Ysgogi arloesedd mewn diogelwch bwyd: lansio rhaglen ymchwil arloesedd yr ASB ym maes mynediad i’r farchnad
Roeddwn i’n falch o siarad yn ddiweddar wrth i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) lansio ei rhaglen ymchwil arloesedd newydd ym maes mynediad i’r farchnad, ochr yn ochr â’r Gweinidog Gwyddoniaeth, yr Arglwydd Vallance. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gryfhau galluoedd yr ASB wrth reoleiddio’r technolegau bwyd sy’n dod i’r amlwg ac sy’n ail-lunio’r system fwyd, gan ganolbwyntio’n benodol ar eplesu manwl. Bydd yn cefnogi arloesedd diogel a chynaliadwy, gan helpu’r ASB i feithrin yr arbenigedd sydd ei angen i asesu cynhyrchion newydd a darparu canllawiau clir i arloeswyr a buddsoddwyr sydd am werthu eu bwydydd yn y DU.
Yn yr ASB, ein cenhadaeth yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel, yn ddilys, ac yn ddibynadwy – ni waeth sut y caiff ei wneud. Mae angen i ni gadw’n wastad ag arloesedd, sy’n golygu symleiddio ein prosesau, cymhwyso dulliau sy’n seiliedig ar risg, a sicrhau bod ein gwaith rheoleiddio’n cefnogi iechyd y cyhoedd a thwf economaidd.
Rydym eisoes yn gwneud cynnydd. O dreialu technoleg cadwyn flociau (‘blockchain’) ar gyfer tryloywder yn y gadwyn gyflenwi i ddatblygu offer deallusrwydd artiffisial sy’n helpu awdurdodau lleol i flaenoriaethu arolygiadau hylendid bwyd, rydym yn croesawu technoleg i wella sut rydym yn gweithio. Mae ein blwch tywod rheoleiddiol ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yn enghraifft arall o sut rydym yn galluogi arloesedd diogel wrth ehangu dewis defnyddwyr.
Rydym wedi bod yn glir iawn mai diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth gyntaf o hyd. Bwriad ein gwaith ar dechnolegau newydd yw cynyddu ein gwybodaeth am y cynhyrchion hyn, nid cyflymu ein hasesiadau diogelwch. Bydd ein dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn parhau i sicrhau bod pob technoleg bwyd newydd yn cael ei hasesu’n drylwyr am ddiogelwch a dilysrwydd cyn iddi gyrraedd y farchnad, a byddwn yn ystyried buddiannau defnyddwyr ac yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer pob cynnyrch newydd.
Fel adran anweinidogol, rydym mewn sefyllfa unigryw i alw’r llywodraeth a’r diwydiant ynghyd, ac i sicrhau bod buddiannau defnyddwyr yn parhau i fod wrth wraidd arloesedd. Mae lansio’r rhaglen hon yn adlewyrchu ein cred bod yn rhaid i arloesedd a diogelu’r cyhoedd fynd law yn llaw.
Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf gan yr ASB, gallwch chi gofrestru yma.
|