Mynd i’r afael â heriau o ran y gweithlu milfeddygol
Yr wythnos hon, gwnes i gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (EFRA) ar oblygiadau prinder milfeddygon yn y DU. Mae hyn yn cynnwys milfeddygon swyddogol sy’n cynnal gwiriadau hanfodol mewn lladd-dai a gymeradwyir gan yr ASB. Mae ein milfeddygon swyddogol a’n harolygwyr hylendid cig yn cydweithio i ddiogelu’r cyhoedd a sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau lles anifeiliaid ar draws y diwydiant cig.
Rhwng 2019 a 2021, dangosodd ffigurau gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) fod nifer y milfeddygon sy’n ymuno â’r proffesiwn wedi gostwng 27%, tra bo’r pwysau ar y proffesiwn wedi cynyddu. Mae’r diffyg hwn wedi effeithio’n arbennig ar filfeddygon sy’n gweithio yn y sector cig, lle mae mwyafrif helaeth y swyddi milfeddygol yn cael eu gwneud gan gweithwyr proffesiynol o dramor ar hyn o bryd.
Mae gan yr ASB, a’n cydweithwyr yn Safonau Bwyd yr Alban (FSS), bryderon am y risg a berir gan brinder milfeddygon. Gwnaethom dynnu sylw at hyn yn ein hadroddiad blynyddol ar safonau bwyd, a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf. Mae’n hanfodol bod gennym gyflenwad cyson o filfeddygon i weithio yn y rolau iechyd cyhoeddus hollbwysig hyn.
Rydym wedi cymryd camau i fynd i’r afael â hyn, fel codi cyflogau ar gyfer milfeddygon y llynedd o fewn ein cyfyngiadau gwariant, ailgynllunio swyddi i ddarparu mwy o amrywiaeth, a recriwtio milfeddygon o dramor i weithio ar gynllun Arolygydd Hylendid Cig (Llwybr Milfeddyg). Mae canlyniadau cynnar y mesurau hyn yn addawol, ond dydyn nhw ddim yn ddigon ar eu pen eu hunain. Mae angen rhoi sylw i faterion strwythurol hefyd nad ydynt o fewn pwerau’r ASB. Mae angen newid deddfwriaethol, cefnogaeth ariannol, polisi mewnfudo cefnogol, a dull gweithredu cydgysylltiedig gyda phartneriaid ar draws y proffesiwn, yn y diwydiant a’r llywodraeth, i gynnig gyrfaoedd milfeddygol gwerth chweil.
Os hoffech wybod mwy am safbwyntiau’r ASB ar y materion hyn, darllenwch ein tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i bwyllgor dethol EFRA cyn y gwrandawiad. Gallwch hefyd wylio fideo ohonof yn cyflwyno tystiolaeth ar y cyd â thystion eraill, Dr Christine Middlemiss, Prif Swyddog Milfeddygol Gwasanaethau Milfeddygol y Llywodraeth; yr Athro Stuart Reid, Pennaeth Coleg Brenhinol y Milfeddygon; a Malcolm Morley, Uwch Is-lywydd Cymdeithas Filfeddygol Prydain.
Mae ein gweithlu o filfeddygon swyddogol medrus yn hanfodol i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, bod safonau iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu cynnal, a bod busnesau yn gallu parhau i allforio eu cynhyrchion. Os na all yr ASB gynnal ei gwasanaethau, bydd y canlyniadau’n effeithio ar ddefnyddwyr a busnesau.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y materion a godwyd yn y neges hon, gallwch gysylltu â ni drwy: external.affairs@food.gov.uk
|