|
Saesneg yn isod / English below
Newyddion mis Mehefin
Datganiad Hunanasesu’r Gwasanaeth (SASS). Mae'n ofynnol i ddarparwyr gofal plant a chwarae i gwblhau hunanasesiad o'r 11eg o Orffennaf.
Galw am awdurdodau lleol a byrddau iechyd i wneud mwy ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Rydym ni ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau ein harolygiad cenedlaethol o ofal a chymorth i bobl ag anableddau dysgu.
Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Casnewydd wedi gwella ond galwadau iddo weithredu ar argymhellion yr adroddiad – Prif Arolygydd. Ail-arolygwyd Casnewydd yn dilyn canlyniadau gwael yn ystod yr arolygiad diwethaf yn 2014.
Cwestiynau cyffredin. Sut mae'r Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn effeithio ar y sawl sy'n darparu gofal.
Dyn yn ffugio bod yn un o staff AGGCC. Rydym yn ymwybodol bod dyn yn personadu aelod o staff yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac yn gofyn am fanylion am eich gwasanaeth, gan gynnwys nanylion personol.
Y Sioe Frenhinol Cymru (18-21 Gorffennaf)
Rydym yn dychwelyd eto eleni i Sioe Frenhinol Cymru ym Mhowys, a'r tro hwn byddwn yn ymuno â'r Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn, ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn stondin D275 ar Rodfa D. Dewch i ddweud helo!
I'r Dyddiadur
- 1 Gorffennaf - Cyfarfod Ein Llais, De-Orllewin Cymru
- 4 Gorffennaf - Cynhadledd: arloesi mewn gofal cymdeithasol (tudalen Saesneg yn unig), Canolfan OpTIC, Llanelwy
- 6 Gorffennaf - Cyfarfod Ein Llais, De Ddwyrain Cymru
-
6 Gorffennaf - Materion Blynyddoedd Cynnar: Datgelu'r Dyfodol, Cynhadledd Genedlaethol Cymru, Gwesty'r Village, Abertawe
- 7 Gorffennaf - Cyfarfod Ein Llais, Gogledd Cymru
- 7 Gorffennaf - Cynhadledd: integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol (dolen Saesneg yn unig), Caerdydd (Prif Arolygydd Imelda Richardson yn siarad)
- 12 Gorffennaf - Fforwm Polisïau Cymru 'Camau nesaf ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru', Caerdydd (dolen Saesneg yn unig)(Prif Arolygydd Imelda Richardson yn rhoi araith gyweirnod)
- 13 Gorffennaf - Cyfarfod Bwrdd Cynghori Cenedlaethol, Caerdydd
- 18-21 Gorffennaf - Y Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd
- 29 Gorffennaf-6 Awst - Yr Eisteddfod Genedlaethol, Sir Fynwy
Dolenni allanol
|