Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cefnogi masnach mewn plastigau wedi’u hailgylchu ar gyfer deunydd pecynnu bwyd
Mae dulliau cynhyrchu bwyd yn effeithio ar yr amgylchedd, ac mae llawer o dystiolaeth i gefnogi hyn. O bryderon ynghylch allyriadau carbon a gwastraff bwyd i golli bioamrywiaeth, mae rhybuddion, mae rhybuddion clir bod angen i’r byd symud at ffyrdd mwy cynaliadwy o gyflenwi bwyd.
Yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), rydym am helpu i wneud bwyd yn fwy cynaliadwy. Un o’r ffyrdd y gallwn wneud hyn yw drwy hwyluso defnydd diogel o ddeunydd pecynnu mwy cynaliadwy. Mae deunydd pecynnu’n helpu i gadw bwyd yn ddiogel a’i atal rhag mynd yn ddrwg, ond mae hyn ar draul yr amgylchedd. Mae’r DU yn cynhyrchu mwy na dwy filiwn tunnell o ddeunydd pecynnu plastig bob blwyddyn. Er bod y ffigur hwnnw’n gostwng, mae’r rhan fwyaf o ddeunydd pecynnu plastig ar gyfer bwyd a diod yn ddeunydd pecynnu un-tro, byrhoedlog. Felly, rydyn ni’n gwybod bod mwy y gellir ei wneud i wella cyfraddau ailgylchu.
Cadarnhaodd y llywodraeth yn ddiweddar y bydd yr ASB yn gweithredu fel yr awdurdod cymwys o dan reoliadau’r UE ar gyfer deunyddiau plastig wedi’u hailgylchu i’w defnyddio mewn deunydd pecynnu bwyd. Bydd hyn yn galluogi’r rheiny sy’n ailgylchu plastig yn y DU i barhau i gyflenwi plastig wedi’i ailgylchu i farchnad yr UE.
Dyma enghraifft o sut mae ein gwaith yn cefnogi twf economaidd, yn ogystal â diogelu iechyd y cyhoedd a defnyddwyr. Dyma un o’r nifer o feysydd y siaradais amdanynt wrth ymddangos gerbron Pwyllgor Diwydiant a Rheoleiddwyr Tŷ’r Arglwyddi, sy’n edrych ar y berthynas rhwng rheoleiddwyr a thwf economaidd.
Mae’r ASB eisoes yn rheoleiddio deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan sicrhau bod y deunyddiau hynny’n ddiogel i’w defnyddio yn y gadwyn fwyd. Byddwn ni nawr yn archwilio cyfleusterau ailgylchu ar ran yr UE hefyd. Mae hwn yn gam hanfodol i gefnogi’r fasnach mewn plastigau wedi’u hailgylchu ar gyfer deunydd pecynnu bwyd o fewn marchnad yr UE. Mae hefyd yn cefnogi twf yn niwydiant ailgylchu’r DU.
Fel yr awdurdod cymwys, rydym wedi sefydlu rhaglen archwilio i gynnal gwiriadau cyson ar y rheiny sy’n ailgylchu plastig ym Mhrydain Fawr. Rydym wedi cwblhau’r archwiliadau cyntaf, sy’n cynrychioli carreg filltir sylweddol, gan gryfhau diogelwch defnyddwyr wrth helpu’r rheiny sy’n ailgylchu yn y DU i gadw mynediad at farchnadoedd gwerthfawr yr UE.
Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau bod y newid hwn yn llwyddiant.
|