Delta i Chi: darparu cymorth ychwanegol i'ch helpu i aros yn ddiogel ac yn annibynnol gartref
Mae Llesiant Delta wedi lansio Delta i Chi, sef gwasanaeth larwm personol ac ymateb i helpu pobl ledled Sir Gaerfyrddin i fyw'n ddiogel, yn annibynnol ac yn dawel eu meddwl yn eu cartrefi eu hunain.
I lawer o denantiaid, yn enwedig y rhai sy'n byw ar eu pennau eu hunain, sydd â chyflyrau iechyd neu anableddau, neu sy'n mynd yn hŷn, gall gwybod bod help bob amser ar gael wneud gwahaniaeth mawr.
Os ydych chi wedi cael codwm, yn teimlo'n sâl, neu angen help brys, mae cymorth ar gael drwy wasgu botwm, ddydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn.
Mae'n cynnwys:
- Larymau personol a synwyryddion cwympo fel y gallwch chi alw am help yn gyflym os bydd rhywbeth yn mynd o'i le
- Monitro 24/7 gan ymgynghorwyr lleol cyfeillgar sy'n gallu siarad â chi a chael yr help cywir
- Gwasanaeth ymateb lleol, lle gall staff hyfforddedig ddod mas a'ch helpu ar ôl codwm neu argyfwng arall
- Galwadau cyfeillgar i wirio llesiant, gan gynnig sicrwydd a chyswllt rheolaidd
Mae rhai larymau hefyd yn gallu gweithio y tu fas i'r cartref, gan helpu pobl i deimlo'n hyderus i fod yn egnïol ac yn annibynnol.
Mae'r prisiau'n dechrau o £4.85 yr wythnos, ac mae'r gwasanaeth yn cynnig nifer o opsiynau hyblyg ar gyfer anghenion gwahanol, boed hynny'n sicrwydd sylfaenol neu gymorth mwy rheolaidd.
Mae Llesiant Delta yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad o gefnogi pobl yn lleol. Mae ein gwasanaethau yn cael eu darparu gan staff hyfforddedig a gofalgar sydd ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn.
|
Hwyl i'r Teulu yn Sir Gâr dros Hanner Tymor y Sulgwyn
Wrth i'r ysgolion gau ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn, mae Sir Gâr yn cynnig amrywiaeth wych o weithgareddau i deuluoedd fwynhau gyda'i gilydd. O anturiaethau yn yr awyr agored a phrofiadau wedi'u hysbrydoli gan natur i berfformiadau theatr, arddangosfeydd mewn amgueddfeydd a sesiynau creadigol mewn llyfrgelloedd, mae digon o ffyrdd cost isel ac am ddim ar gael i wneud y gorau o'r seibiant.
P'un a ydych chi'n chwilio am ddiwrnodau mas egnïol, ymweliadau diwylliannol hamddenol, neu rywbeth i'w wneud beth bynnag fo'r tywydd, mae gan Sir Gâr rywbeth i bobl o bob oed beth bynnag eu diddordeb.
Gallwch weld rhestr lawn o'r gweithgareddau ar dudalen 'Be sy' mlaen' Darganfod Sir Gâr
|
"Wrth wraidd y cyfan mae plentyn sydd angen i chi ofalu amdanyn nhw a'u caru"
I lawer o ofalwyr maeth, yr eiliadau bach sy'n golygu fwyaf. Y chwerthiniad cyntaf, plentyn yn bod yn agored, neu’n syml yn teimlo'n ddigon diogel i ofyn am help.
Mae Ammanys o Sir Gaerfyrddin yn rhannu ei phrofiad o faethu ochr yn ochr â'i mam, Louise, gan gefnogi plant sydd wedi profi trawma. Fel llawer o ofalwyr, maen nhw wedi gweld sut y gall gofal bob dydd, amynedd a dealltwriaeth arwain at ddatblygiadau pwerus.
Canfu arolwg cenedlaethol gan Faeth Cymru:
-Mae tua 80% o ofalwyr wedi cefnogi plant sy'n dangos ymddygiadau sy'n gysylltiedig â thrawma.
-Mae hanner yn gweld cynnydd sylweddol o fewn chwe mis.
-Mae 93% yn teimlo'n hyderus wrth ymateb i ymddygiadau sy'n gysylltiedig â thrawma Os ydych chi erioed wedi ystyried maethu, efallai mai nawr yw'r amser perffaith. Gall yr eiliadau bach hynny newid bywyd plentyn, a'ch un chi.
|
Gwneud cais am le rhan-amser mewn meithrinfa
 |
|
Gall plant a anwyd rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024 ddechrau mewn Ysgol Feithrin yn rhan-amser ym mis Ionawr, mis Ebrill neu fis Medi 2027. Gwnewch gais ar-lein am le rhan-amser mewn Ysgol Feithrin erbyn y dyddiad cau sef 31 Gorffennaf 2026. Mae ceisiadau hwyr yn llai tebygol o gael lle. |
Deddf Hawliau Rhentwyr
Newidiadau i'ch contract tai yng Nghymru (o 1 Mehefin 2026)
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, sy'n cael ei diweddaru o 1 Mehefin 2026, yn berthnasol i'ch cartref chi.
Mae dwy hawl newydd yn cael eu hychwanegu at bob contract meddiannaeth. Mae'r rhain yn "dermau sylfaenol", sy'n golygu eu bod yn berthnasol i bob tenant ac ni ellir eu dileu oni bai ei fod o fudd i chi.
Beth yw'r hawliau newydd?
- Dim gwahaniaethu os oes gennych blant. Ni all eich landlord eich trin yn annheg oherwydd bod gennych blant, plentyn yn byw gyda chi neu fod plentyn yn ymweld â'ch cartref.
- Dim gwahaniaethu os ydych chi'n derbyn budd-daliadau Ni all eich landlord eich trin yn annheg oherwydd eich bod yn derbyn Budd-dal Tai, Credyd Cynhwysol neu fudd-daliadau eraill.
A oes unrhyw derfynau? Mewn rhai achosion, gall cyfyngiadau fod yn berthnasol os ydynt yn rhesymol ac yn angenrheidiol. Er enghraifft:
- Os yw'r eiddo yn rhy fach
- Rhesymau iechyd a diogelwch
- Os yw'r cartref wedi'i gynllunio ar gyfer grŵp penodol (fel tai pobl hŷn neu lety â chymorth)
- Mae'r llety yn darparu cymorth arbenigol
Gall plant ymweld â'ch cartref. Os yw plentyn yn byw gyda chi yn y tymor hir, efallai y bydd angen i'ch landlord wirio bod yr eiddo yn addas.
Oes angen i chi wneud unrhyw beth? Nac oes. Bydd eich landlord yn cysylltu â chi erbyn 14 Mehefin 2026 gyda gwybodaeth wedi'i diweddaru.
|