|
Dear Subscriber,
I am writing to share the news that Katie Pettifer has been appointed as Chief Executive of the FSA.
The recruitment process was very competitive, but Katie has strong experience of both government policy and regulation, as well as a deep knowledge of the FSA. Katie has served as Interim Chief Executive since September last year and has been the FSA’s Director of Strategy since 2021. She is already known to many of you and familiar with your work.
Her appointment comes at a significant time, coinciding with the FSA’s 25th anniversary and the emergence of new opportunities for the organisation across government with the Plan for Change, five key missions, and the development of a food strategy in England as well as the implementation of the Northern Ireland Food Strategy Framework and Food Matters: Wales. I feel very confident that under her leadership the FSA Executive will continue to deliver the FSA’s mission of food you can trust.
|
|
|
Commenting on her appointment, Katie said:
"The FSA does vital work to keep food safe and protect consumers. I’m delighted to have been appointed as the Chief Executive on a permanent basis.
"In 2025 – the FSA’s 25th anniversary year – there are both challenges and exciting opportunities ahead. I look forward to working with the FSA’s partners and stakeholders across the food system to make sure people continue to have food they can trust."
|
|
|
|
As you know, my time as FSA Chair has been extended. I look forward to continuing to work with Katie as Chief Executive, to provide the leadership and strategic direction to enable the FSA to succeed.
Please join me in congratulating Katie on her appointment.
Professor Susan Jebb FSA Chair
|
|
|
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future messages delivered direct to your inbox.
|
|
Annwyl Danysgrifiwr,
Rwy’n ysgrifennu i rannu’r newyddion bod Katie Pettifer wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr yr ASB.
Roedd y broses recriwtio’n gystadleuol iawn, ond mae gan Katie brofiad cryf o waith polisi a rheoleiddio’r llywodraeth, yn ogystal â gwybodaeth ddofn am yr ASB. Mae Katie wedi gwasanaethu fel Prif Weithredwr Dros Dro ers mis Medi y llynedd a, chyn hynny, hi oedd Cyfarwyddwr Strategaeth yr ASB, a hynny ers 2021. Mae hi eisoes yn adnabyddus i lawer ohonoch ac yn gyfarwydd â’ch gwaith.
Daw penodiad Katie ar adeg arwyddocaol. Yn wir, mae’r ASB yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed eleni, ac mae cyfleoedd newydd yn dod i’r amlwg i’r sefydliad ar draws y llywodraeth gyda’r Cynllun ar gyfer Newid, pum cenhadaeth allweddol, a datblygu strategaeth fwyd yn Lloegr, yn ogystal â gweithredu Fframwaith Strategaeth Fwyd Gogledd Iwerddon ac amcanion y ddogfen Bwyd o Bwys: Cymru. Rwy’n teimlo’n hyderus iawn y bydd tîm gweithredol yr ASB, o dan arweinyddiaeth Katie, yn parhau i gyflawni cenhadaeth yr ASB, sef bwyd y gallwch ymddiried ynddo.
|
|
|
Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Katie:
“Mae’r ASB yn gwneud gwaith hanfodol i gadw bwyd yn ddiogel a diogelu defnyddwyr. Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Brif Weithredwr yn barhaol.
"Yn 2025, sef pen-blwydd yr ASB yn 25 oed, mae heriau a chyfleoedd cyffrous o’n blaenau. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid yr ASB ar draws y system fwyd i wneud yn siŵr bod pobl yn parhau i gael bwyd y gallant ymddiried ynddo.”
|
|
|
|
Fel y gwyddoch, mae fy amser fel Cadeirydd yr ASB wedi’i ymestyn. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda Katie fel Prif Weithredwr, a hynny i ddarparu’r arweinyddiaeth a’r cyfeiriad strategol i alluogi’r ASB i lwyddo.
Ymunwch â mi i longyfarch Katie ar ei phenodiad.
Yr Athro Susan Jebb Cadeirydd yr ASB
|
|
Tanysgrifiwch i’r neges hon
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael negeseuon yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
|
|
|
|