|
|
Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
|
|
Maesgriffith yn croesawu preswylwyr newydd
Mae cwblhau datblygiad Maesgriffith yn garreg filltir arall yn rhaglen dai Cyngor Sir Gaerfyrddin, gan ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol a helpu i fynd i'r afael â'r galw am dai yn yr ardal.
Mae'r datblygiad yn cynnwys 12 cartref modern, ynni-effeithlon, ac mae'r tenantiaid bellach wedi dechrau ymgartrefu yn eu cymuned newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi Cyngor Sir Caerfyrddin:
“Mae mynediad at gartrefi fforddiadwy o ansawdd da yn gwella iechyd a llesiant ac yn helpu i adeiladu cymunedau cryf, cynaliadwy. Bydd y cartrefi newydd hyn yn creu cymdogaethau diogel, bywiog y gall teuluoedd ymfalchïo ynddyn nhw, tra hefyd yn cefnogi ein heconomi leol trwy ddenu a chadw gweithlu cryf.”
Mae'r cartrefi wedi'u hadeiladu i safon uchel ac maen nhw'n cynnwys nodweddion ynni-effeithlon sydd wedi'u cynllunio i helpu i leihau costau ynni cartrefi wrth gefnogi uchelgeisiau amgylcheddol y Cyngor.
|
|
|
Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld yn Tenant i Denant
Rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o bynciau sy'n bwysig i chi fel tenant a phreswylydd Sir Gaerfyrddin yn y llythyr newyddion hwn.
Dywedwch wrthym pa fath o wybodaeth, newyddion a chyngor fyddai'n ddefnyddiol i ni eu cynnwys.
|
Rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein
Oeddech chi'n gwybod y gallwch roi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein?
Mae rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein yn golygu bod eich cais yn cael ei anfon yn syth at y tîm a bydd yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl.
|
|
Angen help i aros yn annibynnol gartref?
Ydych chi'n cael trafferth symud o amgylch eich cartref oherwydd salwch, cyflwr neu anabledd?
Efallai y gallwn ni addasu eich cartref i'ch helpu chi i fyw’n fwy annibynnol? Pan fydd eich cartref yn cael ei 'addasu', mae'n cael ei newid fel ei fod yn fwy addas i ddiwallu eich anghenion corfforol. Gall addasiadau gynnwys ramp, lifft grisiau neu gawod hygyrch. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol, ond bydd yr addasiadau y gallwn ni eu cynnig yn dibynnu ar eich anghenion ac ar eich cartref yn dilyn asesiad gan Therapydd Galwedigaethol.
Ar gyfer denantiaid y cyngor, ni fydd yn rhaid i chi dalu am y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn eich cartref. Mae'n annhebygol y bydd eich rhent yn cynyddu o ganlyniad i'r addasiad i'ch cartref, ond byddwn ni'n trafod hyn gyda chi cyn bwrw ymlaen â'r gwaith os bydd yn effeithio ar eich rhent.
|
Gallwch chi neu aelod o'r teulu wneud cais yn uniongyrchol (neu gall weithiwr proffesiynol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol eich atgyfeirio). Bydd asesiad yn cael ei gynnal gan therapydd galwedigaethol a fydd yn gweithio gyda ni i ddarganfod pa newidiadau y gallwn ni eu gwneud i'ch helpu chi i fyw'n fwy diogel ac annibynnol yn eich cartref. Ar gyfer addasiadau bach, er enghraifft canllaw cydio, nid oes angen asesiad. Gallwch wneud cais dros y ffôn.
Os na allwn addasu eich cartref i ddiwallu eich anghenion, gallwn siarad â chi am symud i gartref arall sydd eisoes wedi'i addasu, neu y gallwn ei addasu i weddu i'ch anghenion.
|
|
|
Newidiadau i gasgliadau ailgylchu a gwastraff yn Sir Gâr dros ŵyl banc yr haf
Gwiriwch eich dyddiadau casglu ailgylchu a gwastraff cyn gŵyl banc yr haf, ddydd Llun, 31 Awst.
Bydd yr holl gasgliadau’n digwydd un diwrnod yn hwyrach na’r arfer. Dyma pryd bydd eich biniau’n cael eu casglu:
|
Diwrnod casglu arferol
|
Diwrnod casglu gŵyl banc
|
|
Dydd Llun, 31 Awst
|
Dydd Mawrth, 1 Medi
|
|
Dydd Mawrth, 1 Medi
|
Dydd Mercher, 2 Medi
|
|
Dydd Mercher, 2 Medi
|
Dydd Iau, 3 Medi
|
|
Dydd Iau, 3 Medi
|
Dydd Gwener, 4 Medi
|
|
Dydd Gwener, 4 Medi
|
Dydd Sadwrn, 5 Medi
|
Bydd casgliadau ar gyfer gwastraff hylendid a chewynnau a gwastraff gardd hefyd yn dilyn yr amserlen newydd.
Rhowch eich biniau allan erbyn 6am ar eich diwrnod casglu newydd. Cofiwch am y terfyn o dri bag du a golchwch a gwasgwch eich deunydd ailgylchu.
|
Os bydd unrhyw darfu ar wasanaethau, bydd y wybodaeth yn cael ei rhoi ar wefan y cyngor ar ôl 2pm ar ddiwrnod eich casgliad. Cofiwch wirio’r wybodaeth ddiweddaraf cyn rhoi gwybod am wastraff sydd heb ei gasglu.
Rhannwch y wybodaeth hon ag aelodau o’r teulu, ffrindiau neu gymdogion sydd efallai yn dibynnu ar eraill am ddiweddariadau a gwybodaeth.
|
|
|
|