|
“Ni'n gwybod am le...” Ysbrydoliaeth ar gyfer yr haf i deuluoedd
Bydd swyddogion twristiaeth yn cynorthwyo atyniadau a gweithredwyr lletygarwch lleol i wneud y mwyaf o gyfnod allweddol y gwyliau haf trwy gyfres newydd o weithgareddau digidol "Ni'n gwybod am le...". Mae'r rhain wedi'u cynllunio i ysbrydoli teuluoedd i archwilio'r sir trwy arddangos trysorau cudd, atyniadau sy'n addas ym mhob tywydd, gweithgareddau fforddiadwy a diwrnodau mas munud olaf.
Mae darparu ysbrydoliaeth a gwybodaeth sydd ar gael yn hawdd yn allweddol i ymwelwyr a thrigolion a gallwch gymryd rhan trwy rannu cynnwys #NinGwybodAmLe ar draws eich sianeli cyfryngau cymdeithasol ac annog gwesteion i ddilyn yr ymgyrch i gael syniadau ac ysbrydoliaeth.
Gallwch gael lluniau a fideos am ddim i wella eich marchnata.
|
|
Cadwch y dyddiad – gŵyl gerdded newydd Llwybr Dyffryn Tywi
Bydd y gyfres hon o deithiau tywys, rhwng 17 a 27 Medi 2026, yn codi proffil ein llwybr di-draffig pellter hir newydd ac yn rheswm i ymwelwyr dros nos aros ar ôl gwyliau'r ysgol.
Mae swyddogion wedi trefnu teithiau cerdded dros dri phenwythnos, gan gynnwys Gwehyddu a Cherdded, Cestyll a Gerddi, Cerdded Nordig a thaith Hanes Dwy Afon. Bydd manylion archebu yn dod yn fuan.
|
Yr Amgueddfa Wlân yw'r atyniad lleol cyntaf ar gynllun newydd
 Llongyfarchiadau i'r tîm yn Amgueddfa Wlân Cymru am fod yr atyniad sirol cyntaf i gwblhau'r Cynllun Llysgenhadon Busnesau Twristiaeth newydd sbon yn llwyddiannus, gan wella gwybodaeth y staff. Mae'r atyniad, sydd ar agor drwy'r flwyddyn, yn dathlu treftadaeth wlân gyfoethog Cymru gan ddarparu profiad anhygoel i ymwelwyr, ac mae'r amgueddfa'n dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed yn 2026 drwy gynnal digwyddiadau arbennig ac ailagor y Sied Wehyddu.
Peidiwch â cholli'r cynllun rhad ac am ddim hwn i gynyddu gwariant ymwelwyr a'u hamser aros yn lleol ac ewch ati i gymryd rhan
|
|
Enillwyr gwobrau'n cefnogi'r sector twristiaeth lleol gwerth £764m
Roedd adroddiad effaith economaidd 2025 yn nodi bod ein sector twristiaeth bellach yn cyfrannu dros £¾ biliwn i'r economi leol, ac mae'r canfyddiad cadarnhaol o fod yn gyrchfan o safon wedi'i gryfhau gan nifer o fusnesau'n ennill gwobrau rhanbarthol a chenedlaethol.
Llongyfarchiadau i Fferm Llwynifan a Craig Evans Coastal Foraging (Gwobr Travellers’ Choice Tripadvisor), Gwesty Fferm Llanerchindda (Gwobr Gwely a Brecwast Cymru 2026 yr AA), Y Castell (Gwobr Dau Roséd am Ragoriaeth Coginio, Tafarn Pedair Seren Aur yr AA), a Pharciau Gwledig Pen-bre a Llyn Llech Owain y Cyngor (Gwobr Ryngwladol y Faner Werdd).
Roedd enillwyr Gwobrau Busnes Sir Gaerfyrddin yn cynnwys Emma Hill (Entrepreneur y Flwyddyn), HolidayNests (Busnes Gwyrdd 2026), Deli Albert Rees (Busnes Manwerthu 2026), a LiveFree Adventures (Busnes Twristiaeth a Lletygarwch 2026).
|
Cyfle cyllido newydd ar gyfer hygyrchedd
Gyda thua un o bob pedair taith dros nos i Gymru yn cynnwys rhywun sydd â gofyniad mynediad, mae grant cyfalaf newydd Llywodraeth Cymru, Croeso i Bawb, yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau twristiaeth a lletygarwch i wella hygyrchedd a chreu profiadau mwy cynhwysol i ymwelwyr.
|
Dylanwadwr poblogaidd yn arddangos llwybrau beicio di-draffig
Yn ddiweddar, croesawodd swyddogion Tiger Lilly Quinn, sy'n creu cynnwys am deithio ac sydd â mwy na 100,000 o ddilynwyr, i Sir Gâr i dynnu sylw at lwybrau beicio di-draffig y sir.
Wrth grwydro Sir Gâr ar ei beic, dangosodd Tiger Lilly Quinn sut y gall ymwelwyr ddarganfod tirweddau, atyniadau a busnesau Sir Gâr mewn ffordd fwy cynaliadwy ac sy'n fwy ymwybodol o'r amgylchedd. Mae ei chynnwys yn helpu i gyflwyno'r sir i gynulleidfaoedd newydd, yn ysbrydoli pobl i grwydro'r sir ar feic ac yn tynnu sylw at Sir Gâr fel cyrchfan ar gyfer anturiaethau awyr agored cynaliadwy.
Mae'r ymweliad eisoes wedi creu cynnwys gwych ar Instagram, a bydd blog pwrpasol hefyd yn cael ei gyhoeddi'n fuan, gan roi rhagor o sylw i'r sir a busnesau lleol.
Diolch yn fawr iawn i'r holl fusnesau a phartneriaid a oedd wedi helpu i sicrhau bod yr ymweliad hwn yn llwyddiannus.
|
|
|
|
|