|
|
Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
|
|
Diwrnod y Lluoedd Arfog
Helen a Gareth yn cynrychioli Tai ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog Sir Gaerfyrddin ym Mhen-bre. Roedden nhw wrth law drwy'r dydd yn ateb cwestiynau, rhannu cyngor, a phrofi bod pob tasg yn haws gyda'r cyngor a'r gefnogaeth gywir.
|
Cwblhau 16 o gartrefi ynni-effeithlon newydd ym Mharc Pendre, Cydweli
Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod y gwaith o adeiladau 16 o gartrefi fforddiadwy newydd ym Mharc Pendre wedi'i gwblhau, gan helpu i ddiwallu anghenion tai lleol wrth greu cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Mae'r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o gartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely, pob un yn cynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli solar a lefelau uchel o inswleiddio i helpu preswylwyr i leihau costau ynni ac allyriadau carbon.
Mae'r datblygiad eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar denantiaid newydd, gyda thrigolion yn disgrifio eu cartrefi fel rhai 'diogel', 'wedi'u cynllunio'n dda' ac yn 'newid bywyd'. Dywedodd un tenant fod ei gartref newydd wedi gwella ei iechyd meddwl, tra bod un arall yn canmol pa mor hwylus a chysurus yw'r cartref. Mae teuluoedd hefyd wedi croesawu'r cyfle am ddechrau newydd mewn cartref o ansawdd uchel ac ynni-effeithlon.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Schiavone, Aelod Cabinet dros Gartrefi: "Mae mynediad at gartrefi fforddiadwy o ansawdd da yn gwella iechyd a llesiant ac yn helpu i adeiladu cymunedau cryf, cynaliadwy."
|
 |
|
|
Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld yn Tenant i Denant
Rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o bynciau sy'n bwysig i chi fel tenant a phreswylydd Sir Gaerfyrddin yn y llythyr newyddion hwn.
Dywedwch wrthym pa fath o wybodaeth, newyddion a chyngor fyddai'n ddefnyddiol i ni eu cynnwys.
|
Rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein
Oeddech chi'n gwybod y gallwch roi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein?
Mae rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein yn golygu bod eich cais yn cael ei anfon yn syth at y tîm a bydd yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl.
|
|
Cartrefi gofal
Mae staff yn ein cartrefi gofal yn cadw'n oer ac yn cymryd seibiant haeddiannol i adnewyddu, i dorri syched ac i fagu nerth yn ystod y tywydd poeth cyn dychwelyd i ddarparu gofal rhagorol. Os hoffech ddod i weithio yn un o'n cartrefi gofal, cliciwch isod i gael rhagor o wybodaeth.
|
System Tai CX
Fel rhan o'n proses symud i system TG Tai newydd, ni fydd datganiadau rhent yn cael eu cyhoeddi y chwarter hwn.
Yn ystod y cyfnod hwn, fyddwch chi hefyd ddim yn gallu gweld eich cyfrif rhent drwy FyNghyfrif.
I gael gwybodaeth am eich cyfrif rhent, anfonwch e-bost at housingrents@sirgar.gov.uk.
|
Gwneud y gorau o'n mannau gwyrdd yr haf hwn
Mae gwyliau'r haf wedi cyrraedd ac rydyn ni'n annog plant a theuluoedd i fynd mas a manteisio i'r eithaf ar y mannau gwyrdd ar ein stadau. Rydyn ni wedi bod yn torri'r mannau glaswellt ar ein stadau i baratoi am hyn. Ond byddai ychydig o law'n helpu i'w gwneud yn wyrdd eto!
Rydyn ni'n annog rhieni a gofalwyr i fanteisio ar y mannau lleol hyn; mae treulio amser yn yr awyr agored yn ffordd wych i blant aros yn egnïol, gwella eu llesiant corfforol a meddyliol, a mwynhau amser gyda ffrindiau a theulu. P'un a yw'n rhedeg ar hyd y lle gyda ffrindiau, chwarae gemau pêl, archwilio byd natur neu fwynhau awyr iach, mae ein stadau yn cynnig llawer o fannau 'gwyrdd' ac yn darparu lle diogel a hwylus i blant chwarae'n agos at adref.
Gadewch i ni wneud y gorau o'r tywydd braf a mwynhau haf iach ac egnïol yn ein cymunedau lleol.
|
|
|
Gwybodaeth bwysig am gasgliadau ailgylchu
Bydd ein gwasanaeth ailgylchu newydd yn lansio o ganol/diwedd tymor yr hydref, 2026.
Bydd rhyw un o bob tri chartref, yng ngorllewin Sir Gâr yn bennaf, yn symud i wasanaeth casglu deunydd ailgylchu newydd o'r enw Ailgylchu ar Wahân. Bydd y cartrefi sy'n newid i'r gwasanaeth newydd yn dechrau didoli eu deunydd ailgylchu i sachau a chynwysyddion ar wahân sy'n gallu cael eu hailddefnyddio, yn hytrach na defnyddio bagiau glas untro.
Bydd y ddwy ran o dair o gartrefi sy'n weddill yn parhau i gael y gwasanaeth Ailgylchu Cymysg (bagiau glas) presennol am y tro.
Bydd pob cartref yn y sir yn derbyn llythyr yn yr wythnosau nesaf yn cadarnhau pa wasanaeth ailgylchu sy'n berthnasol i’ch cartref.
|
Oes gennych chi gwestiynau am y gwasanaeth ailgylchu newydd? Ewch i'n tudalen we i gael atebion i gwestiynau cyffredin
|
|
|
|