|
Estynnwch
am eich cleddyfau a'ch hetiau haul — mae'n
bryd i ni gamu yn ôl mewn amser am haf epig o anturiaethau, diolch i ymgyrch Cestyll
Byw! Cadw.
O
arddangosiadau fydd yn cipio eich anadl i ail-greu hanes byw a phrofiadau
heboga rhyfeddol, ni fydd angen i chi fynd ymhellach na'ch safle Cadw agosaf am
ddiwrnod bythgofiadwy gyda'r teulu yn ystod yr haf.
Gallwch
weld ein rhaglen lawn drwy fynd i’n chwilotwr digwyddiadau, ond dyma ddetholiad arbennig o’r dyddiadau
mwyaf cyffrous dros yr haf i’w hychwanegu at eich dyddiadur…
Dydd Sadwrn 7 — Dydd Sul 8 Gorffennaf,
10am–4pm.
Dewch i weld sut beth oedd bywyd yn ystod
Rhyfeloedd y Rhosynnau wrth i grŵp o saethwyr wedi eu hurio a'u teuluoedd
sefydlu gwersyll yn Abaty Tyndyrn.
|
Dydd Sadwrn 28 — Dydd Sul 29 Gorffennaf,
11am–4pm.
Gwahoddir ymwelwyr â Chastell Rhaglan i brofi
dau ddiwrnod o draddodiadau a thrallod Tuduraidd, wrth i gymeriadau o'r cyfnod
ddychwelyd i diroedd y castell.
|
 |
|
Bob dydd Mawrth rhwng 31 Gorffennaf a 22 Awst,
11am–4pm.
Mae
Castell Harlech yn chwilio am gatrawd newydd o farchogion canoloesol i warchod
muriau’r castell mawreddog. Beth am fynd i'r castell am ddiwrnod o hyfforddiant
brwydro, ymladd ac amddiffyn?
|
 |
|
Dydd Sul 12 Awst, 10.30am–4pm
Paratowch i gael eich syfrdanu wrth i Gastell Cricieth groesawu ymwelwyr am
ddiwrnod cyffrous o arddangosfeydd heboga anhygoel uwchlaw Bae Ceredigion.
|
 |
|
Dydd Mercher 22 — Dydd
Llun 27 Awst,
10am–4pm.
Mae ein gwyl ganoloesol
fawr dros gyfnod o chwe diwrnod yng Nghastell Biwmares yn ateb pob gofyn o ran
diwrnod llawn hwyl i'r teulu y tymor hwn. Paratowch ar gyfer digonedd o gemau
canoloesol, ail-greu brwydrau rhyfeddol, profiadau heboga yn ogystal â chyfle i
ymuno â gorymdaith â draig liwgar o gwmpas y castell cadarn.
|
|