Pythefnos Gofal Maeth: Dyma yw Maethu
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn dathlu Pythefnos Gofal Maeth (11-24 Mai), sy'n gyfle i dynnu sylw at sut beth yw maethu o ddydd i ddydd mewn gwirionedd.
Roedd thema eleni, Dyma yw Maethu, yn edrych ar brofiadau go iawn, bob dydd maethu – yr heriau, y llawenydd, a'r gwahaniaeth gall cartref sefydlog llawn gofal ei wneud.Â
Lleisiau plant trwy gelf
Helpodd ein plant a'n pobl ifanc i ddangos beth yw maethu drwy rannu beth mae'n ei olygu iddyn nhw ar ffurf gwaith celf, a gafodd ei gyflwyno i gystadleuaeth gan Y Rhwydwaith Maethu.

- Fe wnaeth G (12) boster ar thema pêl-droed.
- Fe wnaeth R (7) symbol ar ffurf calon. Mae Roxy yn ddieiriau ac mae ganddi anghenion cymhleth, ac mae'n defnyddio symbolau i gyfathrebu – rhywbeth mae ei gwaith celf yn ei adlewyrchu'n hyfryd.
- Fe wnaeth V (14) ddylunio poster â llaw.
- Fe wnaeth S (16) greu collage ffotograffau.
- Fe wnaeth A (3 mis oed) greu calon ôl traed, gydag ychydig o gymorth gan y plant eraill, a oedd yn awyddus i wneud yn siŵr ei bod hi'n gallu ymuno a chreu ei darn cyntaf o gelf.
Mae'r darnau hyn yn dweud mwy na gall geiriau am sut beth yw maethu. Rydym yn hynod falch ohonyn nhw am rannu eu straeon.
Beth ddywedodd gofalwyr maeth wrthym
 Clywsom hefyd gan ofalwyr maeth ledled Maethu Cymru am gefnogi plant sydd wedi profi trawma:
- Mae 80% o ofalwyr wedi cefnogi plant sy'n dangos ymddygiadau sy'n gysylltiedig â thrawma.
- Mae 50% yn gweld gwelliant sylweddol o fewn 6 mis.
- Mae 93% yn teimlo'n hyderus wrth ymateb i ymddygiadau sy'n gysylltiedig â thrawma.
Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw amynedd, cysondeb a thosturi wrth faethu, a'r gwahaniaeth mae'n ei wneud dros amser.
Profiad gofalwr maeth lleol
Mae Ammanys, gofalwr maeth yn Sir Gaerfyrddin, yn rhannu sut beth yw cefnogi plant sydd wedi profi trawma.
Mae'r tro cyntaf i blentyn chwerthin, rhannu gwybodaeth am ei ddiwrnod neu ofyn am wylio ffilm yn eiliadau y gallai llawer o bobl eu cymryd yn ganiataol. I ofalwyr maeth, gallant olygu rhywbeth llawer mwy.
"Nid yw maethu yn golygu trwsio popeth. Mae'n golygu bod yno, aros, a dangos i blant eu bod yn ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi - hyd yn oed pan fyddan nhw'n eich gwthio i ffwrdd."
|
Dyma yw Maethu. Pobl leol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant lleol.
|