|
Newid Hinsawdd Climate Change |
|
Cyflwyno Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan
Beth yw ceir Trydan/Hybrid? Mae gan geir trydan fatris y tu mewn iddyn nhw sy’n storio llawer iawn o ynni, sy’n eich galluogi i wefru’r car a’i ddefnyddio am gyfnod hir cyn bod angen ei wefru eto. Nid yw’r ceir hyn yn cynhyrchu allyriadau carbon deuocsid wrth eu gyrru, sy’n golygu llawer llai o lygredd yn yr aer. Mae gan geir hybrid injan sy’n cael ei phweru gan betrol, gyda motor trydan ychwanegol. Mae hyn yn eich galluogi i wneud teithiau rheolaidd yn defnyddio trydan, ond gydag injan betrol wrth gefn ar gyfer teithiau hirach.
Pam ein bod ni’n gosod mannau gwefru Cerbydau Trydan? Fel rhan o’n huchelgais i fod yn ddi-garbon net erbyn 2030, rydym wedi ymrwymo i’w gwneud yn haws datgarboneiddio cludiant ar draws y sir. Mae helpu pobl i drosglwyddo i gerbydau carbon isel, fel rhai trydan, yn rhan allweddol o hyn. Mae yna darged i roi’r gorau i werthu ceir diesel a phetrol erbyn 2030, felly rydym yn buddsoddi mewn gwelliannau i seilwaith gwefru cerbydau trydan y sir er mwyn cynnig man gwefru dibynadwy i drigolion wefru eu car os nad oes ganddyn nhw gyfleuster gwefru gartref. SWARCO fydd gweithredwr y mannau gwefru a nhw fydd yn delio â phob agwedd ar wefru cyhoeddus a chynnal a chadw’r mannau gwefru.
|
Sawl man gwefru Cerbydau Trydan sydd yna, a lle maen nhw?
Mae cyfanswm o 15 man gwefru wedi cael eu gosod ledled Sir y Fflint fel rhan o Gam Un y gwaith. Yn dibynnu ar lwyddiant cam un, gellir rhoi ail gam ar waith, gan ehangu’r rhwydwaith gwefru. - 5 yn Y Fflint – 2 yn Allt Goch, 1 yn Richard Heights a 2 yn Castle Street. - 2 yn Queensferry – Pierce Street. - 4 yn Yr Wyddgrug – 2 yn Stryd Newydd a 2 yn Griffiths Square. - 2 ym Mwcle – Precinct Way. - 2 yn Nhreffynnon – 2 ym maes parcio Plas yn Dre.
|
Wyddech chi?
Mae cael gwared â batris drwy eu rhoi yn y bin gwastraff cyffredinol yn beryglus ac yn gwneud difrod i’r amgylchedd. Y ffordd orau o gael gwared â batris yw eu rhoi mewn bag clir a’u rhoi allan gyda’ch gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu. Neu fe allwch chi fynd â nhw i’ch siop leol sy’n eu cymryd am ddim. Mae ein gwefan yn rhoi gwybod i chi am yr hyn y gallwch ac na allwch chi ei ailgylchu, os nad ydych chi’n siŵr beth y mae posib ei ailgylchu.
|
I ble mae’ch gwastraff cyffredinol yn mynd?(https://enfinium.co.uk/facilities/parc-adfer/)
Mae’n gamsyniad cyffredin bod y gwastraff sy’n cael ei gasglu o ymyl y palmant yn cael ei anfon naill ai i safleoedd tirlenwi neu dramor. Mae Parc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy yn gyfleuster creu ynni o wastraff, ac yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Caiff gwastraff cyffredinol ymyl palmant y 5 awdurdod lleol hyn ei gasglu, ei losgi a’i ddefnyddio i greu ynni a deunyddiau ailgylchadwy.
|
Mae’r safle’n prosesu tua 2,000 o dunelli o wastraff yr wythnos o’r 5 sir, gyda chyfran ohono’n wastraff masnachol. Mae’r ynni a gynhyrchir o’r gwastraff yn pweru Parc Adfer ac mae’r gweddill yn mynd yn syth i’r grid i gyflenwi trydan i hyd at 45,000 o gartrefi. Defnyddir y gwres o’r broses losgi i droi dŵr yn stêm, sy’n pweru 4 tyrbin gwynt, gan gynhyrchu trydan ychwanegol ar gyfer y grid cenedlaethol. Caiff y gwastraff o’r broses ymlosgi ei ailddefnyddio hefyd, gyda’r lludw’n cael ei ddefnyddio fel graean i adeiladu, a’r metelau’n cael eu hadfer a’u hailgylchu. Gall y broses losgi fod yn niweidiol i’r amgylchedd, ond mae’r nwyon a ollyngir yn cael eu hidlo a’u glanhau cyn cael eu rhyddhau i’r atmosffer.
|
Yn yr wythnosau i ddod!
Mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yn cael ei gynnal rhwng 27 a 29 Ionawr. Gwyliwch a chofnodwch y gwahanol rywogaethau adar o’ch amgylch am awr, naill ai yn eich gardd, ar eich balconi neu yn eich parc lleol. Yna gallwch fynd i wefan RSPB i roi gwybod beth welsoch chi. Defnyddir y wybodaeth hon i helpu monitro rhywogaethau adar ledled y DU, ac i ganfod unrhyw rywogaethau sy’n dirywio. Mae pecynnau gwybodaeth ar gael o wefan RSPB. Bydd Sir y Fflint yn cynnal sesiwn creu teclynnau bwydo adar am ddim ddydd Sadwrn 21 Ionawr rhwng 10:00am a 12.30pm yng Nghanolfan Ymwelwyr Parc Gwepra. Ymunwch â’r tîm i ddysgu mwy am y digwyddiad Gwylio Adar yn yr Ardd, am yr adar a welwn ni yn y gaeaf ac am eu hanghenion. Gallwch gadw eich lle drwy Eventbrite neu alw heibio canolfan ymwelwyr Parc Gwepra. Beth am alw draw a chymryd rhan?
Wythnos Hinsawdd Cymru
Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru ym mis Tachwedd, roedd y tîm newid hinsawdd allan yn y gymuned leol yn cynnal nifer o sesiynau galw heibio i helpu’r trigolion gyfrifo eu hôl troed carbon, ac i ddysgu sut y gallen nhw ddechrau lleihau eu heffaith o ran carbon. Ochr yn ochr â hyn, roedd y tîm ynni’n cynnig cyngor am ynni i’r trigolion. Bu i ni hefyd lansio ein tudalennau Newid Hinsawdd ar y we, lle gallwch chi ddysgu pa gamau gweithredu ar hinsawdd y mae’r Cyngor wedi ymrwymo iddyn nhw a sut y gallwch chi gymryd rhan. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
|
|
Introduction of Electric Vehicle (EV) Charging Infrastructure.
What are Electric/Hybrid cars?
Electric cars have batteries inside them which store a large amount of energy, allowing the car to be charged and used for a prolonged period of time before needing the next charge. These cars do not produce carbon dioxide emissions while driving, which means air pollution is reduced significantly. Hybrid cars have a petrol powered engine with an added electric motor. This allows you to do regular journeys using electric with a petrol fuelled back up for longer journeys.
Why are we implementing EV charging points?
As part of our ‘net zero carbon by 2030’ ambition, we have committed to facilitate the decarbonisation of transport across the county. A key part of this is supporting the transition of vehicles to low carbon alternatives such as electric. There is a target for the discontinue of sales of diesel and petrol cars by 2030, and therefore we are investing in improvements to the county’s electric charging infrastructure so that residents have reliable access to charge their car if they don’t have a charging facility at home. SWARCO will be acting as the charge point operator and will handle all aspects of the public charging and maintenance of the charge points.
|
How many EV charging points are there and where are they?
In total 15 charging points have been installed across Flintshire in Phase one. Depending on the success of phase one a second phase could be implemented with an expansion of the charging networks.
- 5 in Flint – 2 Allt Goch, 1 Richard Heights and 2 Castle Street. - 2 in Queensferry – 2 Pierce Street. - 4 in Mold – 2 New Street and 2 Griffiths Square. - 2 in Buckley- 2 Precinct Way. - 2 in Holywell- 2 Plas Yn Dre.
|
Did you know?
It is dangerous and harmful to the environment when batteries are disposed of in general waste bins. The best way to dispose of batteries is to put them in a clear bag and put them out with your recycling waste on your collection day. Or you can take them to your local shop where they will also take them for free. Our website informs you on what you can and cannot recycle, if you are unsure of what can be recycled.
|
Where does your general waste go? (https://enfinium.co.uk/facilities/parc-adfer/)
It is a common myth that waste collected from the kerbside is either sent to landfill or shipped abroad. Parc Adfer, in Deeside, is an energy from waste facility and is in a partnership with Flintshire County Council, Conwy County Borough Council, Denbighshire County Council, Gwynedd Council and the Isle of Anglesey County Council. The kerbside general waste from these 5 local authorities is collected, burnt and used to create energy and recyclable materials.
|
The plant processes around 2,000 tons of waste per week from the 5 counties with a proportion of commercial waste. The energy produced from the waste powers Parc Adfer and the rest goes straight into the grid to supply up to 45,000 homes. The heat from the burning process is used to turn water into steam which powers 4 wind turbines producing additional electricity for the national grid. The waste products from the combustion process are repurposed with ash being used as construction aggregate and metals recovered and recycled. The burning process can be harmful to the environment, however the gases released are filtered and cleaned before being released into the atmosphere.
|
In the coming weeks!
It is The Big Garden Birdwatch from the 27th to the 29th January. Watch and record the different bird species around you for one hour either from your garden, balcony or local park. You can then go onto the RSPB website to tell them what you saw. This information is used to help monitor bird species across the UK and identify any declines in species. Information packs are available on RSPB website. Flintshire will be holding a free session on creating birdfeeders which will take place on Saturday 21st January, 10:00 – 12:30pm at Wepre Park Visitors Centre. Join the team and learn more about The Big Garden Birdwatch, the birds we see in the winter and their needs. You can Book via Eventbrite or pop into Wepre Park visitors centre. Why not come along and get stuck in.
Wales Climate Week
During Wales Climate Week in November, the climate change team were in the local community delivering a number of drop in sessions to help residents to calculate their carbon footprint and learn about areas where they can start to reduce their carbon impact. Alongside this the energy team delivered energy advice for residents. We also launched our Climate Change webpages where you can learn what climate action the Council has committed to and how you can get involved. Click here for more info.
|
|
|
|
|