Saesneg yn isod / English below
Newyddion mis Medi
Adroddiad blynyddol olaf y Prif Arolygydd cyn ei hymddeoliad. Adroddiad blynyddol 2015-16 fydd yr olaf i'r Prif Arolygydd, Imelda Richardson, gan ei bod yn ymddeol ar ddiwedd y mis.
Penodi Prif Arolygydd newydd. Gillian Baranski, Prif Weithredwr CAFCASS Cymru ar hyn o bryd, fydd yn cymryd lle Imelda Richardson fis nesaf.
Canllawiau ar ddefnyddio staff gofal i gefnogi nyrsys cofrestredig mewn cartrefi nyrsio. Mae'r canllawiau dros dro yn gosod disgwyliadau eglur i ddarparwyr.
Adroddiad gwasanaethau plant Sir Gaerfyrddin. Gwnaethom ni arolygu'r gwasanaeth ym mis Gorffennaf 2016. Cynhaliwyd yr arolygiad yn ystod cyfnod o newid sylweddol i Gyngor Sir Caerfyrddin, wrth weithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Adroddiad ar y cyd ynglŷn â phobl ddigartref yn eu harddegau sy'n gweithio gyda thimau troseddau ieuenctid. Arweiniwyd yr adroddiad ar y cyd gan Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi yn gweithio gyda ni ein hunain a'r Swyddfa Safonau mewn Addysg.
I'r Dyddiadur
Swyddi
Mae'r swyddi canlynol ar gael ar hyn o bryd. Am mwy o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm Gwasanaethau Corfforaethol.
Dolenni allanol
-
Darparwyr gofal plant -
darllenwch am y pethau gorau y
dylech wybod gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) am ofal plant
di-dreth (dolen Saesneg yn unig)
-
Gofal Cymdeithasol Cymru - O dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, bydd Cyngor Gofal Cymru yn ennill pwerau newydd i arwain y gwaith o wella gofal cymdeithasol yng Nghymru.
-
Cyhoeddwyd Cymwysterau Cymru ei adroddiad ar yr adolygiad o gymwysterau a'r system gymwysterau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol - Mae Holidaur ar gael er mwyn glywed eich barn am ddatblygu cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant [Level 1-5] .
- Barod I ddysgu - Mae ymgyrch newydd wedi cael ei lansio i
gefnogi rhieni a sefydliadau meithrin i sicrhau bod plant yn barod i ddysgu pan
fyddant yn dechrau yn yr ysgol gynradd.
|