neu fethu â nodi pryd mae angen cyflwyno cais. 

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan AGC.

 

DIWEDD


Manylion cyswllt: Emma Mackintosh (AGC) 0300 062 8713 emma.mackintosh@llyw.cymru  / Natalie Jones (AGIC) 0300 062 8794 natalie.jones@llyw.cymru

 

Nodiadau i olygyddion

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn cofrestru, yn arolygu ac yn cymryd camau gweithredu i wella safon a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.arolygiaethgofal.cymru

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw'r arolygiaeth annibynnol sy'n arolygu ac yn rheoleiddio gofal iechyd yng Nghymru.  

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.agic.org.uk

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) wedi bod yn monitro ac yn adrodd am y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ers cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn 2009.

Adroddiad Tŷ'r Arglwyddi: https://bit.ly/2GUUIQv (Dolen Saesneg yn unig)


Ongoing inconsistencies of applications and authorisations for Deprivation of Liberty Safeguards (DoLS) across Wales, report finds

Care Inspectorate Wales (CIW) and Healthcare Inspectorate Wales (HIW) have jointly published their annual monitoring report on the use of the Deprivation of Liberty Safeguards (DoLS) in Wales.

The Safeguards apply to people over the age of 18 who can’t consent to treatment or care in a hospital or care home and where restrictions or restraint may deprive them of their liberty.

The Safeguards provide a legal framework for deprivations to prevent breaches of the European Convention on Human Rights as authorisation must be sought before a person can be deprived of their liberty.

The House of Lords published a scrutiny report of the Mental Capacity Act 2005. The report concluded that DoLS were “not fit for purpose” and recommended they be replaced. The Law Commission produced a draft report in March 2017 recommending DoLS be repealed and setting out new ‘Liberty Protection Safeguards. 

A full UK Government response is expected in spring 2018.


Findings

The ongoing inconsistencies of applications and authorisations across Wales offer little reassurance that the liberty of vulnerable individuals is being reliably safeguarded across Wales. 

A lack of up-to-date national guidance and an inconsistent response by supervisory bodies may be leading to inappropriate or unnecessary applications by managing authorities, or a failure to identify when an application is required. 

The full report is available on the CIW website.


END


Contact: Emma Mackintosh (CIW) 0300 062 8713 emma.mackintosh@gov.wales  / Natalie Jones (HIW) 0300 062 8794 natalie.jones@gov.wales 


Notes to Editors

Care Inspectorate Wales registers, inspects and takes action to improve the quality and safety of services for the well-being of the people of Wales.

For more information visit www.careinspectorate.wales  

Healthcare Inspectorate Wales is the independent inspectorate and regulator of all healthcare in Wales.  

For more information visit www.hiw.org.uk

CIW and HIW have been monitoring and reporting on the Deprivation of Liberty Safeguards since the legislation was introduced in 2009.

House of Lords scrutiny report: https://bit.ly/2GUUIQv


Hawlfraint y Goron / Copyright © 2018 Arolygiaeth Gofal Cymru / Care Inspectorate Wales. Cedwir pob hawl / All rights reserved.

Gwasanaethau tanysgrifiwr / Subscriber services

Eich dewisiadau / Manage Preferences  |  Help  |  Dad-danysgrifiwch / Unsubscribe  | Cysylltwch â ni / Contact Us