SYG - Naw o bob deg cartref wedi cwblhau Cyfrifiad 2021

Gweld yn y porwr

Cyfrifiad 2021 Logo

SYG

Ebrill 2021

Naw o bob deg cartref wedi cwblhau Cyfrifiad 2021

Census form on tablet

Rydym wedi cael ymateb gwych i Gyfrifiad 2021. Mae naw o bob deg cartref ledled Cymru a Lloegr wedi llenwi'r holiadur, ond mae'n rhaid i bawb gymryd rhan.

Mae angen i bob cartref gwblhau'r cyfrifiad yn ôl y gyfraith. Er bod Diwrnod y Cyfrifiad – 21 Mawrth 2021 – wedi bod erbyn hyn, nid yw'n rhy hwyr i chi lenwi eich ffurflen ac osgoi cael dirwy.

Mae'r rhan fwyaf o bobl eisoes wedi cwblhau'r cyfrifiad ar lein er mwyn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau cyhoeddus fel meddygfeydd, gwelyau mewn ysbytai, lleoedd mewn ysgolion a thrafnidiaeth gyhoeddus yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf.

Roedd Iain Bell, y dirprwy ystadegydd gwladol yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n gyfrifol am y cyfrifiad, am annog pawb i gadw llygad am lythyrau atgoffa a chwblhau eu cyfrifiad nawr.

“Rydym ni wedi cael ymateb gwych i'r cyfrifiad hyd yn hyn,” meddai Iain. “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i fynd y tu hwnt i'r disgwyl.

“Ond rydym ni am wneud yn siŵr bod pawb yn cyfrif ac ni fyddwn ni'n gorffwys nes y bydd pob cartref wedi ymateb. Mae swyddogion maes yn mynd o gwmpas yn curo ar ddrysau lle mae cofnodion yn dangos nad ydym wedi cael ymateb. Os nad ydych chi am iddynt ymweld â chi, cwblhewch eich cyfrifiad nawr.

“Mae eich ymateb yn hanfodol. Mae'r wybodaeth y byddwch chi'n ei rhoi yn golygu y caiff yr holl wasanaethau rydym ni'n dibynnu arnynt, fel gwasanaethau brys a lleoedd mewn ysgolion, eu cynllunio gan ddefnyddio gwybodaeth gywir. Caiff ei defnyddio i gynllunio lleoliadau archfarchnadoedd newydd, pa fwydydd i'w rhoi ar y silffoedd a sawl lle parcio i rieni a phlant bach sydd ei angen yn y maes parcio hyd yn oed.”

Mae holiadur y cyfrifiad yn syml ac mae'n ddiogel i'w gwblhau ar lein. Dim ond tua 10 munud fesul unigolyn mewn cartref mae'n ei gymryd i gwblhau'r cyfrifiad.

Gwnaethom anfon llythyr drwy'r post i bob cartref ar ddechrau mis Mawrth gyda chyfarwyddiadau ar gyfer cymryd rhan. Os ydych chi wedi colli'r llythyr neu os oes gennych chi ail gyfeiriad nad ydych wedi ymweld ag ef, ewch i www.cyfrifiad.gov.uk i ofyn am gael cod mynediad ar-lein ar gyfer eich cyfeiriad drwy neges destun.

Os ydych chi'n adnabod rhywun nad oes ganddo'r sgiliau neu'r hyder i gwblhau'r cyfrifiad ar lein, mae help ar gael. Mae canolfannau cymorth lleol y cyfrifiad ar gael ledled Cymru a Lloegr, yn cynnig cymorth dros y ffôn ac wyneb yn wyneb. Ewch i https://cyfrifiad.gov.uk/help/chwilio-am-ganolfan-cymorth-y-cyfrifiad i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Gallwch chi ffonio ein canolfan gyswllt hefyd. Ffoniwch 0800 169 2021 yng Nghymru, neu 0800 141 2021 yn Lloegr, i gael help neu i archebu holiadur papur.

Rôl swyddogion maes yw helpu ac annog y bobl hynny nad ydynt wedi llenwi holiadur y cyfrifiad ar lein neu ar bapur eto, a'u cyfeirio at y gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnynt.

Ni fydd byth angen i staff maes fynd i mewn i dai pobl; byddant bob amser yn cadw pellter cymdeithasol, bydd ganddynt gyfarpar diogelu personol a byddant yn gweithio yn unol â holl ganllawiau'r llywodraeth. Byddant yn gweithredu yn yr un ffordd â gweithwyr post neu gwmnïau danfon bwyd. Bydd ganddynt fathodyn adnabod hefyd i ddangos eu bod yn gweithio ar y cyfrifiad.

I drefnu cyfweliadau cysylltwch â swyddfa’r wasg ar 0845 604 1858 neu 0203 684 5070 neu ebostiwch Media.Relations@ons.gov.uk

Swyddfa Ystadegau Gwladol Logo