|
Mae’r diweddglo prysur i 2022 wedi symud yn ddi-dor i fis Ionawr yn llawn gwaith prosiect sydd bellach wedi dechrau ar bob safle. Cwblhawyd nifer o arolygon gwaelodlin, rhoddwyd asesiadau hydrolegol helaeth ar waith ac mae’r peiriant cynaeafu wedi bod allan ar safleoedd yng ngogledd a chanolbarth Cymru er mwyn cael gwared â llystyfiant problemus.
Dyma rai o’r uchafbwyntiau yn hanes prosiect Corsydd Crynedig LIFE ers ein cylchlythyr diwethaf (y gellir dod o hyd iddo yma, rhag ofn eich bod heb ei weld!).
Cylchlythyr Brosiect Corsydd Crynedig Hydref 2022 (govdelivery.com)
|
|
I gyd-fynd â’n digwyddiad lansio a gynhaliwyd ym mis Hydref 2022, aethom ati i greu fideo byr yn cyflwyno safle Cors Crymlyn, gan sôn am yr heriau sy’n perthyn i gyflawni canlyniadau’r prosiect yno a’r ffyrdd niferus y bydd ymyriadau Corsydd Crynedig LIFE yn gwella’r cynefin rhyfeddol ac amrywiol hwn. Cyflwynir y fideo gan Gareth Thomas, Uwch-swyddog Prosiect, ac mae’n esbonio’r prif ffactorau hanesyddol sydd wedi effeithio ar y gors a’r tirweddau ehangach sy’n ei chynnal. Rydym wrth ein bodd o gael gweithio’n agos gyda St Modwen, un o randdeiliaid pwysig y prosiect, i gadarnhau’r cytundebau mynediad ar gyfer dod â pheiriannau ar y gors a dechrau ar y broses adfer. Hefyd, rydym yn falch iawn o allu defnyddio gwasanaethau Dr Rob Low, hydrolegydd mawndiroedd arweiniol, a fydd yn arwain y gwaith o asesu’r modd y mae dŵr yn symud trwy, ar ac o amgylch y gors.
Dyma'r fideo: Cyflwyno Cors Crymlyn, Prosiect LIFEquake / Introducing Crymlyn Bog, LIFEquake Project - YouTube
|
|
|
Ddechrau mis Ionawr, cawsom fwynhau diwrnod yng nghwmni’r arbenigwr John Ratcliffe ar nifer o safleoedd prosiect Corsydd Crynedig LIFE yn Sir Benfro. Gyda’i gilydd, caiff ein safleoedd ger Tyddewi eu galw’n Diroedd Comin y Gogledd Orllewin, a phrofiad gwych oedd cael cipolwg gwerthfawr ar gynefin Comin Dowrog wrth greu’r fideo byr hwn. Mae safle Dowrog wedi’i leoli ym mhen pellaf llwybr glanio hen faes awyr o’r Ail Ryfel Byd, a hefyd mae am y clawdd â thir sy’n rhan o ‘Dr Beynon’s Bug Farm’. Mae Dr Sarah Beynon â rhan flaenllaw mewn nifer o brosiectau pwysig sy’n anelu at adfer y cynefin gwerthfawr hwn – yn arbennig felly, rhaglen sy’n meithrin ac yn hybu poblogaethau o damaid y cythraul, sef planhigyn bwydo a nythu hanfodol i fetaboblogaethau o frithegion y gors sydd, ar hyn o bryd, yn dirywio yn y rhan hon o Sir Benfro.
Dyma'r fideo: (5) Comin Dowrog gyda John Ratcliffe / Dowrog Common with John Ratcliffe - YouTube
|
Mae contractwyr wedi bod yn brysur yn clirio llecynnau o fieri ac eithin yn barod ar gyfer rheoli jac y neidiwr yr haf hwn. Daethpwyd o hyd i lecynnau trwchus o jac y neidiwr o amgylch Cors Crymlyn yn ystod y gwaith mapio INNS (rhywogaethau estron goresgynnol). Heb roi dulliau rheoli o’r fath ar waith, yn ôl pob tebyg byddai’r planhigyn estron hwn yn ymledu ymhellach i’r gors gan effeithio ar lystyfiant a rhywogaethau peillio a chan roi dynodiad y safle fel ACA (Safle Cadwraeth Arbennig) a SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) yn y fantol. Gall jac y neidiwr ledaenu’n gyflym – mae pob planhigyn yn cynhyrchu hyd at 800 o hadau sy’n gallu gwasgaru hyd at 7 metr pan fydd y codau hadau’n ffrwydro tua diwedd yr haf. Hefyd, gall anifeiliaid a dŵr llifeiriol ledaenu’r hadau, felly tasg anodd iawn yw cael gwared â’r planhigyn yn llwyr. Y gaeaf hwn, canolbwyntiwyd ar baratoi safleoedd penodol o fewn y Warchodfa Natur Genedlaethol trwy dorri prysgwydd i lawr hyd at lefel y ddaear. Trwy wneud hyn, bydd modd mynd ar yr ardaloedd yn rhwydd i reoli’r planhigyn estron trwy ei strimio neu ei ddadwreiddio â llaw.
|
I ddathlu cynefinoedd gwlyptir y byd a’n cyfraniad ein hunain at adfer a chynnal-a-chadw’r tirweddau rhyfeddol hyn, fe wnaethom gynnal taith gerdded dywysedig o amgylch safle Cors Crymlyn. Yn ystod y daith gerdded, cafodd ymwelwyr gyfle i gael golwg agos ar y safle a chlywed Gareth, Uwch-swyddog Prosiect, yn esbonio’r gwahanol ffyrdd y bydd ymyriadau Corsydd Crynedig LIFE yn effeithio’n gadarnhaol ar y gors grynedig a’r dirwedd sy’n ei chynnal. Bydd y daith gerdded hon yn esblygu’n dragwyddol oherwydd y tymhorau a’r datblygiadau ffisegol ar y safle. Byddwn yn cynnig y daith yn rheolaidd i’r cyhoedd, a hefyd byddem yn croesawu ymholiadau gan grwpiau sy’n awyddus i fynd ar eu taith bwrpasol eu hunain.
|
Yn gynnar ym mis Ionawr aeth Mark, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Corsydd Crynedig LIFE, ar ei ymweliad cyntaf â’n safleoedd yng Ngogledd Cymru. Mae safleoedd Corsydd Eifionydd yn cynnwys Cors Gyfelog, Cors Graianog, Cors y Wlad a Chors Llanllyfni. Pleser o’r mwyaf fu cael cyfarfod â chydweithwyr, rheolwyr tir, ffermwyr lleol ac arbenigwyr ehangach ar fawndiroedd er mwyn cael darlun llawn o gorsydd Gogledd Cymru. Gwnaethom yn fawr o’r cyfle i gyfarfod â Dr Rhoswen Leonard a Dr Peter Jones o’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd; ac ar y cyd â phartneriaid eraill sy’n ymhél â mawndiroedd, casglwyd llawer o gynnwys ar gyfer fideo dwyieithog a fydd yn cael ei rannu rhwng y rhwydweithiau a’r sianeli i gyd dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Yma, gwelir Dr Rhoswen Leonard yn rhoi golwg gyffredinol inni ar y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd a rhaglenni mawndiroedd a gynhelir gan CNC. Cafodd y fideo hwn ei bostio a’i werthfawrogi’n eang ar Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd.
Dyma'r fideo: Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd - Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd - YouTube
|
Ddiwedd mis Rhagfyr, aeth holl dîm prosiect Corsydd Crynedig LIFE, yn ogystal ag aelodau tîm Cyforgorsydd Cymru, i ymweld â chydweithwyr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bu’r ymweliad yn brofiad hynod bleserus a gwerthfawr o ran rhannu arferion da’n ymwneud â thechnegau adfer mawndiroedd. Cawsom ein croesawu gan Sam Ridge, Swyddog Mawndiroedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar safle ucheldirol Waun Fach. Dangosodd Sam y gorgorsydd y maent wedi treulio sawl blwyddyn yn ceisio’u hadfer a soniodd am eu cynlluniau i gynnal lefel y dŵr ar y gors a chynorthwyo llystyfiant pwysig i dyfu.
Dyma's fideo: (5) Ymweliad LIFE ag Aberhonddu / LIFE Brecon Visit - YouTube
|
Chwiliwch am 'LIFEquakingbogs' ar Facebook a Twitter.
|
|
Mae’r gwaith hwn wedi’i ariannu gan grant rhaglen LIFE yr UE a Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Parc Cenedlaethol Sir Benfro a Llywodraeth Cymru (LIFE20 NAT/UK/000137). |
|
|
|
|
|