|
Casgliad Gwyliau Chwilfrydig yr Hydref nawr yn fyw!
Mae'r ymgyrch farchnata ddiweddaraf i gynyddu ymwybyddiaeth wedi mynd yn fyw gyda gwyliau byr yn gysylltiedig â diddordebau sef
Casgliad Gwyliau Chwilfrydig yr Hydref Sir Gâr - Darganfod Sir Gâr a gwybodaeth a anfonwyd at y cyfryngau yn y DU. Gallwch barhau i gynnwys eich busnes os ydych chi'n cynnig profiad, gweithgaredd, digwyddiad, gweithdy, neu wyliau byr a fyddai'n apelio at ymwelwyr chwilfrydig sy'n dymuno dysgu, archwilio a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Os oes gennych syniad, byddem ni'n falch iawn o glywed gennych.
|
|
Archebwch eich sesiwn 1-1 gyda'r tîm Datblygu Twristiaeth
 Ar ôl 18 o sesiynau llwyddiannus yn ddiweddar gyda gweithredwyr lleol, mae Sarah ac Elinos ar gael eto - p'un a ydych chi'n edrych i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd marchnata, archwilio cyllid, neu gael y wybodaeth ddiweddaraf am fentrau twristiaeth.
|
Dechrau gwych i'r Ŵyl Gerdded
Mae teithiau tywys gan Ganolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru, Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, a Nordic Cymru yn boblogaidd iawn. Mae dal amser i gymryd rhan, gan gynnwys taith gerdded parcdir Gelli Aur felly cysylltwch â ni nawr.
|
|
Cadwch y dyddiad: Seremoni Wobrwyo Llysgenhadon Twristiaeth 2026
Bydd y seremoni fawreddog eleni yn cael ei chynnal ym mhrif siambr y cyngor yn Neuadd y Sir ar 9 Tachwedd. Os nad ydych chi'n llysgennad eto, nawr yw'r amser perffaith i ymuno â'r rhaglen, gwella eich gwybodaeth leol a dod yn rhan o rwydwaith sy'n ymroddedig i hyrwyddo Sir Gâr.
|
Cartref newydd y Ganolfan Adar Ysglyfaethus yn agor yn swyddogol
Roedd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Linda Evans, a'r Aelod Cabinet dros Dwristiaeth, y Cynghorydd Hazel Evans, yn falch iawn o ymuno ag Emma ac Alex yn agoriad swyddogol eu cyfleusterau newydd gwych yn Idole. Mae eisoes yn ychwanegiad arbennig at arlwy ymwelwyr Sir Gâr, dymunwn bob llwyddiant iddyn nhw a'r adar arbennig yn eu cartref newydd.
|
I ddod cyn bo hir: Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 'Ni'n gwybod am le'
Yn barod i'w lansio fis nesaf mae'r gystadleuaeth newydd "Ni'n gwybod am le………… Dangoswch eich un chi" sy'n annog pobl i rannu ac ymhelaethu ar eu hoff ddelweddau o dreftadaeth, tirwedd, bywyd gwyllt a digwyddiadau'r sir. Yn ogystal â chreu albwm newydd o luniau ar gyfer marchnata yn y dyfodol, bydd arddangosfa gyhoeddus swyddogol o'r enillwyr yn un o'n hadeiladau.
|
|
|
Cyfryngau cenedlaethol yn hybu proffil
Rydyn ni'n delio bob dydd gyda'r cyfryngau cenedlaethol i ennyn sylw ac roeddem yn falch iawn o drefnu ymweliad pum diwrnod gan yr awdur teithio o bapur newydd poblogaidd y DU, The Sun. Roedd yr erthygl dudalen lawn yn cyfateb i ofod hysbysebu gwerth £40,000, ac yn arddangos y Sir fel cyrchfan deuluol y mae'n rhaid ymweld â hi. Diolch yn fawr i'r busnesau am weithio gyda ni i helpu i drefnu hyn.
|
Rhaglen 'Coast & Country' yn ymweld ag Amgueddfa Sir Gâr
Pleser oedd croesawu rhaglen Coast & Country ITV i Abergwili fis diwethaf ac roedd yn wych i weld Graeme Hall sydd bellach yn ymddangos ar raglen Strictly Come Dancing - mae'n rhaid ei fod wedi dysgu ychydig o ddawnsio gan staff y Cyngor ar ôl ei ymweliad ffilmio y llynedd
Cadwch lygad am fanylion darlledu cyn hir
|
|
|
Lleoedd ar gael am ddim ym marchnadoedd Nadolig y gaeaf
Gwahoddir busnesau a darpar fasnachwyr i fynychu seminar Marchnadoedd Sir Gâr: Eich Canllaw i Fasnachu ym mis Hydref. Wedi'i gyflwyno gan Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Marchnad, bydd y sesiynau ymarferol yn darparu cyngor arbenigol ar ddod yn fasnachwr marchnad llwyddiannus, gan gynnwys popeth o gynllunio busnes a gofynion cyfreithiol i offer a thechnoleg.
Nifer penodol o leoedd sydd ar gael, a'r cyntaf i'r felin piau hi.
|
Hyfforddiant a gweithdai i gefnogi'ch busnes
|
Mae sawl gweithdy, gan gynnwys y rhai ar Ddeallusrwydd Artiffisial, bellach ar gael trwy ein tîm busnes i helpu busnesau i ddatblygu sgiliau newydd a chadw'n gystadleuol. Hefyd, gallwch gael mynediad at hyfforddiant am ddim a/neu hyfforddiant cymorthdaledig drwy gyfrwng Busnes Cymru, sy'n cynnwys pynciau fel marchnata digidol a thwf busnes.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma
|
|
 |
|
|
|
|