Cyhoeddi mai Karen Wheeler CBE yw Prif Weithredwr newydd RWM

Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Radioactive Waste Management

Karen Wheeler

Cyhoeddi mai Karen Wheeler CBE yw Prif Weithredwr newydd RWM

Mae RWM wedi penodi Karen Wheeler CBE fel Prif Swyddog Gweithredol i reoli ei bortffolio o wasanaethau rheoli gwastraff ymbelydrol, ac i oruchwylio’r gwaith o ddarparu ateb tymor hir ar gyfer gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn y DU.

Ar ôl cael ei phenodi, dywedodd Karen Wheeler: "Rydw i’n falch iawn o fod yn ymuno ag RWM fel Prif Weithredwr, i arwain ei waith cenedlaethol pwysig o roi atebion yng nghyswllt rheoli gwastraff ymbelydrol. Mae RWM mewn cyfnod cyffrous iawn wrth iddo weithio i ddod o hyd i leoliad addas ar gyfer Cyfleuster Gwaredu Daearegol o dan y ddaear."

"Rydw i’n edrych ymlaen at weithio gyda thîm RWM, grŵp NDA a’r holl randdeiliaid a chymunedau sy’n rhan o'r prosiect pwysig hwn, neu’n ymddiddori ynddo."

Swydd amser llawn ddiwethaf Karen Wheeler oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp Cyflawni’r Ffin, sy’n gyfrifol am arwain y gwaith trawslywodraethol o baratoi ffin y DU ar gyfer Brexit.  Mae hi hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol Bwrdd RWM ers mis Medi 2018.

Cafodd Karen ei phenodi yn dilyn penderfyniad Bruce McKirdy, Prif Weithredwr blaenorol RWM, i ymddeol. Bydd yn ymgymryd â'r swydd o 1 Chwefror 2020 ymlaen.