Myfyrwyr yn cael eu hannog i gwblhau'r cyfrifiad ar gyfer eu llety yn ystod y tymor nawr

Gweld yn y porwr

Cyfrifiad 2021 Logo

Datganiad i’r wasg

28 Ebrill 2021

Myfyrwyr yn cael eu hannog i gwblhau'r cyfrifiad ar gyfer eu llety yn ystod y tymor nawr

dechreuwch eich gwaddol

Mae'r ymateb i Gyfrifiad 2021 wedi bod yn wych, ond mae'n bwysig bod pawb yn cael eu cyfrif ac mae hynny'n cynnwys myfyrwyr.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) am wneud yn siŵr bod cynifer o fyfyrwyr â phosibl yn cwblhau cyfrifiad ar gyfer eu llety yn ystod y tymor er mwyn cael cyfrif cywir a chynrychioliadol o'r boblogaeth myfyrwyr.

Mae'n bwysig sicrhau bod cymunedau myfyrwyr yn cael eu cyfrif wrth gynllunio a darparu gwasanaethau yn eu trefi a dinasoedd prifysgol a choleg, yn ogystal â chartref y teulu.

“Mae Cyfrifiad 2021 wedi mynd yn wych hyd yma,” meddai cyfarwyddwr gweithrediadau SYG, Pete Benton. “Mae'r mwyafrif helaeth o bobl ledled Cymru a Lloegr eisoes wedi cymryd rhan, ond, er mwyn i ni gael y darlun mwyaf cywir o'r boblogaeth gyfan, mae angen i bawb lenwi eu holiadur, gan gynnwys myfyrwyr. Hyd yn oed os cawsoch eich cynnwys ar gyfrifiad eich rhieni am eich bod yn aros yno ar 21 Mawrth, mae angen i chi lenwi holiadur ar gyfer eich cyfeiriad arferol yn ystod y tymor o hyd.”

Dywedodd Hillary Gyebi-Ababio, Is-lywydd Addysg Uwch Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr: “Mae mor bwysig bod myfyrwyr, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, yn cael eu cynrychioli oherwydd mae'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu yn helpu i lywio penderfyniadau am gyllid sy'n effeithio ar y gymuned myfyrwyr a phrofiad myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sydd eu hangen nawr ac yn y dyfodol fel swyddi a chyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd, polisi amgylcheddol, anghenion gofal iechyd a chysylltiadau trafnidiaeth prifysgol.”

I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gwblhau'r cyfrifiad, ewch i: cyfrifiad.gov.uk/myfyrwyr

Ffeithiau am y cyfrifiad... Rhai celwyddau am y cyfrifiad yr ydych wedi'u clywed efallai!

Celwydd 1: Dyw myfyrwyr ddim yn cyfrif yn y cyfrifiad

Mae myfyrwyr yn hollbwysig ac yn cyfrif! Mae angen i bob myfyriwr gael ei gynnwys yn y cyfrifiad, a dylai pob un lenwi ffurflen ar gyfer ei gyfeiriad arferol yn ystod y tymor hyd yn oed os nad oedd yno ar ddiwrnod y cyfrifiad. Mae hyn yn hynod bwysig fel y gall SYG greu darlun cywir o'r boblogaeth myfyrwyr ym mhob ardal leol. Mae'r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei darparu yn hanfodol er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn eu hardal yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt nawr ac yn y dyfodol.

Gall eich prifysgol neu goleg ddweud wrthych chi sut i gwblhau'r cyfrifiad. Neu ewch i cyfrifiad.gov.uk/myfyrwyr a gofynnwch am god mynediad.

Celwydd 2: Byddaf yn cael fy nghyfrif ddwywaith os ydwyf eisoes wedi cael fy nghyfrif ar ffurflen fy rhieni

Peidiwch â phoeni, bydd yr arbenigwyr ystadegau yn SYG yn gwneud yn siŵr nad yw unrhyw un yn cael ei gyfrif ddwywaith pan gaiff y data eu prosesu.

Mae dau gwestiwn ar ffurflen y cartref – neu deulu – sy'n cydweithio er mwyn darparu dangosydd sy'n cael ei ddefnyddio i hidlo'r myfyriwr ar ddiwedd y ffurflen yng nghyfeiriad y cartref (fel ei fod ond yn cael ei gyfrif yn “rhannol” yng nghyfeiriad y cartref). Yna caiff y dangosydd hwnnw ei ddefnyddio wrth brosesu i nodi a thynnu'r dyblygiad.

Dylech fod yn ymwybodol, os na chewch eich cyfrif yn eich cyfeiriad yn ystod y tymor, mai dim ond cofnod rhannol ohonoch fydd. Ni fyddwch wedi cael y cyfle i ateb cwestiynau am eich cyfeiriadedd rhywiol, eich crefydd na'ch hunaniaeth o ran rhywedd, er enghraifft. Mae'r cwestiynau hyn i unigolion yn bwysig wrth gynllunio gwasanaethau lleol.

Celwydd 3: Dwi ddim yn ddinesydd Prydeinig, felly does dim angen i mi gael fy nghyfrif

Mae'n rhaid i bawb sy'n aros yng Nghymru a Lloegr ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth, gael eu cyfrif ac mae hynny'n cynnwys myfyrwyr rhyngwladol. Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol ac nad ydych chi yng Nghymru na Lloegr ar hyn o bryd, ond y byddech chi fel arfer, mae SYG hefyd am eich cyfrif chi.

Celwydd 4: Bydd fy ngwybodaeth i yn cael ei rhannu

Nid yw hynny'n wir – ni fydd neb yn gweld y wybodaeth y byddwch chi'n ei rhoi yn y cyfrifiad am 100 mlynedd.

Ni all neb eich adnabod chi na'ch ymatebion o'r ystadegau rydym ni'n eu cyhoeddi. Yn wir, ni all eich gwybodaeth bersonol chi gael ei gweld gan unrhyw un sy'n gwneud penderfyniadau amdanoch chi. Ni all gael ei defnyddio gan y llywodraeth i ddylanwadu ar hawliadau budd-daliadau, cais i breswylio, statws mewnfudo na threthi, na gan landlordiaid nac unrhyw sefydliad preifat arall.

Celwydd 5: Mae'r cyfrifiad yn wastraff amser. Dyw e ddim yn fy helpu i.

Mae'r cyfrifiad o fudd i ni gyd oherwydd mae'n sail i'r gwasanaethau y mae pob un ohonom ni yn dibynnu arnyn nhw. Mae'n darparu gwybodaeth am ein trefniadau byw, iechyd, addysg a swyddi, a bydd y wybodaeth ohono yn helpu i lywio penderfyniadau lleol a chenedlaethol am flynyddoedd i ddod.  O'r amgylchedd i gynllunio llwybrau beicio, o gynlluniau swyddi i nifer y gwelyau mewn ysbytai – mae gwybodaeth o'r cyfrifiad hyd yn oed yn cael ei defnyddio wrth benderfynu ble i adeiladu archfarchnadoedd newydd, pa fwyd i roi ar y silffoedd a faint o fannau parcio ceir i bobl anabl i'w cynnwys.

Celwydd 6: Mae Cyfrifiad 2021 drosodd – mae Diwrnod y Cyfrifiad wedi bod felly does dim angen llenwi'r ffurflen

Oes! Rhaid i bob cartref gwblhau'r cyfrifiad yn ôl y gyfraith ac, er bod Diwrnod y Cyfrifiad a oedd ar 21 Mawrth 2021, wedi bod erbyn hyn, nid yw'n rhy hwyr i lenwi'r holiadur i osgoi cael dirwy. Os ydych chi'n fyfyriwr sydd heb gwblhau cyfrifiad ar gyfer eich cyfeiriad yn ystod y tymor, gwnewch hynny nawr. Mae ond yn cymryd 10 munud. Ewch i cyfrifiad.gov.uk/myfyrwyr a gofynnwch am god mynediad.

-DIWEDD-

Nodiadau i olygyddion

Gwybodaeth am Gyfrifiad 2021

Mae pawb yn cael budd o'r cyfrifiad. Mae'n llywio penderfyniadau yn genedlaethol ac yn lleol o ran gwasanaethau hanfodol a materion fel amrywiaeth. Yn y pen draw, mae'n sicrhau bod miliynau o bunnau yn cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau brys, gofal iechyd meddwl, lleoedd mewn ysgolion, gwelyau mewn ysbytai, tai, ffyrdd, meddygfeydd a gwasanaethau deintyddol – i gyd yn seiliedig ar y wybodaeth y mae pobl yn ei rhoi. Rydym wedi'i gwneud hi'n haws i bobl gwblhau'r cyfrifiad ar lein ar unrhyw ddyfais, ac mae help a holiaduron papur ar gael i bobl os bydd angen.

Diwrnod y Cyfrifiad oedd 21 Mawrth 2021 yng Nghymru a Lloegr a bydd y canlyniadau ar gael y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, caiff cofnodion personol eu cadw dan glo am 100 mlynedd, yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae amser ar ôl i gwblhau eich cyfrifiad ar lein yn cyfrifiad.gov.uk

Gwybodaeth am y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn llunio'r ffigurau sydd bwysicaf oll – ar yr economi a busnes, pobl, y boblogaeth a chymunedau. Gan weithredu'n ddiduedd a heb unrhyw reolaeth wleidyddol, rydym yn manteisio ar bŵer data er mwyn helpu Prydain i wneud penderfyniadau gwell a gwella bywydau.

I drefnu cyfweliadau cysylltwch â swyddfa’r wasg ar 0845 604 1858 neu 0203 684 5070 neu ebostiwch Media.Relations@ons.gov.uk

Swyddfa Ystadegau Gwladol Logo