|
Yn ddiweddar, rydyn ni wedi dathlu pum mlynedd o Maethu Cymru – ac, yn bwysicaf oll, beth mae hynny wedi'i olygu i blant a phobl ifanc.
Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi helpu mwy o blant i gadw mewn cysylltiad â'r bobl, y lleoedd a'r cymunedau sydd bwysicaf iddyn nhw.
Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi gwneud y canlynol:
🏡Helpu rhagor o blant i aros yn lleol
👫Helpu brodyr a chwiorydd i gadw mewn cysylltiad â'i gilydd
🌟Rhoi mwy o groeso i blant sy'n dechrau ar eu taith gofal
Ni fyddai dim o hyn yn bosibl heb ein gofalwyr maeth ymroddedig a'r gymuned ehangach sy'n cefnogi maethu yn Sir Gâr. Diolch am fod yn rhan o'r daith.
"Mae'n gallu bod yn frawychus iawn mynd i ofal maeth"
Ni ddylai'r un plentyn orfod cyrraedd drws rhywun dieithr heb wybod pwy fyddai'n ateb.
Tyfodd Sophia lan mewn gofal maeth ac mae'n cofio'r ansicrwydd roedd hi'n ei deimlo fel plentyn wrth fynd i mewn i gartref newydd.
Heddiw, mae hi'n rhannu ei phrofiad i helpu eraill i ddeall y gwahaniaeth y gall gofalwyr maeth ei wneud a sut y gall un person gofalgar newid cyfeiriad bywyd plentyn. Efallai y bydd ei stori hyd yn oed yn eich ysbrydoli chi i gymryd y cam cyntaf ar eich taith faethu eich hun.
Mae ei phrofiad yn ffordd bwerus o'n hatgoffa y gall gweithredoedd bach o garedigrwydd, sefydlogrwydd a sicrwydd gael effaith barhaol💜
|
Mae Sophia yn cofio'r ofn a'r ansicrwydd wrth gyrraedd cartref anghyfarwydd heb wybod pwy fyddai'n agor y drws.
Dyna pam cyflwynodd Maethu Cymru Croeso Mawr - gan helpu plant i ddysgu mwy am y teulu maeth cyn iddyn nhw gyrraedd. Drwy luniau a gwybodaeth bersonol am y cartref, aelodau'r teulu ac anifeiliaid anwes, gall plant ddechrau teimlo'n gyfarwydd â'r sefyllfa ar adeg sy'n gallu bod yn anodd iawn.
"Byddai rhywbeth fel y porth Croeso Mawr wedi bod yn bwysig iawn i fi pan oeddwn i'n tyfu lan. I weld wyneb cyn i chi gyrraedd, i glywed llais, i wybod un neu ddau beth cyffredin am y bobl a'r cartref. Dyw hynny ddim yn cael gwared â'r ofn yn llwyr, ond mae'n rhoi darlun cliriach i chi ac yn bendant yn helpu.”
Mae'n syniad syml, ond un sy'n helpu i roi dechrau cynhesach, mwy croesawgar i blant sy'n dechrau ar eu taith gofal. Oherwydd pan fydd plentyn yn teimlo'n barod a'i fod yn cael ei gefnogi a'i ddisgwyl, gall hynny wneud gwahaniaeth mawr.
|
Allech chi fod yn rhan o stori plentyn?
Y tu ôl i bob stori faethu gadarnhaol mae rhywun sydd wedi dewis gwneud gwahaniaeth.
Nid yw maethu bob amser yn hawdd, ond mae’n bosibl mai hwn fydd yn rhoi'r boddhad mwyaf erioed i chi. Mae angen rhywun arbennig i faethu. Rhywun amyneddgar, gofalgar a gwydn.
Os yw stori Sophia wedi gwneud i chi feddwl am y gwahaniaeth y gallech chi ei wneud, bydden ni wrth ein boddau'n clywed gennych chi.
|