|
Wedi’i ariannu gan EU LIFE a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, mae Prosiect Corsydd Crynedig LIFE yn brosiect pum mlynedd sy’n anelu at adfer mawndiroedd, corsydd crynedig a’u tirweddau ehangach o wlypdir cynhaliol i statws cadwraeth ffafriol. ‘Corsydd crynedig’ - maen nhw’n cael eu galw felly oherwydd pan fo’r amodau’n iawn, mae’r ddaear yn ‘crynu’ dan draed.
Cyflwynir mewn partneriaeth gan CNC, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar saith Ardal Cadwraeth Arbennig – Cors Crymlyn, Comin Gogledd Orllewin Sir Benfro, Preseli, Rhos Goch, Corsydd Eifionydd, Gweunydd Blaencleddau a Chors Caron.
Mawndir yw adnodd tir mwyaf gwerthfawr Cymru gan ei fod yn storio 30% o garbon tir. Gan gwmpasu tua 4% o Gymru, amcangyfrifir bod 90% o fawndir Cymru mewn cyflwr dirywiol a’i fod yn allyrru nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at newid hinsawdd.
Aseswyd y cynefin fel ‘anffafriol’ ym mhob safle a ddewiswyd. Mae amodau o'r fath yn aml yn cael eu hachosi gan y tir yn cael ei or-bori gan anifeiliaid. Mewn rhai achosion, mae pori annigonol wedi arwain at fygu planhigion pwysig gan rywogaethau dominyddol neu ymledol. Ffactorau eraill sy'n effeithio ar y safleoedd yw rhoi'r gorau i reoli tir, draeniad gwael a llygredd eang.
Darllenwch fwy am Brosiect Corsydd Crynedig LIFE yma
|
|
|
Bydd y prosiect yn mynd i’r afael ag amodau dŵr gwael ar y saith safle drwy adfer systemau draenio a llif hanesyddol – mewn rhai achosion drwy ddod â mwy o ddŵr i’r gors, a chael gwared arno mewn achosion eraill.
Torri, crafu a chloddio er mwyn cael gwared ar lystyfiant a rhywogaethau ymledol annymunol sydd ar hyn o bryd yn mygu’r planhigion a’r mwsoglau pwysig sy’n creu’r ‘corsydd crynedig’ hyn.
Bydd 65 km o ffensys a seilwaith arall yn cael eu gosod ar draws y safleoedd a fydd yn caniatáu i'r lefelau cywir o bori cynaliadwy ddigwydd.
Bydd y prosiect yn datblygu ac yn gweithredu technegau monitro er mwyn mesur effeithiolrwydd technegau adfer a rheoli ar gyfer corsydd trosiannol a chorsydd crynedig ac yn codi lefelau dealltwriaeth a gwerthfawrogiad ymhlith y cyhoedd, rheolwyr tir lleol (gan gynnwys ffermwyr) a rhanddeiliaid eraill o bwysigrwydd corsydd trosiannol a chorsydd crynedig.
|
|
|
|
|
Matthew ydw i, Rheolwr Prosiect Corsydd Crynedig LIFE. Mae hwn yn brosiect mor bwysig oherwydd byddwn yn adfer mawnogydd i gyflwr da er mwyn iddyn nhw allu cynnal cyfoeth o fywyd gwyllt. Drwy ofalu am fyd natur, rydym yn gofalu amdanom ein hunain, gan ein bod i gyd yn dibynnu ar amgylchedd naturiol iach. Mae corstir sy’n cael ei reoli’n dda yn helpu storio carbon, gan gyfrannu at frwydr Cymru yn erbyn newid hinsawdd. |
|
|
Gareth ydw i, Uwch Swyddog Prosiect Corydd Crynedig LIFE. Bydd LIFEquake hefyd yn mynd i’r afael â phroblemau, ac yn eu plith rywogaethau ymledol, llygredd, ac effaith 200 mlynedd o ddiwydiant trwm, er mwyn diogelu’r cynefinoedd hyn ar gyfer rhywogaethau sy’n prinhau gan gynnwys Coryn Rafft y Gors a Gloÿnnod Byw Brith y Gors. Rwy’n hynod falch i gael bod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn ac yn teimlo’n gyffrous am weld y canlyniadau y gall tîm Prosiect Corsydd Crynedig LIFE eu cyflawni.
|
|
|
Mark ydw i, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu Prosiect Corsydd Crynedig LIFE. Fy rôl i yw adrodd hanes y prosiect gwych hwn. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu am fyd rhyfeddol adfer mawndiroedd ac rwy’n awyddus i rannu’r hyn a ddysgwn ag eraill. Byddaf yn mynd â’n negeseuon i nifer o ddigwyddiadau ac yn ymgysylltu â chymunedau a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod pawb yn deall pwysigrwydd y cynefinoedd hyn, eu bod yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o’u cynnal ac yn cael pob cyfle i’w mwynhau’n llawn.
|
|
|
Helo, Vicky ydw i. Fi yw Swyddog Prosiect Corsydd Crynedig LIFE ac rwy’n gweithio yn Sir Benfro. Ar ôl cael fy magu yn Sir Benfro rydw i wir yn edrych ymlaen yn fawr at weithio ar rai safleoedd gwych ger Tyddewi a Mynachlog-ddu. Bydd llawer o’m gwaith yn canolbwyntio ar hwyluso gwell pori ar y safleoedd a fydd yn cadw llystyfiant cryf a nerthol dan reolaeth ac yn caniatáu i blanhigion llai a mwy bregus ffynnu gan greu mwy o amrywiaeth rhywogaethau a gwell brithwaith o gynefinoedd |
|
|
|
|
|
|
Helo Dan ydw i, Swyddog Prosiect Corsydd Crynedig LIFE yng Ngogledd Cymru dros ein pedwar safle yn Eifionydd. Mae tirwedd ehangach y safleoedd hyn i gyd o bwysigrwydd mawr er mwyn cynnal cynefinoedd sy’n gartref i feta boblogaethau o ieir bach yr haf Brith y gors. Mae’r rôl yn arbennig i mi oherwydd mae’n rhoi’r cyfle i fi gyfrannu’n uniongyrchol at gadwraeth natur trwy gyfrwng y Gymraeg ac oddi mewn i’r rhanbarth y cefais fy ngeni a’m magu ynddi. |
|
|
Helo, Catherine ydw i, swyddog Cynorthwyol Prosiect Corsydd Crynedig LIFE. Rwy’ bob amser wedi caru’r awyr agored a bydda’ i’n treulio’r rhan fwyaf o’m penwythnosau yn cerdded ac yn archwilio ein cefn gwlad a’n llwybrau arfordirol bendigedig. Fel rhywun sy’n teimlo’n angerddol iawn ynglŷn â’r amgylchedd, mae Prosiect Corsydd Crynedig LIFE yn rôl berffaith i gynorthwyo gyda’r gwaith o adfer corsydd trosiannol a chorsydd crynedig o amgylch Cymru.
|
|
|
|
|
Helo, Sarah ydw i; fi yw Swyddog Cyllid a Gweinyddu'r prosiect. Rwy’n teimlo mor gyffrous i fod yn gweithio ar Brosiect Corsydd Crynedig LIFE, yn enwedig oherwydd bod adfer mawndiroedd mor bwysig ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella cynefinoedd bywyd gwyllt. Rwy'n byw yn Abertawe ac felly rwy'n arbennig o falch y bydd LIFEquake yn canolbwyntio cymaint ar adfer safle Cors Crymlyn a gweithio gyda chymunedau sy'n agos at fy nghartref. |
Ddechrau mis Hydref roedd yn bleser gennym gynnal lansiad swyddogol y prosiect yng Nghanolfan Ymwelwyr Crymlyn, Abertawe – un o’r saith safle y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn ystod Prosiect Corsydd Crynedig LIFE.
Roedd ein lansiad yn cyd-daro ag wythnos bwysig iawn o ran newid hinsawdd. Ar ddechrau’r wythnos roedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud addewid beiddgar a chyffrous i dreblu eu targedau adfer mawndiroedd a chadarnhaodd Julie James, y Gweinidog dros Newid yn yr Hinsawdd, y bwriad hwnnw drwy fynychu lansiad Prosiect Corsydd Crynedig LIFE ar y dydd Gwener.
Dywedodd Julie,
“Rwy’n falch iawn o allu bod yn bresennol yn lansiad y prosiect LIFE newydd pwysig hwn a bod Llywodraeth Cymru yn gallu cyfrannu dros £1.7m tuag ato dros y pedair blynedd nesaf.
“Bydd yn gwneud cyfraniad pwysig i’n cynlluniau uchelgeisiol o gyrraedd y targed sero net ar gyfer 2050, sef adfer 45,000 ha o fawndir. Bydd hefyd yn helpu i ehangu a chyflymu ein Rhaglen Rhwydweithiau Natur er mwyn gwella cyflwr a chysylltedd ein rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig ac i adfer cyflwr cynefinoedd allweddol i sicrhau bod planhigion ac anifeiliaid yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn well”.
Darllenwch ddatganiad i'r wasg am lansio Prosiect LIFEquake yma
Dangoswyd fideo yn ein lansiad er mwyn rhoi trosolwg o safle Cors Crymlyn a’r cynlluniau sydd gan Brosiect Corsydd Crynedig LIFE i ddod â’r cynefin yn ôl i statws ‘ffafriol’.
Gwyliwch y fideo yma o Martyn Evans yn cymeradwyo prosiect LIFEquake.
|
Mae cors grynedig iach, gweithredol yn gynefin delfrydol i löyn byw Brith y gors a phrif ffocws Prosiect Corsydd Crynedig LIFE yw adfer a chynnal yr amodau er mwyn helpu’r rhywogaeth arbennig hon i ffynnu. Mae gwaith cychwynnol wedi'i wneud gan Swyddogion Prosiect Corsydd Crynedig LIFE a phartneriaid ar draws Cymru er mwyn cynnal arolygon i asesu niferoedd a lleoliadau presennol poblogaethau Brith y gors.
Dangosydd allweddol o botensial gallu Brith y gors i fyw mewn corsydd crynedig yw presenoldeb y planhigyn Tamaid y Cythraul (devil’s bit scabious). Dyma’r brief ffynhonnell fwyd i’r lindys sydd hefyd yn dechrau eu bywydau mewn ‘gweoedd’ sydd i’w gweld ar ddail y planhigyn. Cam un o waith Brith y gors yw cynnal arolygon gwe
Dyma fideo byr o Vicky, Swyddog LIFEquake, ân cydweithwyr yn cynnal arolygon gwe brith y gors yn Sir Benfro
|
Ffactor enfawr wrth adfer mawndiroedd yw sefydlu a chynnal y llif cywir o ddŵr er mwyn creu’r amodau cywir. Mewn rhai achosion mae ar gorsydd crynedig angen mwy o ddŵr wedi’i gyfeirio at y safle er mwyn ffynnu, mewn achosion eraill mae’n fater o ddraenio dŵr dros ben i ffwrdd o’r cynefin.
Gall llif dŵr fod yn gyfrifol am gludo gormodedd o faetholion i'r gors sy'n bwydo rhywogaethau problematig neu ymledol sy'n cael effaith andwyol ar y planhigion pwysig - fel y migwyn (sphagnum moss) - sy'n ffurfio'r gors mewn gwirionedd. Bydd Prosiect Corsydd Crynedig LIFE yn cynnal arolygon hydrolegol helaeth o safleoedd y prosiect cyn unrhyw waith arfaethedig er mwyn asesu a oes angen cyfeirio dŵr at y gors neu ei ddraenio ohoni.
Er mwyn bod yn barod ar gyfer yr arolygon hyn, mynychodd aelodau o dîm Prosiect Corsydd Crynedig LIFE ddiwrnod hyfforddiant hydroleg mawndir gwych a ddarparwyd gan Dr Rob Lowe ac a ariannwyd gan ein ffrindiau yn y Prosiect Lost Peatlands.
Gwyliwch y fideo byr hon o Ddiwrnod Hyfforddiant Hydroleg Mawndiroedd
|
Ddiwedd mis Hydref, ymwelodd tîm Prosiect Corsydd Crynedig LIFE â phrosiect adfer mawndir gwych arall a ariennir gan LIFE. Croesawyd ni gan Marches Mosses BogLIFE, sydd ar fin dod i ben, a chawsom daith addysgiadol iawn o amgylch safleoedd eu prosiect - Fenn's, Whixhall a Bettisfield Mosses sydd wedi'u lleoli yn Swydd Amwythig ac sy’n croesi i Gymru a Lloegr.
Braf oedd rhannu syniadau a chael ysbrydoliaeth gan dîm Mawnogydd y Gororau...a hefyd i drafod yr heriau niferus wrth adfer cynefinoedd mawndir.
Gallwch ddarllen mwy am brosiect Mawnogydd y Gororau yma.
Manteisiodd tîm ein prosiect ar y cyfle hefyd i ddychwelyd adref yn dilyn ymweliad ag un o'n safleoedd ym Mhrosiect Corsydd Crynedig LIFE - Rhos Goch, ger Llanfair-ym-muallt. Cadwch lygad ar agor am gylchlythyrau sydd i ddod lle byddwn yn manylu ar y gwaith sydd ar y gweill ar gyfer Rhos Goch.
Dyma fideo byr o’r ymweliad â Mawnogydd y Gororau.
|
Mae Canolfan Ymwelwyr Cors Crymlyn yn croesawu grŵp cymunedol lleol Gwirfoddolwyr Coetir Cilfái yn rheolaidd. Mae'r grŵp yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o grefftau coetir hynafol a hefyd yn cyfrannu cryn dipyn o amser a gofal i gynnal a chadw'r llwybrau ar Fynydd Cilfái - sydd wedi'i leoli yn union y tu ôl i'r ganolfan ymwelwyr yng Nghrymlyn.
Mae tîm Prosiect Corsydd Crynedig LIFE eisoes wedi meithrin perthynas waith agos â Gwirfoddolwyr Cilfái ac mae yna awydd cryf yn bodoli rhwng y naill a’r llall i gydweithio ar nifer o dasgau cadwraeth pwysig o amgylch safle Crymlyn dros y blynyddoedd i ddod.
Ddydd Sul 16 Hydref, cynhaliodd Crymlyn ddigwyddiad cymunedol diweddaraf grŵp Gwirfoddolwyr Cilfái lle cafodd ymwelwyr y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau celf a chrefft yn y coetir - yn ogystal â rhostio castanwydd oedd wedi dod o Fynydd Cilfái ei hun!
Dyma fideo byr o'r digwyddiad.
|
Chwiliwch am 'LIFEquakingbogs' ar Facebook a Twitter.
|
|
This work has been funded by an EU LIFE programme grant and Natural Resources Wales, Snowdonia National Park, Pembrokeshire County National Park and Welsh Government (LIFE20 NAT/UK/000137). |
|
|
|
|
|