|
Hoffem ymddiheuro am rai gwallau yng ngeiriad ein cylchlythyr Cymraeg a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Isod, ceir y fersiwn wedi’i chywiro. |
|
|
Ariennir Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf #AdferGwyUchaf gan Gronfa Argyfwng Natur a Hinsawdd Llywodraeth Cymru, sy’n rhan o’r Rhaglen Cyfalaf Dŵr, i adfer cyflwr rhan uchaf afon Gwy.
Nod cyffredinol y prosiect hwn yw gwarchod rhywogaethau a gwella cynefinoedd trwy fynd i'r afael ag amrywiaeth o bwysau sy'n effeithio ar yr afon.
I wybod mwy am gefndir y prosiect, darllenwch ein cylchlythyr cyntaf: Cylchlythyr Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf Rhif 1
Mae pob erthygl yn y rhifyn hwn wedi ei ysgrifennu gan ein swyddogion prosiect i roi profiad uniongyrchol o'r gwaith sy'n cael ei gwblhau gan y rhaglen.
A nawr, dyma beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud ers ein rhifyn cyntaf…
Byddwn ni ar stondin Cyfoeth Naturiol Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Llun 21 a dydd Mawrth 22 Gorffennaf. Gallwn ddarparu rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch hefyd roi gwybod i ni os hoffech i ni ymweld â’ch fferm. Os ydych chi yn y sioe, galwch heibio i’n gweld ni!
|
|
 Llun: Y tîm ar ôl diwrnod caled o blannu
Rhan bwysig o’n prosiect yw cynyddu gorchudd a chysgod coed yn y dalgylch i helpu’r afon i ymdopi â phwysau newid hinsawdd. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd cysgodi yn ystod mis Mai pan gyrhaeddodd tymheredd y dŵr 21°C mewn rhannau o’r dalgylch oedd heb eu cysgodi. Mae hyn yn cymharu â thymheredd sawl gradd yn is mewn rhannau lle mae coed. Mae gan gynhesu dŵr effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar fywyd dyfrol, ac mae’n gwaethygu problemau fel gordyfiant algâu, llygredd a lledaeniad clefydau ymhellach. Gall dyfroedd rhy gynnes effeithio ar ffisioleg ac ymddygiad rhywogaethau afonydd ac, wrth i lefelau ocsigen tawdd leihau, mae rhywogaethau fel eogiaid yn cael eu cynhyrfu a gallant farw.
Ym mis Mawrth, cafodd y tîm cyfan gyfle i fynd allan ar yr afon a baeddu ein dwylo! Gyda bendith y tirfeddiannydd, fe blannwyd cannoedd o lasbrennau ar hyd darn 600m o afon Gwy uchaf ger Llangurig lle mae angen cysgod. Roedd y glasbrennau’n cynnwys cymysgedd o rywogaethau brodorol, gan gynnwys coed helyg, coed gwern, yr aethnen, coed bedw, y ddraenen wen a choed derw. Fe wnaethon ni hefyd wthio cannoedd o stanciau helyg byw i mewn i rannau o’r lan oedd yn erydu yn y gobaith y byddan nhw’n gwreiddio i helpu i sefydlogi’r glannau a darparu cynefin gwerthfawr.
Nid oedd y gwanwyn sych iawn yn newyddion da i’n glasbrennau, ond mae’r arwyddion cychwynnol yn obeithiol bod y rhan fwyaf wedi goroesi a byddant yn dod â chysgod angenrheidiol iawn i ran fregus o’r afon.
Llun: Toriadau helyg yn barod i’w plannu
|
|
 Llun: Ffensys safonol i atal da byw wedi’u gosod
Dechreuodd gwaith yn ddiweddar ar brosiect gosod ffensys glan afon ar fferm ar afon Gwy uchaf ger Llangurig. Rydym yn ariannu ac yn gosod dros 2,700m o ffensys newydd. Pan gaiff ei gyfuno â’r ardaloedd sydd â ffensys sydd eisoes yn bodoli, bydd hyn yn golygu y bydd darn o 1.2 milltir (2km) o afon Gwy wedi’i ffensio’n llwyr ar y ddwy lan.
Er mai dim ond ychydig filltiroedd o’r tarddiad ydyw, mae afon Gwy yn y lleoliad hwn eisoes yn afon bwerus sy’n gorlifo’n rheolaidd. Bydd dyluniad ffens sy’n gwrthsefyll llifogydd yn fwy yn cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd lle mae’r afon yn dod allan i’r gorlifdir. Drwy gael sawl llinyn o wifren yn lle’r rhwyll wifrog draddodiadol ar gyfer stoc, gall dŵr llifogydd a malurion basio drwodd yn haws a lleihau’r risg y bydd y ffens yn cael ei gwthio drosodd.
 Llun: Ffensys sy’n gwrthsefyll llifogydd wedi’u gosod
Defnyddir afonydd yn aml i dda byw yfed ohonynt, ond gall hyn gynyddu mewnbynnau maetholion a chyfrannu at erydu glannau, yn ogystal â chynyddu risgiau i dda byw. Darperir cyflenwad dŵr amgen gan ddefnyddio pwmp dŵr sy’n cael ei bweru gan ynni solar ac a all gyflenwi cafnau i ffwrdd o lannau’r afon.
Mae’r buddion i iechyd yr afon yn cynnwys:
- Mewnbynnau maetholion uniongyrchol llai
- Mae lleiniau clustogi o lystyfiant heb ei bori yn hidlo dŵr sy’n llifo i’r afon
- Mae plannu coed a thyfiant naturiol yn darparu cysgod ac yn cadw dŵr yn oerach
- Mae llystyfiant yn darparu cynefin ar y glannau ac yn yr afon i fywyd gwyllt
Mae’r manteision i’r ffermwyr yn cynnwys:
- Rheoli stoc yn haws – dim angen galw da byw o’r afon ac mae’n atal stoc rhag mynd i fyny neu i lawr yr afon
- Archwiliadau stoc haws – mae gallu gweld da byw yn haws yn gwneud archwiliadau lles yn gyflymach
- Darperir cysgod a lloches i dda byw gan goed
- Cyflenwad dŵr dibynadwy gan ddefnyddio pwmp solar
Dalgylch afon Gwy uwchben Llangurig yw un o ardaloedd ffocws ein prosiect. Yn ogystal â’r fferm hon, rydym wedi bod yn ymweld â ffermydd eraill yn yr ardal i roi cyngor a thrafod a oes gwaith posibl a allai fod o fudd i’r fferm a’r afon. Os ydych chi yn yr ardal hon ac os hoffech chi ymweld, cysylltwch â ni.
|
|
|
Llun: Y nyth artiffisial newydd ei hadeiladu yn 2023
Yn 2023, adeiladodd staff Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) nyth artiffisial mewn rhan anghysbell o ystâd goetir CNC yng Nghoedwig Hafren. Syniad John Williams a Rhys Jenkins o Dîm Rheoli Tir CNC oedd hwn, ac roedd yn ymgais i greu safle bridio newydd a diwrthwynebiad i ddenu pâr o weilch y pysgod i’r ardal i fagu. Defnyddiodd John ei wybodaeth eang am weilch y pysgod i benderfynu ar leoliad addas.
Roedd popeth yn barod yn fuan ond, gwaetha’r modd, ni ddaeth unrhyw weilch y pysgod i ddefnyddio’r nyth. Yn anffodus, digwyddodd yr un peth yn 2024.
 Llun: Coed a gwympwyd 'yn arafu’r llif' yn 2025
Yn gynharach eleni, fel rhan o’n Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf fe wnaethom waith “arafu’r llif” yn agos iawn at ardal safle’r nyth. O dan oruchwyliaeth staff y prosiect, torrodd contractwyr goed conwydd sy’n hunanhadu o ochr yr afon a gosod torion yn y dŵr, gyda’r bwriad o gynyddu faint o brennau marw mawr sydd yn y cwrs dŵr. Mae prennau marw yn elfen hanfodol, ac yn aml ar goll, o’n nentydd a’n hafonydd. Mae ganddynt yr effeithiau buddiol o newid ac arafu llif dŵr ac maent yn darparu amrywiaeth ehangach o nodweddion a chynefinoedd afon ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r prennau hefyd yn darparu bwyd i bryfed dyfrol, ac yn eu tro amffibiaid, pysgod ac anifeiliaid fel dyfrgwn.
 Llun:Gweilch y pysgod llawndwf ar y nyth yn 2025
Er nad trwy ddyluniad, mae’n ymddangos bod y broses cwympo coed hon hefyd wedi helpu i wneud y safle’n fwy deniadol i weilch y pysgod oherwydd, ym mis Ebrill 2025, am y tro cyntaf, penderfynodd pâr o weilch y pysgod ymgartrefu a defnyddio’r nyth newydd i fridio.
Roedd y gwryw wedi cael ei fodrwyo fel cyw mewn safle nythu hysbys arall ac fe’i ganed yn Llyn Brenig. Mae’r fenyw yn aderyn sydd heb gael modrwy o’r blaen ac mae ei hanes blaenorol yn anhysbys.
Mae hyn yn dangos y gall cynlluniau amgylcheddol sy’n ymddangos yn anghysylltiedig gael effaith gadarnhaol gyffredinol, gan weithio law yn llaw i wella’r amgylchedd. Byddwn yn dilyn cynnydd y teulu newydd ac yn gobeithio mai stori lwyddiant arall fydd hon.
|
|
|
Tymor yr hydref y llynedd, cawsom ein dychryn wrth ddarganfod y pla mwyaf dwys ac eang o bidyn-y-gog Americanaidd rydym ni wedi’i weld hyd yn hyn yn rhannau uchaf afon Gwy—ar is-afon i fyny’r afon o Raeadr Gwy. Fodd bynnag, sylweddolon ni y gallai’r safle hwn fod yn ardal dreialu ddelfrydol i ddeall y planhigyn goresgynnol hwn yn well, profi a monitro dulliau rheoli, a rhannu ein dysgu ag eraill.
Er ein bod wedi dod ar draws sawl safle llai lle gellir cloddio neu drin planhigion unigol yn hawdd—trwy dorri’r dail a chwistrellu’r coesyn craidd â glyffosad—mae’r safle hwn yn cyflwyno her ar raddfa fwy. Mae’r planhigion yn ymestyn dros ardal eang, gyda miloedd yn tyfu ar hyd darn dwy filltir o afon a gorlifdir.
Mae’r darn hefyd yn rhychwantu sawl tirddaliad lle rydym wedi cael mynediad. Mae dwy ran goediog o’r is-afon yn rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan CNC, lle mae coed sydd wedi cwympo o ganlyniad i stormydd diweddar wedi gwneud mynediad yn anodd i gontractwyr ac wedi peri her bellach o ran rheoli’r pidyn-y-gog Americanaidd.
Roedd ein treial chwynladdwr cyntaf ym mis Ebrill, a gynhaliwyd tra oedd y planhigion yn eu blodau llawn, yn aneffeithiol. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd arwynebedd dail annigonol i’r chwynladdwr a chwistrellwyd gael cylchredeg yn effeithiol, gan fod gormod o blanhigion i’w chwistrellu’n unigol. Gwnaed ail daeniad ddechrau mis Mehefin, pan oedd y dail wedi cyrraedd hyd o hyd at un metr. Rydym nawr yn monitro effaith y driniaeth hon. Byddwn yn parhau i drin y pidyn-y-gog Americanaidd dros y blynyddoedd nesaf, gan ddefnyddio safleoedd rheolydd i benderfynu pa rai yw’r dulliau mwyaf effeithiol a phryd yw’r amser gorau i’w defnyddio.
Os gwelwch chi bidyn-y-gog Americanaidd yn eich ardal, rhowch wybod amdano trwy’r ap iRecord neu INNSMapper. Ac os ydych chi wedi’ch lleoli yn rhannau uchaf afon Wysg, rhowch wybod i ni hefyd. Gallwch gysylltu â ni drwy’r manylion isod.
 Chwith: pidyn-y-gog cyn ei drin ym Mis Ebrill; Dde: pidyn-y-gog ym Mehefin yn dangos triniaeth aneffeithiol.
|
|
|
Ym mis Mawrth 2025, cwblhawyd gwaith ar 45 hectar o Goedwig Tarennig, rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Mae safle’r prawf yn cynnwys chwe nant, sy’n cludo dŵr o bron 250 hectar o goedwig gonifferau gynhyrchiol i afon Tarennig, ar ran uchaf afon Gwy.
Canolbwyntiodd y gwaith ar reoli ein tir coedwigaeth yn fwy cynaliadwy. Ein nod oedd gwella rheoli dŵr a chreu cynefinoedd, wrth barhau i weithredu coedwigaeth gynhyrchiol. Roedd amrywiaeth o gydweithwyr coedwigaeth yn rhan o gynllunio’r gwaith, felly roedd dealltwriaeth gyffredin o’r amcanion ac roedd modd datrys unrhyw bryderon.
Ar nentydd, fe wnaethon ni dorri coed i efelychu digwyddiadau naturiol, gan greu prennau marw i arafu llif y dŵr. Fe wnaethon ni hefyd ‘blethu’ coed helyg ar lannau’r nentydd (gan dorri trwyddynt yn rhannol fel pe baem yn gosod gwrych) i ganiatáu i’r rhain wreiddio i welyau nentydd a glannau afon i greu dryslwyni helyg yn y dyfodol i arafu a hidlo llifoedd dros y tir. Mae’r cysgod a’r prennau marw a grëir gan y coed helyg yn darparu cynefin a lloches hanfodol i infertebratau, pysgod a bywyd afon arall, ac yn helpu i gadw’r dŵr yn oer.
Defnyddiwyd tocion coedwigaeth gwastraff a boncyffion dros ben, gan eu gosod ar eu hyd mewn ffosydd draenio, fel y gall dŵr lifo o hyd, ond ar gyfradd arafach. Fe wnaethon ni hefyd dynnu coed conwydd anfrodorol o goetiroedd glan yr afon brodorol, ac arbrofi gydag adlinio draeniau wrth ochr llwybrau.
 Llun: Chwith: Coed wedi’u cwympo yn arafu’r llif; Dde:Contractwyr yn ‘llenwi’ ffosydd
Mae llif arafach yn caniatáu i solidau crog fel pridd, mawn a deunydd pren gwympo allan o’r llif, gan arwain at ddŵr glanach yn mynd i mewn i’r afon. Gall arafu’r llif a chreu llif dros y tir hefyd ohirio ymchwyddiadau llifogydd yn ystod glawiad trwm. Os caiff y gwaith hwn ei ehangu ar draws yr ystâd goedwigaeth a thu hwnt, gallai gyd-fynd â mesurau rheoli llifogydd eraill.
Mae gan y safle fynediad hawdd a rhwydwaith ffyrdd coedwig da, ac felly mae’n berffaith ar gyfer safle arddangos. Rydym wedi gosod pyst monitro pwynt sefydlog ar draws yr ardal, ac wedi cynnal arolygon drôn cyn ac ar ôl y gwaith, gan ddefnyddio meddalwedd i ddadansoddi effeithiau’r gwaith. Gellir ailadrodd y rhain yn rheolaidd i olrhain newidiadau dros amser.
Mae’r tywydd wedi bod yn sych ar y cyfan ers i’r gwaith gael ei gwblhau, ond cyn gynted ag y bydd y glaw yn taro, byddwn yn gwisgo ein dillad gwrth-ddŵr i fynd ar y safle a gweld sut mae’r gwaith wedi bod o fudd i’r ardal. Byddwn yn rhannu yr hyn rydym wedi’i ddysgu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a rheolwyr coedwigoedd masnachol ym Mhowys a ledled Cymru.
|
|
 Llun: Aelodau y tîm yn clywed sut mae ap y ffermwyr yn gweithio ar gyfer yr orsaf dywydd
Yn ddiweddar, cawsom y cyfle i dreulio diwrnod gyda ffermwyr o Grŵp Dŵr y Bannau ger Aberhonddu. Mae’r grŵp hwn o ffermwyr wedi dod at ei gilydd, mewn partneriaeth â Dŵr Cymru, ac wedi sefydlu cwmni buddiant cymunedol unigryw ym Mannau Brycheiniog. Mae’r grŵp yn cydweithio i dreialu ffyrdd newydd o weithio ac arferion amaethyddol arloesol sy’n darparu manteision i ffermydd ac yn amddiffyn ffynonellau dŵr yfed.
Mae’r grŵp yn cael ei herio i ddatblygu datrysiadau lle mae pawb ar eu hennill a fydd yn dod â manteision hirdymor i’n dalgylchoedd dŵr yfed a’r gymuned ffermio. Mae’r grŵp yn gweithredu ar y ddealltwriaeth nid yw unrhyw syniad yn syniad drwg ac mae’n annog ei aelodau i feddwl mewn ffordd greadigol.
Dangoswyd gwaith i ni y mae aelodau’r grŵp wedi’i gyflawni ar eu ffermydd, gan gynnwys gorsafoedd tywydd i ganfod yr amseroedd gorau i daenu mwd, rheoli stoc a thir i wneud y mwyaf o gynnyrch glaswellt a lleihau colli pridd, a rheoli gwrychoedd. Mae’r holl waith maen nhw wedi’i wneud wedi dod â buddion i’w busnesau fferm, gyda’r budd dwbl o leihau dŵr ffo, llygredd, a cholli pridd i’r afon.
Gellir cymhwyso llawer o’r arferion maen nhw’n eu defnyddio i ddalgylch rhan uchaf afon Gwy a’r gwaith rydym ni’n ei ariannu. Byddwn yn parhau i ddysgu gan y grŵp ac maen nhw wedi cynnig helpu gyda sgyrsiau rhwng cymheiriaid i ddangos y buddion i gymuned ffermio rhan uchaf afon Gwy.
|
|
|
|
|