|
Stakeholder update: science and research
|
Dear Subscriber,
The FSA are delighted to share with you our latest science update, where we bring you our latest science and evidence and exciting opportunities to work with us. These quarterly updates will provide you with information about our current funding opportunities, latest research publications, areas of research interest, and will highlight FSA science job vacancies and peer reviewer opportunities.
Highlights
The annual update to the Board on the FSA’s three core areas of science delivery: risk analysis, research and evidence, and science infrastructure.
It reviews progress and impact since the last update in December 2023 and actions taken following the Chief Scientific Adviser’s annual report in June 2024. Additionally, it discusses the FSA’s future science needs, including short-term priorities for the coming year and strategic development areas for the government Spending Review period, and seeks feedback on new Areas of Research Interest (ARI).
New science content platform (public beta)
We are pleased to announce that we are currently moving to a dedicated new platform (public beta) for our science and evidence content from the FSA: science.food.gov.uk.
We hope this new site will allow for easier searching for content, better search engine optimisation, including with Google Scholar, and make it easier for you to cite and download our content.
While the website development and migration of some of our old content is still ongoing, all publications from now on will be published on our new site. Over time we will migrate as much of our content as possible so that you will only find it on the new site, but in the meantime our previous reports will remain on the central FSA website.
New blog posts
To understand the true burden of intestinal infectious disease in the UK, the FSA is currently running the IID3 project. Recruitment of general population participants began in March 2024. The use of patient and practice facing technology has enabled large scale, rapid population-level recruitment in the first six months of implementation.
COVID-19 (C19) changed many of our eating habits and behaviours. It also provided a unique opportunity for us to study how restrictions influenced the transmission of infectious intestinal disease (IID). This blog post presents some key findings and implications from two recently published reports on how IID was impacted by COVID-19 prevention measures.
|
|
|
Food for Thought seminars
Our monthly seminars encourage collaborative learning and networking on topics across the food industry that align with our research priorities.
|
You can watch recordings of past seminars on our YouTube channel
|
|
Food for Thought recordings
The FSA's Consumer Insights Tracker: trends and insights
In this session the Food for Thought team unpacked insights from the FSA’s tracking survey, the Consumer Insights Tracker. Have you ever wondered which food-related issues consumers are most concerned about? Or how they’re changing their shopping, cooking, and eating behaviours in these economically challenging times? This webinar explored these questions and more, revealing up-to-date insights and shifts over time from July 2023 to March 2024, along with key demographic differences.
The Food for Thought team also welcomes any suggestions for future potential speakers. Please contact the team via email.
|
Opportunities
Become a member of our Science Council or Scientific Advisory Committees (SACs).
We are currently recruiting for new members to join our Science Council, SACs and Joint Expert Group (JEGs).
Our committees are essential to the work of the FSA and help us to be an effective science and evidence-led organisation. Our SACs play a huge part in helping us to prioritise our work and ensure our advice to consumers is evidence-based and accurate.
If you have a scientific background and are interested in being part of a committee that truly makes a difference, we would love to hear from you.
The deadline to apply is Monday 7 October 2024. To find out more about our Science Council, SACs and JEGs, and the roles we are recruiting for, please visit our website.
|
Recent publications
We collaborate with a range of stakeholders on research projects to ensure our work is underpinned by the latest science and evidence. Our publications are available on our Research and Evidence pages, and you can see our latest research highlighted below, categorised by area of research interest.
|
|
|
PATH-SAFE programme
The Pathogen Surveillance in Agriculture, Food and the Environment (PATH-SAFE) programme is a 4-year, UK wide, cross government bio-surveillance programme which is working to develop a pilot national surveillance network, using the latest DNA-sequencing technology and environmental sampling, to improve the detection, and tracking of foodborne human pathogens and antimicrobial resistance (AMR) through the whole agri-food system from farm-to-fork.
As many of the programme and project delivery team members have been taking some well-earned holidays over the summer period, the programme has continued to make great progress, with all continuation projects up and running and delivery going well. We have also continued to build upon conversations started at the PATH-SAFE conference in February this year, by bringing project delivery teams together through Delivery Board and Community of Interest forums to continue discussing the work that will be undertaken within the programme this year. The programme team has also been busy progressing output dissemination plans, including the positive news that our PATH-SAFE commentary for the journal Future Microbiology, has been accepted and will be published in November.
To read more about the latest progress and key highlights, please visit our September newsletter which includes:
- news and key updates
- connections and outputs
- progress updates
In addition to our newsletter, you can find out more by visiting our website or contact the programme team directly at pathsafe@food.gov.uk.
|
|
Do you need to read our previous newsletter?
|
|
Subscribe to this newsletter and others
If this email was forwarded to you, you can subscribe below and get future newsletters delivered direct to your inbox.
|
|
Diweddariad rhanddeiliaid: gwyddoniaeth ac ymchwil
|
|
 |
Annwyl Danysgrifiwr,
Rydym ni yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn falch o rannu ein diweddariad gwyddoniaeth, sy’n sôn am y newyddion a’r dystiolaeth ddiweddaraf ym maes gwyddoniaeth, yn ogystal â chyfleoedd cyffrous i weithio gyda ni. Bydd y diweddariadau chwarterol hyn yn rhoi gwybodaeth i chi am ein cyfleoedd cyllido cyfredol, y cyhoeddiadau ymchwil diweddaraf a’n meysydd o ddiddordeb ymchwil. Byddant hefyd yn tynnu sylw at swyddi gwag yr ASB ym maes gwyddoniaeth a chyfleoedd i adolygwyr cymheiriaid.
Uchafbwyntiau
Y diweddariad blynyddol i’r Bwrdd ar dri maes craidd yr ASB o gyflenwi gwyddoniaeth: dadansoddi risg, ymchwil a thystiolaeth, a seilwaith gwyddoniaeth.
Mae’n adolygu cynnydd ac effaith ein gwaith ers y diweddariad diwethaf ym mis Rhagfyr 2023, a’r camau a gymerwyd yn dilyn adroddiad blynyddol y Prif Gynghorydd Gwyddonol ym mis Mehefin 2024. Yn ogystal, mae’n trafod anghenion gwyddoniaeth yr ASB yn y dyfodol, gan gynnwys blaenoriaethau tymor byr ar gyfer y flwyddyn i ddod a meysydd datblygu strategol ar gyfer cyfnod Adolygiad o Wariant y llywodraeth. Mae hefyd yn ceisio adborth ar Feysydd o Ddiddordeb Ymchwil (ARI) newydd.
Llwyfan newydd ar gyfer cynnwys gwyddoniaeth (beta cyhoeddus)
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wrthi’n symud i lwyfan newydd pwrpasol (beta cyhoeddus) ar gyfer cynnwys gwyddoniaeth a thystiolaeth yr ASB: science.food.gov.uk.
Rydym yn gobeithio y bydd y wefan newydd hon yn ei gwneud hi’n haws chwilio am gynnwys, y bydd yn sicrhau canlyniadau gwell ar beiriannau chwilio, gan gynnwys Google Scholar, ac y bydd yn haws i bobl ddyfynnu a lawrlwytho ein cynnwys.
Wrth i’r gwaith o ddatblygu’r wefan a mudo rhywfaint o’n hen gynnwys barhau, bydd yr holl gyhoeddiadau o hyn ymlaen yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan newydd. Dros amser, byddwn yn mudo cymaint o’n cynnwys â phosib, fel mai dim ond ar y wefan newydd y bydd y cynnwys yn ymddangos. Yn y cyfamser, bydd ein hadroddiadau blaenorol yn aros ar wefan ganolog yr ASB.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth, mae croeso i chi gysylltu â ni ar ARI@food.gov.uk neu drwy ein dulliau canolog o gysylltu â’r ASB.
Blogiau newydd
Er mwyn deall gwir faich clefydau coluddol heintus yn y DU, mae’r ASB yn cynnal y prosiect IID3 ar hyn o bryd. Dechreuodd y broses o recriwtio pobl o blith y boblogaeth gyffredinol i gymryd rhan yn y prosiect ym mis Mawrth 2024. Mae’r defnydd o dechnoleg sy’n wynebu cleifion a meddygfeydd wedi ei gwneud yn bosib i recriwtio ar raddfa fawr yn gyflym ar lefel y boblogaeth yn ystod chwe mis cyntaf y cyfnod gweithredu. Darllenwch ein blog newydd ar yr astudiaeth hon.
Newidiodd COVID-19 lawer o’n harferion a’n hymddygiadau bwyta. Roedd hefyd yn gyfle unigryw i ni astudio sut y dylanwadodd cyfyngiadau ar drosglwyddo clefydau perfeddol heintus. Mae’r blog hwn yn cyflwyno rhai canfyddiadau a goblygiadau allweddol a nodwyd mewn dau adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar sut y gwnaeth mesurau atal COVID-19 effeithio ar glefydau perfeddol heintus.
|
|
|
Cofrestru ar gyfer seminarau Cnoi Cil er mwyn cadw’n gyfredol
Mae ein seminarau misol yn annog cyd-ddysgu a rhwydweithio ar bynciau ar draws y diwydiant bwyd sy’n cyd-fynd â’n hegwyddorion ymchwil.
Gallwch weld recordiadau o seminarau blaenorol ar sianel YouTube ‘Cnoi Cil’.
|
|
|
Recordiadau o’n seminarau Cnoi Cil
Yn y sesiwn hon, edrychodd y tîm Cnoi Cil ar fewnwelediadau arolwg tracio defnyddwyr yr ASB, yr Arolwg Tracio Mewnwelediadau Defnyddwyr. Ydych chi erioed wedi ystyried pa faterion yn ymwneud â bwyd y mae defnyddwyr yn poeni fwyaf amdanynt? Neu sut mae defnyddwyr yn newid eu harferion siopa, coginio a bwyta yn y cyfnod economaidd heriol hwn? Ystyriodd y weminar y cwestiynau hyn a mwy, gan ddatgelu’r mewnwelediadau diweddaraf a’r newidiadau dros amser rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mawrth 2024, ynghyd â gwahaniaethau demograffig allweddol.
Mae’r tîm Cnoi Cil hefyd yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer siaradwyr posib yn y dyfodol. Cysylltwch â’r tîm trwy e-bost.
|
Cyfleoedd
Cyfle i ddod yn aelod o’n Cyngor Gwyddoniaeth neu ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol (SACs).
Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio aelodau newydd i ymuno â’n Cyngor Gwyddoniaeth, ein SACs a’n Cyd-grŵp Arbenigwyr (JEGs).
Mae ein pwyllgorau yn hanfodol i waith yr ASB ac maent yn ein helpu i fod yn sefydliad effeithiol sy’n cael ei arwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth. Mae ein pwyllgorau yn chwarae rhan enfawr wrth ein helpu i flaenoriaethu ein gwaith a sicrhau bod ein cyngor i ddefnyddwyr yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gywir.
Os oes gennych chi gefndir gwyddonol a diddordeb mewn bod yn rhan o bwyllgor sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Llun, 7 Hydref 2024. I gael gwybod mwy am ein Cyngor Gwyddoniaeth, ein SACs a’n JEGs, a’r rolau rydym yn recriwtio iddynt, ewch i’n gwefan.
|
Cyhoeddiadau diweddar
Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid ar brosiectau ymchwil i sicrhau bod ein gwaith yn seiliedig ar yr wyddoniaeth a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Mae ein cyhoeddiadau ar gael ar ein tudalennau Ymchwil a Thystiolaeth, a gallwch weld ein hymchwil ddiweddaraf isod, wedi’i chategoreiddio yn ôl maes o ddiddordeb ymchwil.
|
Ymddygiadau a chanfyddiadau:
Ddydd Iau, 26 Medi, byddwn yn cyhoeddi’r canfyddiadau diweddaraf o’n harolwg ystadegyn swyddogol, Bwyd a Chi 2. Mae’r adroddiad diweddaraf yn cynnwys cwestiynau ar fwyta allan a bwyd tecawê, gorsensitifrwydd i fwyd, diogelwch bwyd yn y cartref a newidiadau i arferion bwyta, dewisiadau amgen i gig a thechnolegau genetig. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.
Arolwg o glefydau perfeddol heintus yn ystod COVID-19: Dadansoddiad ychwanegol ar ymddygiadau sy’n gysylltiedig â salwch
Newidiodd COVID-19 ein harferion bwyta a’n hymddygiadau cysylltiedig, a rhoddodd gyfle unigryw i ni astudio sut y dylanwadodd cyfyngiadau ar drosglwyddo clefydau perfeddol heintus.
Astudiaeth o glefydau perfeddol heintus yn y DU: Effaith yr ymateb i COVID-19 a mesurau cysylltiedig ar glefydau perfeddol heintus yn y DU
Canfuwyd bod clefydau perfeddol heintus yn llai cyffredin pan roddwyd cyfyngiadau ar waith yn ystod y pandemig COVID-19, a hynny ar gyfer plant ac oedolion.
Gwerthusiad o ganllawiau peiriannau gwerthu mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon (GI)
Mae’r prosiect hwn yn gwerthuso gweithrediad a chydymffurfiaeth â chanllawiau maeth mewn peiriannau gwerthu mewn lleoliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon, ac yn ymchwilio i agweddau ac ymddygiad staff ac ymwelwyr o ran y canllawiau gwerthu, a pha mor dderbyniol ydynt ym marn ymwelwyr a staff.
|
Peryglon cemegol mewn bwyd a bwyd anifeiliaid:
Methodolegau Dull Newydd i gefnogi penderfyniadau rheoleiddiol ar gyfer diogelwch cemegol
Adolygiad o’r defnydd presennol o Fethodolegau Dull Newydd (NAMs) wrth wneud penderfyniadau rheoleiddio ar gyfer diogelwch cemegol, a’r potensial ar gyfer derbynioldeb y rhain a’u hintegreiddio, gan gynnwys cyfweliadau â rhanddeiliaid.
Proffil risg mêl
Mae’r proffil risg hwn yn ystyried y peryglon a all fod yn gysylltiedig â mêl sy’n cael ei fewnforio i Brydain Fawr, gan unrhyw bartner masnachu, a allai beri risg i iechyd y cyhoedd.
|
Cyhoeddiadau gan awduron yr ASB a fu’n destun adolygiadau gan gymheiriaid:
Shehata et al., 2024. Application of Spatial Offset Raman Spectroscopy (SORS) and Machine Learning for Sugar Syrup Adulteration Detection in UK Honey. Foods, 13(15) https://doi.org/10.3390/foods13152425.
Dodd et al., 2025. Detection of sugar syrup adulteration in UK honey using DNA barcoding. Food Control, 167. https://doi.org/10.1016/j.foodcont.2024.110772.
|
|
|
Y Rhaglen PATH-SAFE
Rhaglen fio-wyliadwriaeth 4 blynedd trawslywodraethol ledled y DU yw PATH-SAFE (sef Cadw Gwyliadwriaeth ar Bathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Amgylchedd). Nod y rhaglen yw datblygu rhwydwaith gwyliadwriaeth cenedlaethol peilot, gan ddefnyddio’r dechnoleg dilyniannu DNA ddiweddaraf a samplu amgylcheddol i wella’r gwaith o ganfod ac olrhain pathogenau dynol a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd ym mhob rhan o’r system bwyd-amaeth, o’r fferm i’r fforc.
Wrth i lawer o aelodau tîm cyflawni’r rhaglen a’r prosiect gymryd gwyliau haeddiannol dros yr haf, mae’r rhaglen wedi parhau i wneud cynnydd da iawn, gyda’r holl brosiectau parhad ar waith ac yn cael eu cyflawni’n dda. Rydym hefyd wedi parhau i adeiladu ar y sgyrsiau a ddechreuwyd yn y gynhadledd PATH-SAFE ym mis Chwefror eleni, drwy ddod â thimau cyflawni prosiectau ynghyd drwy’r Bwrdd Cyflawni a fforymau Cymunedau o Ddiddordeb i barhau i drafod y gwaith a wneir o fewn y rhaglen eleni. Mae tîm y rhaglen hefyd wedi bod yn brysur yn datblygu cynlluniau i rannu’r allbynnau, gan gynnwys y newyddion bod ein sylwebaeth ar PATH-SAFE wedi’i derbyn ar gyfer y cyfnodolyn Future Microbiology, ac y bydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Tachwedd.
I ddarllen mwy am y cynnydd diweddaraf a’r uchafbwyntiau allweddol, darllenwch gylchlythyr mis Medi sy’n cynnwys:
- newyddion a diweddariadau allweddol
- cysylltiadau ac allbynnau
- diweddariadau cynnydd
Yn ogystal â’n cylchlythyr, gallwch ddysgu mwy trwy fynd i’n gwefan neu drwy gysylltu’n uniongyrchol â thîm y rhaglen yn pathsafe@food.gov.uk.
|
|
Os nad ydych eisoes wedi ei weld
|
|
Tanysgrifiwch i'r cylchlythyr hwn a chylchlythyrau eraill
Os anfonwyd yr e-bost hwn ymlaen atoch, gallwch danysgrifio isod a chael cylchlythyrau yn y dyfodol yn syth i’ch mewnflwch.
|
|
|
|
|