|
Dear Subscriber,
I’m very much looking forward to the FSA Board meeting in Hull on 26 March. This is the first Board meeting of 2025 and there are some really important issues up for discussion.
There’s a report on our proposals for adjusting the approach to how we monitor trends in foodborne disease. Tackling foodborne disease is a core priority for the FSA, so monitoring levels effectively is important. We need to make sure controls are working and see where we might need to intervene.
We're looking at the Border Target Operating Model (BTOM), which was put in place by the Government during 2024 to manage our global imports after we left the EU, particularly food, feed and plants. The FSA provided input on food and feed safety for the new risk-based approach and made sure consumer protection was a key consideration as it was developed. This report examines the contribution of BTOM to managing the food and feed safety risks from imports.
We will also be looking at the question of cost-recovery for local authorities – an approach that could potentially help to support a more sustainable system of regulation in the future. This is an idea that local authorities have asked us to explore, and the paper is just a starting point for a wider conversation. If the Board agrees that we should explore this issue further, we will broaden our discussions to include food businesses, consumers and local authorities.
If you want to read more about these issues, we have just published all of the Board papers for the 26 March Board meeting here. You can also register to watch the meeting here.
|
Katie Pettifer Chief Executive of FSA
|
|
Subscribe to this message
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future messages delivered direct to your inbox.
|
|
Annwyl Danysgrifiwr,
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod Bwrdd yr ASB yn Hull ar 26 Mawrth. Dyma fydd cyfarfod cyntaf y Bwrdd yn 2025 ac mae rhai materion hollbwysig i’w trafod.
Bydd yna adroddiad ar ein cynigion ar gyfer addasu’r dull o fonitro tueddiadau mewn clefydau a gludir gan fwyd. Mae mynd i’r afael â chlefydau a gludir gan fwyd ymhlith prif flaenoriaethau’r ASB, felly mae monitro lefelau’n effeithiol yn bwysig. Mae angen i ni sicrhau bod y rheolaethau’n gweithio a gweld lle y gallai fod angen i ni ymyrryd.
Byddwn yn edrych ar y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM), a roddwyd ar waith gan y llywodraeth yn 2024, a hynny er mwyn rheoli ein mewnforion byd-eang wedi i ni adael yr UE, yn enwedig bwyd, bwyd anifeiliaid a phlanhigion. Rhoddodd yr ASB fewnbwn mewn perthynas â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ar gyfer y dull newydd sy’n seiliedig ar risg, a gwnaeth yn siŵr fod diogelu defnyddwyr wrth wraidd y model wrth iddo gael ei ddatblygu. Mae’r adroddiad hwn yn archwilio cyfraniad BTOM at reoli’r risgiau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid o fewnforion.
Byddwn hefyd yn ystyried y sefyllfa o ran adennill costau i awdurdodau lleol – dull a allai helpu i gefnogi system reoleiddio fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Dyma syniad y mae awdurdodau lleol wedi gofyn i ni ei archwilio, a man cychwyn yn unig yw’r papur ar gyfer sgwrs ehangach. Os bydd y Bwrdd yn cytuno y dylem archwilio’r mater hwn ymhellach, byddwn yn ehangu ein trafodaethau i gynnwys busnesau bwyd, defnyddwyr ac awdurdodau lleol.
Os hoffech ddarllen mwy am y materion hyn, rydym newydd gyhoeddi holl bapurau’r Bwrdd ar gyfer y cyfarfod ar 26 Mawrth ar ein gwefan. Gallwch hefyd gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein.
|
Katie Pettifer Prif Weithredwr yr ASB
|
|
Tanysgrifiwch i’r neges hon
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael negeseuon yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
|
|
|
|