Checking 3 year DBS renewals / Gwirio adnewyddiadau tair blynedd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Having trouble reading this email? Click here to view in your browser


CSSIW general banner
 
twitter link icon

CSSIW

website link icon

Website / Gwefan

youtube link icon

YouTube

email link icon

Email/ Ebost

twitter link icon

Arolygu Gofal

 

Saesneg yn isod / English below

Gwirio adnewyddiadau tair blynedd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a newidiadau arfaethedig i'r modd y gallwch wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Annwyl cydweithiwr,

 

Er mwyn symleiddio prosesau, ni fydd AGGCC yn atgoffa gwarchodwyr plant a darparwyr gwasanaethau gofal dydd plant mwyach o'r angen i gwblhau a chyflwyno cais i adnewyddu eu tystysgrifau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) na chyflwyno’r tystysgrifau hyn pan fydd angen gwneud hynny. 

 

Wrth wneud y penderfyniad hwn, rydym yn sylweddoli bod y cyfrifoldeb am sicrhau addasrwydd parhaus darparwyr ar ysgwyddau'r darparwyr eu hunain ac nid gydag AGGCC. Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i'r holl warchodwyr plant, aelodau’r cartref a darparwyr gwasanaethau gofal dydd gael tystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd nad yw’n fwy na thair blwydd oed.

 

Pan fyddwn yn canfod diffyg cydymffurfiaeth bosibl, bydd arolygwyr yn cael eu hysbysu ac yn cynnal arolygiad er mwyn ystyried a yw'r gwasanaeth yn cydymffurfio. Pan fydd tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfiaeth, bydd arolygwyr yn ystyried yr amrediad o opsiynau gorfodi sydd ar gael iddynt.

 

Rydym hefyd yn cynnig newidiadau i'r modd y gallwch wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd mewn perthynas â cheisiadau neu adnewyddiadau AGGCC. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu ffurflen gais y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer pobl sy'n cofrestru gyda ni ac sy'n gorfod gwneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac ar gyfer y rhai hynny sydd angen gwiriad adnewyddu. Rydym hefyd yn rheoli'r broses ar gyfer ffurflenni sydd wedi'u cwblhau ac yn talu ffioedd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

O 2018 ymlaen, ni fyddwn bellach yn rheoli gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn uniongyrchol. Bydd y rhain yn cael eu rheoli gan ddarparwr allanol, a fydd yn prosesu ceisiadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar ein rhan. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr dalu'r ffi (£44 ar hyn o bryd am bob gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) a ffi weinyddol am y gwasanaeth hwn. 

 

Rydym yn annog pobl yn gryf, gan gynnwys personau cofrestredig / darparwyr, i gofrestru ar Wasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pan fyddant yn ymgeisio nesaf. Mae'n costio £13 y flwyddyn ar hyn o bryd, ac mae'n ffordd fwy syml, costeffeithiol o gadw tystysgrifau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gyfredol. 

Mae hefyd yn galluogi AGGCC i wirio'r gofrestr ar unrhyw adeg, sy'n cael gwared â'r angen i weld tystysgrifau pobl, oni bai bod angen penodol i wneud hynny.

 

Byddwn yn cyfathrebu â'r sector yn fuan gyda mwy o fanylion ynghylch y cynigion hyn ac i ofyn am adborth ar sut y byddant yn cael eu rhoi ar waith.

 

Yn gywir,

 

David Francis

Prif Arolygydd Cynorthwyol

AGGCC - Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru


Checking three-year DBS renewals and proposed changes to how you can apply for a Disclosure and Barring Service (DBS) check

 

Dear Colleague,

 

As a means of simplifying processes, CSSIW will no longer remind child minders and providers of children’s day care services of the need to complete and submit a renewal for their DBS certificates or present their DBS where that is required. 

 

In taking this decision, we recognise that responsibility for ensuring the continuing fitness of providers lies with providers themselves and not with CSSIW. All child minders, household members and providers of day care services are required by law to have a DBS certificate that is not more than three years old.

 

Where we identify possible non-compliance inspectors will be notified and carry out an inspection to consider whether the service is compliant. Where there is evidence of non-compliance, inspectors will consider the range of enforcement options available to them.

 

We are also proposing changes to how people can apply for a DBS check in relation to CSSIW applications or renewals. Currently, we provide the DBS application form for people who are registering with us and have to apply for a DBS check and those who need a renewed check. We also manage the process of completed forms and pay DBS fees.

 

From 2018, we will no longer directly manage DBS checks. These will be managed by an external provider who will process DBS applications on our behalf. Applicants will be required to pay the fee (currently £44 per DBS) and an administration charge for this service. 

 

We strongly encourage people, including registered persons / provider to sign up to the DBS Update Service when they next apply. It currently costs £13 a year and is a simpler, cost effective way of keeping DBS clearances up to date. It also enables CSSIW to check the register at any time and removes the need to see people’s certificates unless there is a particular need to do so.

 

We will shortly be communicating with the sector with more detail about these proposals and asking for feedback on their implementation.

 

Yours sincerely

 

David Francis

Assistant Chief Inspector

CSSIW – Care and Social Services Inspectorate Wales


Hawlfraint y Goron / Copyright © 2017 AGGCC / CSSIW All rights reserved