|
 Wrth i haf arall ddod i ben, rydym yn asesu’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ar draws dalgylch Gwy Uchaf. Roedd mis Awst hefyd yn nodi blwyddyn ers lansio ein prosiect. Mae wedi bod yn dymor prysur ar dalgylch y Gwy Uchaf, o wneud gwaith adfer ymarferol gyda ffermwyr i reoli rhywogaethau ymledol, plannu ar lan yr afon a threialon newydd sy’n cael eu harwain gan wyddoniaeth.
Mae’r cylchlythyr hwn yn rhoi blas i chi o’r cyfan - prosiectau ymarferol, meddwl am y darlun ehangach ac ambell i stori ysbrydoledig o lannau’r afon. Mae pob erthygl wedi cael ei hysgrifennu gan un o dîm y prosiect, felly byddwch chi’n clywed yn uniongyrchol gan y bobl sy’n cyflawni’r gwaith ar lawr gwlad.
Mae erydiad glannau afonydd yn rhan o gylchred naturiol afon, ond mewn tirweddau sy’n cael eu ffermio’n ddwys gall hyn gyflymu, gan arwain at golli pridd, dŵr ffo sy’n cynnwys maetholion a chynefinoedd diraddiedig. Aseswyd ffurf a chyflwr rhannau hir o’r afon a’i hisafonydd gan ein harolwg Geomorffoleg Afonol a gynhaliwyd ar droed yn 2024, gan nodi’r ardaloedd a allai elwa ar rywfaint o gymorth. Rydym nawr yn paratoi i fynd i’r afael â safleoedd erydiad sydd â blaenoriaeth ar draws afon Gwy Uchaf.
Yn lle peirianneg galed, byddwn yn defnyddio amddiffyniad glannau gwyrdd - datrysiadau sy’n seiliedig ar natur fel wadiau gwreiddiau mawr wedi’u gosod yn y glannau a gwiail a stanciau helyg byw wedi’u plethu - i amsugno ynni’r afon, sefydlogi glannau a chreu cynefinoedd. Bydd ffensys hefyd yn cael eu gosod i amddiffyn egin newydd a chaniatáu i lystyfiant clustogi sefydlu yno.
Rydym yn gweithio gyda phedair fferm i ddechrau mewn safleoedd erydiad sydd â blaenoriaeth, gyda’r nod o leihau mewnbynnau gwaddod, gwella ansawdd y dŵr, cefnogi gwydnwch hirdymor ffermydd ac adfer llifau mwy naturiol.
 Llun: Erydiad glannau’r afon
|
|
|
Mae jac y neidiwr, fel y gwyddom, yn un o blanhigion ymledol mwyaf ymosodol y DU - mae’n dal, yn binc ac yn dwyllodrus o brydferth. Ar ôl ymsefydlu, mae’n bwrw planhigion brodorol i’r cysgod, yn niweidio glannau afonydd ac yn achosi gostyngiad dramatig yn niferoedd pryfed. Pan fydd yn marw yn y gaeaf, mae’r glannau noeth yn agored i erydiad, gan effeithio ar rywogaethau fel glas y dorlan, y dyfrgi a’r eog.
Y newyddion da yw y gellir rheoli jac y neidiwr trwy ddyfalbarhad. Mae cymunedau’n dangos ei bod yn bosibl gellir clir jac y neidiwr o afonydd lleol dros gyfnod o dair i bedair blynedd. Yr haf hwn rydym wedi bod yn arolygu rhannau uchaf afon Gwy i geisio nodi ble mae’r broblem yn dechrau. Yr haf nesaf byddwn yn dechrau gweithredu cynllun hirdymor i’w ddileu, gan fynd i’r afael â’r planhigyn ymledol hwn o’r brig i’r bôn. Cadwch lygad allan am ragor o wybodaeth a chyfleoedd posibl i wirfoddoli y flwyddyn nesaf.
 Llun: Mae jac y neidiwr, a ddaw’n wreiddiol o fynyddoedd yr Himalaya, yn ffynnu mewn pridd llaith ac i’w weld ar hyd dyfrffyrdd
Gallwch chi helpu drwy wneud y canlynol:
- Dysgu adnabod jac y neidiwr (a pheidio â’i ddrysu â pherlysiau helyg)
- Cofnodi ei weld ar apiau iRecord neu INNS Mapper
- Gwirfoddoli i dynnu neu dorri planhigion cyn i godennau hadau aeddfedu
- Glanhau esgidiau, teiars ac offer i osgoi lledaenu hadau
Rydym hefyd yn chwilio am safleoedd ar gyfer cynnal treialon ffwng cawod goch gyda jac y neidiwr, sy’n cynnig dull naturiol o’i reoli’n fiolegol. Os ydych chi’n berchennog tir yn nalgylch Gwy Uchaf gyda safle sydd wedi’i heintio â jac y neidiwr, cysylltwch â ni trwy’r dulliau cysylltu ar waelod y cylchlythyr hwn.
|
|
|
Yn dilyn y newyddion am walch y pysgod o Goedwig Hafren a rannwyd gennym yn ein cylchlythyr diwethaf, rydym yn llawn cyffro i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi. Yn y lleoliad hwn ym mlaenddyfroedd afon Gwy, llwyddodd y pâr newydd o weilch y pysgod i fagu dau gyw! Deorodd y ddau ifanc ddechrau’r haf, cawsant eu modrwyo’n ofalus (7M7 a 7M8), ac yna gadael y nyth ym mis Awst.
Rydym wrth ein bodd i ddweud mai gwrywod oedd y ddau gyw. Erbyn dechrau mis Medi, roedd un eisoes wedi dechrau ei ymfudiad hir i’r de i Affrica, tra bod y llall wedi aros yn y dyffryn gyda’i dad, gan ddatblygu ei sgiliau pysgota cyn cychwyn ar yr un daith anhygoel.
Mae dychweliad gweilch y pysgod sy’n magu i ddalgylch afon Gwy Uchaf yn garreg filltir go iawn. Mae’n dangos sut y gall gwaith cadwraeth sydd wedi’i gynllunio’n ofalus, fel y nyth artiffisial a adeiladwyd gan John Williams a Rhys Jenkins yn 2023, ddarparu’r amodau i natur adfer. Mae pob cyw sydd wedi magu plu yn gam gobeithiol tuag at ddyfodol cryfach i’r rhywogaeth eiconig hon yng nghanolbarth Cymru.
Diolch yn fawr iawn i John Williams am fonitro gweilch y pysgod yng nghoedwig Hafren, am fodrwyo’r cywion a rhannu’r diweddariadau gwych hyn. Byddwn yn cadw llygad am newyddion am eu cyfnod mudo ac yn gobeithio y bydd y pâr yn dychwelyd eto’r flwyddyn nesaf i fagu nythaid arall yn nalgylch Gwy Uchaf.
 Llun: Gwalch y pysgod gwrywaidd (y 'tad') yn cyflwyno pysgodyn i'r ifanc olaf yn y nyth
|
|
|
Mae gwanwyn a haf eithriadol o sych 2025 wedi achosi heriau gwirioneddol i ffermwyr ac afonydd ledled Cymru. Cafodd tyfiant glaswellt gwael, prinder dŵr i dda byw a phryderon ynghylch stociau porthiant i’r gaeaf eu hadleisio ar draws y dalgylch.
Nodwyd statws sychder yn swyddogol ar gyfer afon Gwy ynghanol mis Awst, gyda’r ffigurau ar gyfer glawiad ymhell islaw’r cyfartaledd:
- Rhwng mis Mawrth a mis Mai, roedd y glawiad yn ddim ond 36% o’r cyfartaledd hirdymor - y cyfnod sychaf a gofnodwyd erioed ar gyfer y cyfnod hwnnw.
- Ym mis Gorffennaf, roedd y glawiad yn Ne-ddwyrain Cymru yn ddim ond 52.5% o’r glawiad disgwyliedig (gan gynnwys dalgylch Gwy Uchaf).
- Erbyn mis Awst, roedd y darlun wedi gwaethygu, gyda dim ond 8-11% o’r glawiad cyfartalog.
Ochr yn ochr â llifau isel, cododd tymheredd y dŵr yn ddychrynllyd. Cofnodwyd y canlynol gan gofnodwyr data:
- 23°C ar afon Gwy yn Llangurig (10 Gorffennaf)
- 23°C ar afon Gwy yn Rhaeadr Gwy (12 Gorffennaf)
- 25°C ar afon Ieithon ger Diserth (12 Gorffennaf)
- 24°C ar afon Irfon ger Cilmeri (12 Gorffennaf)
 Llun: Sychder yn afon Ieithon yn Nalgylch Gwy Uchaf yn dilyn y cyfnod chwe mis sychaf mewn bron i 50 mlynedd
I roi hyn mewn cyd-destun, gall eogiaid a brithyll ddod dan straen unwaith y bydd y dŵr yn cyrraedd tua 18°C, gyda’r risgiau i oroesi yn cynyddu’n sydyn ar dymheredd uwch. Mae’r cofnodwyr data sond a osodwyd mewn pedwar safle ar afon Gwy Uchaf yr haf hwn wedi rhoi’r darlun cliriaf hyd yn hyn o sut mae cyfnodau poeth a sych hirfaith yn effeithio ar systemau’r afon. Mae sond yn fath o offeryn a ddefnyddir ar gyfer monitro dŵr. Mae’n set o synwyryddion a ddefnyddir i fesur amrywiol baramedrau, fel tymheredd, pH, ocsigen tawdd, a dargludedd. Drwy olrhain tymheredd y dŵr yn barhaus, dangosir pa mor gyflym y gall amodau ddirywio i bysgod ac infertebratau pan fydd llifau’n isel.
Y tu hwnt i’r effeithiau uniongyrchol ar rywogaethau, mae’r cyfuniad o ddŵr cynnes a llifau isel yn golygu nad yw llygryddion yn cael eu gwanhau, bod cynnydd yn nhwf yr algâu a lefelau ocsigen yn cael eu disbyddu - gan wneud yr afon yn llai gwydn yn gyffredinol.
Mae’r dystiolaeth hon yn tanlinellu pam mae ein gwaith adfer yn bwysig. Mae plannu coed, gwella cynefinoedd yn y sianel a lleihau mewnbynnau maetholion i gyd yn rhan o’r ateb - ond mae’r data hefyd yn ein helpu i dargedu’r ymyriadau hyn i’r man lle cânt cael yr effaith fwyaf.
|
|
|
Yn ddiweddar, gofynnwyd i Brosiect Adfer Dalgylch Uchaf Afon Gwy sut mae plannu sy’n canolbwyntio ar afonydd yn cymharu â chreu coetiroedd ehangach ledled Cymru. Er bod gan y ddau ddull wahanol ffactorau sbarduno, gallant ategu ei gilydd.
Mae plannu coed gwasgaredig o rywogaethau brodorol yn un elfen o’r gwaith rydym yn ei gwneud gyda ffermwyr i wella iechyd afonydd, ynghyd â chamau gweithredu eraill gan gynnwys plethu helyg i arafu llif, gosod ffensys a chyflenwadau dŵr amgen ac ychwanegu coed marw i greu cynefinoedd. Mesurau bach, pwrpasol yw’r rhain sydd wedi’u cynllunio i adeiladu gwydnwch yn uniongyrchol mewn systemau afonydd.
Mewn cyferbyniad, mae Rhaglen Coetir Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflenwi proses o greu coetiroedd ar raddfa fwy ledled Cymru, gan sefydlu blociau o goedwig newydd gyda rheolau clir ynghylch lle mae’r mannau plannu addas ac anaddas.
Pan fydd y ddau ddull yn gweithio gyda’i gilydd, mae’r potensial yn cynnig cyfle i adfer ar raddfa’r dirwedd: coetiroedd llydanddail newydd wedi’u cysylltu ag afonydd iach, cysgodol, gyda chynefinoedd ffyniannus ar gyfer pysgod, infertebratau ac adar.
 Llun: Mae pren marw’n helpu i gadw coed helyg wedi’u plethu yn eu lle ac yn creu cynefin gwerthfawr wrth iddo bydru
|
|
 Lluniau (gyda’r cloc o'r chwith uchaf): Diwrnod y tîm yn plannu coed • Ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog • Gosod cafn dŵr i gefnogi ffermio er budd afonydd • Plannu coed brodorol ar hyd glannau afonydd
Y mis diwethaf yn Sioe Frenhinol Cymru, dathlwyd pen-blwydd cyntaf Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf - ac mae wedi bod yn flwyddyn a hanner!
O fynd i’r afael â phlanhigion ymledol i blannu miloedd o goed, mae’r prosiect wedi dangos sut y gall pobl, natur a gweithredu ymarferol ddod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Buddugoliaethau mawr yn ein blwyddyn gyntaf
-
Mynd i’r afael â rhywogaethau ymledol - Dangosodd arolygon bla mawr o bidyn-y-gog Americanaidd, sydd bellach dan reolaeth diolch i gamau gweithredu wedi’u targedu. Mae arolygon o jac y neidiwr hefyd ar y gweill, gan ein helpu i gynllunio rhaglen i gael gwared arno yn yr hirdymor ledled y dalgylch.
-
Llwyddiant ‘Arafu’r Llif’ - Yng nghoedwigoedd Hafren a Tarenig rydym wedi gosod argaeau sy’n gollwng, byndiau a draeniau wedi’u blocio i arafu dyfroedd llifogydd, dal gwaddod a chreu cynefinoedd cyfoethocach. Mae Coedwig Tarenig bellach yn safle arddangos, sy’n arddangos yr hyn sy’n bosibl ar dir y llywodraeth.
-
Ffermydd iachach, afonydd iachach - Ymgymerwyd â dau brosiect fferm mawr i ddarparu cilometrau o ffensys, lleiniau clustogi, pwyntiau dyfrio oddi ar yr afon a chreu gwlyptiroedd. Mae’r rhain yn lleihau erydu, yn gwella ansawdd y dŵr ac yn cefnogi rhywogaethau prin fel cregyn gleision dŵr croyw.
-
2,000 o goed wedi’u plannu - Yn darparu cysgod i bysgod, yn sefydlogi glannau ac yn creu cynefinoedd bywyd gwyllt hanfodol.
-
Meithrin partneriaethau - Ymunodd dros 50 o randdeiliaid â ni ar gyfer gweithdy, gan gynnwys ffermwyr, grwpiau cadwraeth a sefydliadau lleol, gan adeiladu momentwm ar gyfer adferiad hirdymor.
-
Golwg o’r awyr - Mae arolygon drôn yn ein helpu i olrhain cynnydd ac ysbrydoli mwy o dirfeddianwyr i gymryd rhan.
Wrth edrych ymlaen, byddwn yn adeiladu ar y momentwm hwn gyda mwy o brosiectau ffermydd ar lan yr afon, ymestyn mesurau arafu’r llif, plannu mwy o goed a pharhau i reoli rhywogaethau ymledol.
Gallwch hefyd ddarllen am ein blwyddyn gyntaf o gynnydd yn ein blog pen-blwydd.
Ar yr un pryd, rydym yn ffarwelio â’n huwch-swyddog, Nick Young. Mae ei egni, ei arbenigedd a’i ymroddiad wedi bod yn ganolog i’n llwyddiant, a bydd y tîm cyfan yn ei golli’n fawr. Mae Nick yn symud i Raglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni mwy o waith adfer gwych ar gyfer mawndiroedd Cymru.
|
|
|
Ariennir Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf #AdferGwyUchaf gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, sy’n rhan o’r Rhaglen Cyfalaf Dŵr, i adfer cyflwr rhan uchaf afon Gwy.
Nod cyffredinol y prosiect hwn yw gwarchod rhywogaethau a gwella cynefinoedd trwy fynd i'r afael ag amrywiaeth o bwysau sy'n effeithio ar yr afon.
Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol, rhowch wybod i ni drwy’r e-bost isod.
Pe bai’n well gennych gopi papur o’r cylchlythyr, cysylltwch â ni.
E-bost: AdferGwyUchaf@cyfoethnaturiol.cymru
Gwefan: Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf
Y cyfryngau cymdeithasol: Facebook, Instagram, X
|
|
|
|
|