|
Newid Hinsawdd Climate Change |
|
Plannu Coed.
Tyfu gwell yfory: Ein menter plannu coed Yn 2018 lansiodd Cyngor Sir y Fflint eu Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol cyntaf. Roedd y cynllun yn amlinellu gweledigaeth strategol ar gyfer plannu coed ar hyd a lled y Sir, gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd trefol. Mae’r cynllun hwn yn gosod nod ar gyfer cyflawni gorchudd coed trefol o 18% erbyn 2033. I gefnogi’r Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol, mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael grant gan Lywodraeth Cymru, trwy’r gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Yn 2018, gorchudd coed trefol Sir y Fflint oedd y seithfed lleiaf yng Nghymru, gyda’r coed yn gorchuddio 14.5% o’r tir. Mae coed yn arwydd o’r byd naturiol oherwydd y rôl allweddol maent yn ei chwarae wrth liniaru newid hinsawdd, creu cynefinoedd a chynyddu bioamrywiaeth. O safbwynt dynol, mae coed yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd meddyliol a chorfforol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.
|
I gyrraedd y targed gorchudd canopi o 18% erbyn 2033, mae Cyngor Sir y Fflint wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda chynghorau lleol, cymunedau ac ysgolion i nodi a chytuno ar nifer o safleoedd trefol i blannu coed. Drwy gydol y tymor plannu coed diwethaf (Rhagfyr 2022 - Mawrth 2023), mae’r timau Mynediad ac Amgylchedd Naturiol wedi ymgymryd â gwaith plannu coed sylweddol, plannu coed newydd, plannu 154 o goed safonol a 7099 o goed chwip ar draws y sir yn llwyddiannus. Yn ogystal â hynny, rydym yn gweithio’n galed i gynnal ein gorchudd canopi presennol drwy blannu coed yn lle’r rhai rydym wedi gorfod eu torri. Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu Coedwig Sir y Fflint.
Mae disgyblion ar hyd a lled y sir hefyd wedi rhoi help llaw i staff blannu dros 2500 o blanhigion coed bach yn ystod digwyddiadau plannu, gan greu dros 550 metr o wrychoedd newydd. Os oes gan eich tref neu gymuned ddiddordeb mewn plannu coed, yna cysylltwch â ni i drafod pethau ymhellach: biodiversity@flintshire.gov.uk. Bydd y safleoedd yn cael eu blaenoriaethu yn ôl y budd posibl i’r gymuned a byd natur.
A wyddoch chi?
Cynhyrchiwyd 636,395kWh o drydan drwy baneli solar ffotofoltäig ar ein hysgolion, swyddfeydd ac adeiladau cyhoeddus y llynedd. Mae hyn yn gyfystyr â phweru oddeutu 219 o gartrefi bob blwyddyn. Mae hyn hefyd yn gyfystyr â phweru 318 o geir trydan - yn ddibynnol ar amodau tywydd, pwysau ac effeithlonrwydd y ceir. Defnyddir yr ynni a gynhyrchir drwy’r paneli solar hyn yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr yr adeiladau.
|
Gwastraff Bwyd.
Pam ei bod yn bwysig ailgylchu ein gwastraff bwyd? Mae gwastraff bwyd a gaiff ei adael mewn safleoedd tirlenwi’n pydru ac yn creu methan - nwy tŷ gwydr cryf iawn. Mae nwyon tŷ gwydr yn cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd drwy gau gwres yn yr atmosffer ac achosi i’r blaned gynhesu. Mae’n bwysig ailgylchu ein gwastraff bwyd er mwyn lleihau’r nwyon tŷ gwydr a gaiff eu rhyddhau i’n hatmosffer. Gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio eich cadi gwastraff bwyd.
|
I ble mae’r gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu’n mynd?
Caiff gwastraff bwyd a gaiff ei ailgylchu yn Sir y Fflint ei gludo i beiriant treulio anaerobig yn Llanelwy. Caiff y gwastraff bwyd ei dreulio gan ficro-organebau sy’n cynhyrchu bio-nwy. Gellir ei ddefnyddio fel tanwydd mewn uned gwres a phŵer cyfunedig, a fydd yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae’r sylwedd sy’n weddill o’r broses hon yn fio-wrtaith llawn maeth a gaiff ei basteureiddio’n gyntaf i ladd unrhyw bathogenau. Caiff ei storio a’i ddefnyddio ddwywaith y flwyddyn ar dir amaethyddol. Mae hyn yn cynnig opsiwn amgen i wrtaith sy’n deillio o danwydd ffosil.
|
Ffyrdd i helpu i leihau gwastraff bwyd: - Cynllunio prydau bwyd. - Rheoli maint prydau. - Gwybod sut i storio cynnyrch bwyd gwahanol yn eich cartref. - Deall y gwahaniaeth rhwng labeli dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ ac ‘ar ei orau cyn’. - Gwneud y mwyaf o fwyd dros ben yn y rhewgell. - Gosod y tymheredd priodol ar gyfer yr oergell.
Y Mis Hwn! Ymchwiliad Cyhoeddus - I gyflawni carbon sero net.
Mewn cefnogaeth i’r datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, cynhyrchodd a chyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ei Strategaeth Newid Hinsawdd gyntaf ym mis Chwefror 2022. Gan gynnwys themâu megis defnydd tir, adeiladau, symudedd a chludiant, caffael a newid ymddygiad, mae’r Strategaeth yn nodi ystod o gamau gweithredu y bydd y Cyngor yn eu cymryd i gyflawni Carbon Net Sero erbyn 2030. Er mwyn craffu a monitro cynnydd y Cyngor yn erbyn y camau gweithredu hyn yn effeithiol, ffurfiwyd Pwyllgor Newid Hinsawdd ym Mai 2022. Fel rhan o’r gwaith hwn mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus ar ddau faes sy’n effeithio ar liniaru, ac addasu i, newid hinsawdd. Mae’r cyntaf mewn perthynas â llifogydd o fewn ffiniau Sir y Fflint, yn arbennig llifogydd dŵr wyneb, ac mae’n awyddus i glywed gan bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd ac os ydynt yn teimlo bod atal llifogydd yn cael ei drin yn briodol.
Mae’r ail yn ymwneud â Chronfa Bensiynau Clwyd, ac mae’r Pwyllgor yn gofyn am farn ar ei dargedau buddsoddi net sero a dad-fuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil. Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Alasdair Ibbotson: “Dyma’r Ymchwiliad Cyhoeddus cyntaf a gynhelir gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y Cyngor, ac rydym yn awyddus i glywed gan weithwyr proffesiynol, trigolion ac aelodau o’r cyhoedd sy’n barod i rannu eu profiadau, barn a meddyliau, ar un neu’r ddau destun sydd o dan sylw ar hyn o bryd. Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw 18 Awst 2023 ar gyfer Llifogydd a 4 Awst 2023 ar gyfer Cynllun Pensiwn Clwyd, a hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan.” Mae rhagor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan ar wefan y Cyngor: - Cronfa Bensiynau Clwyd - Llifogydd Gall preswylwyr sy’n methu cael mynediad at yr wybodaeth ar-lein y cyfeiriwyd ati uchod ymweld ag un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu rhwng 9am a 4.30pm ar y diwrnodau a restrir isod: - Bwcle – dydd Mawrth neu ddydd Iau. - Cei Connah, y Fflint neu Dreffynnon – dydd Llun i ddydd Gwener. - Yr Wyddgrug – dydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener.
Wythnos Natur Cymru - Sir y Fflint yn ei Blodau
Dewch i ddysgu am brosiect blodau gwyllt Sir y Fflint a darganfyddwch am y cyfoeth o fywyd y mae’r dolydd yma’n eu cefnogi! Ymunwch â’r tîm bioamrywiaeth, ynghyd â gwesteion eraill ar gyfer brwydr bach bioblitz rhwng ardaloedd lle caiff y gwair ei dorri, neu ei adael i dyfu er mwyn dathlu wythnos natur Cymru. Mae'n ddigwyddiad llawn hwyl i bobl o bob oedran. Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas.
Cynhelir y digwyddiad rhwng 10am a 12pm ym Mharc Gwepra a 1pm a 3pm yn Nyffryn Maes Glas ar y 24 o Orffennaf.
Bydd y digwyddiad yn dathlu wythnos natur Cymru rhwng 22 a 30 Gorffennaf, y thema eleni yw dathlu trysorau natur.
|
|
|
Tree planting.
Growing a better tomorrow: Our tree planting initiative.
In 2018, Flintshire County Council launched their first Urban Tree and Woodland Plan. This plan set out a strategic vision for the planting of trees across the County particularly focussing on urban areas. This plan sets out a goal of achieving an urban canopy cover of 18% by 2033.
To support the delivery of the urban tree and woodland plan, Flintshire County Council has successfully obtained grant funding from Welsh Government through the Local Places for Nature fund.
As at 2018, urban canopy cover in Flintshire was the seventh lowest in Wales, covering 14.5%. Trees are emblematic of the natural world because of the critical role they play in mitigating climate change, habitat creation and increasing biodiversity. From a human perspective, trees have a positive effect on our mental and physical health, particularly in urban areas.
|
To achieve the target of 18% canopy cover by 2033, Flintshire County Council have spent the past year working with local councils, communities and schools to identify and agree a number of urban sites for tree planting. Throughout the last tree planting season (December 2022 – March 2023), the Access and Natural Environment teams have carried out substantial new tree planting, having successfully planted 154 standard trees and 7099 whips across the county. Additionally, we are working hard to maintain our existing canopy cover by providing replacement planting where tree removal is necessary. Flintshire County Council are also committed to the development of a Flintshire Forest.
Pupils from schools across the county also gave staff a helping hand to plant over 2500 whips creating over 500m of new hedgerows during planting events.
If your town or community is interested in tree planting, then please contact us to discuss it further biodiversity@flintshire.gov.uk. Sites will be prioritised by potential level of benefit to the community and nature.
Did you know?
Last year we generated 636,395kWh of electricity from the solar PV mounted on our schools, offices and public buildings. This is the equivalent of powering approx.. 219 homes per year.
This is also the equivalent to powering 318 electric cars - depending on weather conditions, car weight and efficiency.
The energy generated from these solar panels is used directly by the building users.
|
Food Waste.
Why is it important to recycle our food waste?
When food waste is left on landfills it sits and rots and creates methane - a very strong greenhouse gas. Greenhouse gases contribute to climate change by trapping heat in the atmosphere and causing the planet to warm. It is important to recycle our food waste to reduce the amount of greenhouse gases we are putting into the atmosphere. You can do this by using your food waste caddy.
|
Where does this recycled food waste go?
When you recycle your food waste in Flintshire it is transported to an anaerobic digestor in St Asaph. Here the food waste is broken down by microorganisms that generates biogas. This can be used as a fuel in a CHP (Combined heat and power) unit, which will generate renewable energy.
What is left over from this process is a nutrient rich biofertiliser that is pasteurised first to kill any pathogens. It is then stored until it is applied twice a year on farmland. This is a better alternative to fossil fuel derived fertiliser.
|
Ways to help reduce food waste:
- Planning meals.
- Managing portion sizes.
- Knowing how to store different food products in your home.
- Understanding the difference between use-by and best-by date labels.
- Making the most of freezer leftovers.
- Setting your fridge to optimum temperature.
This Month!
Public Inquiry - Achieving Net Zero Carbon
In support of the declarations made by Welsh Government, Flintshire County Council produced and published its first Climate Change Strategy in February 2022.
Covering themes such as land use, buildings, mobility and transport, procurement and behaviour change the Strategy sets out a range of actions the Council will take to achieve Net Zero Carbon by 2030. To effectively scrutinise and monitor the Council’s progress against these actions, a Climate Change Committee was created in May 2022.
As part of its work the Climate Change Committee is holding a Public Inquiry on two areas affecting both mitigation of, and adaptation to, a changing climate.
The first is with regards to flooding within the county boundaries of Flintshire, especially surface water flooding, and it is interested to hear from people who have been affected by flooding and whether they feel flood prevention is being addressed appropriately.
The second relates to the Clwyd Pension Fund and the Committee is asking for thoughts on its net zero investment targets and divestment from fossil fuel companies.
The Chairman of the Climate Change Committee, Councillor Alasdair Ibbotson, said:
“This will be the first Public Inquiry held by the Council’s Climate Change Committee, and we are keen to hear from professionals, residents and members of the public who are willing to share their experiences, opinions and thoughts, on one or both of the two topics currently under discussion. The closing date for feedback is 18 August 2023 for Flooding and 4 August 2023 for the Clwyd Pension Scheme and I would encourage as many people as possible to come forward. ”
More information about how to get involved can be found on the Council’s website:
- Clwyd Pension Fund
- Flooding
Residents who are unable to access the online information referred to above can visit one of the Council’s Connect Centres between 9am and 4.30pm on the days listed below:
-
Buckley – Tuesday or Thursday.
-
Connah’s Quay, Flint or Holywell - Monday to Friday.
-
Mold – Monday, Wednesday or Friday.
Wales Nature Week – Flintshire in Flower.
Come and learn about Flintshire's wildflower project and discover the wealth of life these meadows support! Join the biodiversity team, along with other guests for a bioblitz battle between mown and unmown areas to celebrate Wales nature week. This event is fun for all ages! Make sure to wear suitable clothing and footwear.
The event will be held from 10am-12pm in Wepre Park and 1pm and 3pm in Greenfield Valley on the 24th July.
The event is to celebrate Wales nature week which runs from the 22-30th of July, This year’s theme is celebrating natures treasures.
|
|
|
|
|
|