|
Newid Hinsawdd Climate Change |
|
Sut mae Paneli Solar yn Gweithio? Mae paneli solar yn gweithio trwy drosi ynni o’r haul mewn i bŵer. Mae golau yn tywynnu drwy haenau o ddeunyddiau lled-ddargludyddion sy’n creu llif o drydan. Gall paneli solar gynhyrchu trydan hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog cyn belled â bod yna rhyw lefel o olau haul. Mae faint o ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn dibynnu ar faint o olau haul uniongyrchol mae’n yn ei gael, ansawdd, maint a lleoliad.
|
Pam ydym ni’n buddsoddi mewn safleoedd paneli solar? Mae yna angen i symud ein darpariaeth ynni i ffwrdd o’i greu trwy losgi tanwydd ffosil. Mae paneli solar yn adnodd o ynni adnewyddadwy, sy’n golygu eu bod yn ffynonellau naturiol na fydd yn dod i ben mor gyflym ac y cânt eu defnyddio. Trwy fuddsoddi mewn ffermydd solar, gallwn elwa’n uniongyrchol o’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu neu gyfrannu tuag at ddatgarboneiddio'r grid trydan. Gosododd Llywodraeth Cymru nod i Gymru gwrdd â 100% o’i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035 ac fe allwch chi ddarllen mwy am hyn yma Bwletin Newid Hinsawdd.
Lle mae ffermydd solar Cyngor Sir y Fflint? Mae gennym ni 4 safle fferm solar yn Sir y Fflint sydd yn gallu cynhyrchu tua 4MW o drydan. Mae gennym ni ddwy fferm ym Mwcle sydd wedi bod yn weithredol ers 2016, ac mae gennym ni ddwy fferm newydd yn Y Fflint a Chei Connah. Mae yna Gynlluniau Bioamrywiaeth ar gyfer safleoedd y Fflint a Chei Connah ar gyfer hau dolydd blodau gwyllt a bydd rhywogaethau llai o adar yn dal i allu defnyddio’r tir ar gyfer nythu ar y ddaear a chwilota.
Datblygiadau’r Dyfodol Rydym ni wrthi'n cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar safleoedd ar gyfer pŵer solar, gwynt a hydro yn y dyfodol, a byddwn yn defnyddio dulliau aml-dir pan fo hynny’n bosibl yn cynnwys amaeth-foltaig, tra’n cysylltu gyda’n hymrwymiadau bioamrywiaeth.
|
Wyddech chi?
Beth yw Diwrnod y Ddaear a pham ei fod yn bwysig? Mae Diwrnod y Ddaear yn ddathliad blynyddol sydd yn anrhydeddu cyflawniadau’r mudiad amaethyddol ac yn codi ymwybyddiaeth am yr angen i amddiffyn y ddaear a’i hadnoddau naturiol. Eleni, mae’n cael ei gynnal ar 22 Ebrill. Thema eleni yw buddsoddi yn ein planed, a thynnu sylw at bwysigrwydd rhoi ein hamser ac egni i frwydro newid hinsawdd.
|
Ffyrdd o fuddsoddi yn ein planed: - Sicrhau eich bod yn ailgylchu popeth y gallwch chi - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Bins-Recycling-and-Waste/What-can-and-cannot-be-recycled.aspx - Dewis ailddefnyddio - bagiau cario, poteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio, bocsys bwyd. - Uwchgylchu a thrwsio dillad ac eitemau’r cartref. - Dewis cerdded/beicio/defnyddio cludiant cyhoeddus yn hytrach na defnyddio car. - Gwirfoddoli i gasglu sbwriel yn lleol, trefnu grŵp o ffrindiau a cherdded o amgylch eich ardal leol - https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/hybiau-codi-sbwriel/ - Tynnu offer bach allan o’r plwg i leihau faint o ynni rydych chi’n ei ddefnyddio. - Llenwi blychau ffenestri gyda llysiau/blodau. - Creu eich bwydwr adar eich hun - https://www.rspb.org.uk/fun-and-learning/for-kids/games-and-activities/activities/produce-a-pine-cone-feeder/ - Ewch am dro i barc gwledig megis Parc Gwepra/Dyffryn Maes Glas. Os hoffech chi ddysgu am ragor o ffyrdd o fuddsoddi yn ein planed, ewch i’n tudalen newid hinsawdd neu Argymhellion Diwrnod y Ddaear.
Helpu i Gadw Sir y Fflint yn Daclus.
Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn rheoli dwy ganolfan casglu sbwriel yn Sir y Fflint sydd wedi’u lleoli ym Mharc Gwepra a Dyffryn Maes Glas. Mae’r canolfannau yma’n storio offer y gallwch chi eu defnyddio i gasglu sbwriel. Mae yna ffyn casglu sbwriel, siacedi llachar, bagiau sbwriel a chylchyn ar gyfer y bag. Fe allwch chi ymuno â digwyddiad sydd wedi’i drefnu neu ymweld â’r ganolfan i ymwelwyr a chasglu’r offer i gasglu sbwriel ac yna eu dychwelyd i’r ganolfan ar ôl i chi orffen. Mae yna 184 o ganolfannau wedi’u lleoli o amgylch Cymru. Beth am wahodd ffrind i fynd am dro o amgylch eich ardal leol a chasglu sbwriel?
Cynllun Cefnogwr Sbwriel Fe allwch chi ddod yn gefnogwr sbwriel drwy wirfoddoli i gasglu sbwriel a lleihau gwastraff. Fe allwch chi wneud hyn drwy ymweld â’ch canolfan casglu sbwriel lleol neu gysylltu â’ch swyddog prosiect lleol. Ardaloedd Di-sbwriel Gall busnesau o bob math a maint fabwysiadu ardaloedd penodol i’w glanhau yn rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys ysgolion sydd yn ffordd dda o annog perthynas gadarnhaol rhwng ein pobl ifanc a sbwriel. Gwanwyn Glân Prydain - https://www.keepbritaintidy.org/get-involved/support-our-campaigns/great-british-spring-clean Beth am ddefnyddio’r canolfannau casglu sbwriel yn yr ardal i gymryd rhan yng Ngwanwyn Glân Prydain sy’n cael ei gynnal rhwng 17 Mawrth a 2 Ebrill.
I ble mae’r gwastraff yn eich bin brown yn mynd? Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r gwastraff yn eich bin brown o ymyl palmant lle caiff ei gymryd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Maes Glas. Caiff 12,000 tunnell o wastraff gwyrdd o aelwydydd, canolfannau ailgylchu, ymylon ffordd, parciau a gerddi eu prosesu mewn i gompost ar y safle. Mae’r fideo byr yma’n egluro’r broses. Mae’r cynnyrch olaf ar gael am ddim i breswylwyr ei gasglu o Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref trwy gydol y flwyddyn. Manteision defnyddio cyflyrwr pridd / compost. Mae cyflyrwr pridd / compost yn gwella lleithder y pridd ac helpu i gadw maeth, tra hefyd yn storio’r maeth yn fwy hawdd. Mae’r cyflyrwr pridd hefyd yn cynorthwyo â draenio drwy adfer strwythur i’r pridd. Yn sgil hyn, caiff planhigion mwy iach eu tyfu, gan alluogi iddynt ymladd afiechydon a phla yn well, tra’n tyfu’n fwy ac yn gryfach. Y fantais olaf yw gallu troi’r hyn arferai fod yn wastraff, mewn i gynnyrch sydd yn wych ar gyfer yr amgylchedd.
|
Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2023 Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff bin brown yn rhedeg rhwng 1 Mawrth 2023 a 16 Rhagfyr 2023. I ddysgu mwy am y tanysgrifiad ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd eleni, ewch i’n adran newyddion diweddaraf.
|
|
How do solar panels work?
Solar panels work by converting energy from the sun into power. Light shines through the layers of semi conducting material which creates a flow of electricity. Solar panels can generate electricity even on cloudy days as long as there is some level of sunlight. The amount of energy produced is dependent on how direct the sunlight is, quality, size and location.
|
Why are we investing in solar panel sites?
There is a need to move our energy provision away from generation through burning fossil fuels. Solar panels are a renewable source of energy, which means they are natural sources which cannot be depleted as quickly as being consumed. By investing in solar farms we can directly benefit from the energy generated or contribute towards decarbonising the electricity grid. Welsh Government set an aim for Wales to meet 100% electricity needs from renewable sources by 2035 and you can read more about this here Climate Change Bulletin.
Where are Flintshire County Council’s solar farms?
We currently have 4 solar farm sites located in Flintshire capable of generating around 4MW of electricity. We have two in Buckley which have been in use since 2016, and two new solar farms in Flint and Connah’s Quay. Both Flint and Connah’s Quay sites have biodiversity plans for wildflower meadow seeding and smaller species of birds will still be able to utilise the land for ground nesting and foraging.
Future Developments.
We are carrying out feasibility on future sites for solar, wind and hydro power, and will utilise multi-land methods where possible including agrivoltaics, while linking in with our biodiversity commitments.
|
Did you know?
Earth day is an annual celebration that honours the achievements of the environmental movement and raises awareness of the need to protect the earth and its natural resources. It takes place this year on the 22nd April.
This year’s theme is to invest in our planet, which is highlighting the importance of putting our time and energy into fighting climate change.
|
Ways to invest in our planet:
If you want any more ways to invest in our planet go to our climate change page or Earth Day Tips.
Help Keep Flintshire Tidy.
Keep Wales Tidy manage two litter picking hubs within Flintshire located in Wepre Park and Greenfield Valley. These hubs store equipment you can use for your litter picking. There are litter pickers, Hi-Vis vests, rubbish bags and hoops. You can join a planned event or visit the visitor centre to pick up the equipment for your litter pick and then return it to the centre afterwards.
There are 184 hubs located across Wales. Why not invite a friend and walk around your local area to collect some litter?
Litter Champion scheme
You can become a litter champion by actively volunteering to pick up litter and reduce waste. You can do this by visiting your local litter picking hub or contact your own local project officer.
Litter free zones
Businesses of all shapes and sizes can adopt specific zones to clean up on a regular basis. This includes schools which is a great way to encourage a positive relationship between our young people and litter.
Great British Spring Clean - https://www.keepbritaintidy.org/get-involved/support-our-campaigns/great-british-spring-clean
Why not use the local litter picking hubs in the area to get involved in the Great British Spring Clean which is running from the 17th March up until the 2nd April.
Where does your brown bin waste go?
Flintshire County Council collect your brown bin waste from kerbside where it is taken to the Household Recycling Centre in Greenfield. 12,000 tons of green waste from household, recycling centres, roadsides, parks and gardens is processed into compost on the site. This short video explains the process.The final product is available free for residents for collection from Household Recycling Centres throughout the year.
Benefits of using soil conditioner / compost.
Soil conditioner / compost improves soil moisture and nutrient retention, while also storing the nutrients more easily. The soil conditioner also aids in drainage by restoring structure to the soil. Due to this, healthier plants are grown, allowing them to combat disease and pests better, while growing bigger and stronger. The final benefit is being able to turn what was once waste, into a product, which is great for the environment.
|
Garden waste collection service 2023.
The brown bin waste collection service runs from 1st March 2023 until 16th December 2023. To find out more about the subscription for this year’s garden waste collection service visit our latest news section.
|
|
|
|
|